Dad yn siarad ar Sul y Tadau am brofiad anhygoel o fabwysiadu

Mae tad mabwysiadol i ddau wedi sôn am y fraint y mae’n teimlo wrth wylio ei blant yn ffynnu ac yn tyfu.

Mae Alex* wedi disgrifio dod yn dad fel ‘math cwbl newydd a rhyfeddol o lawenydd’, ac ar Sul y Tadau mae’n annog mwy o ddynion i ystyried mabwysiadu.

Drwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae Alex yn adrodd ei stori gan obeithio y bydd yn ysbrydoli.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi teuluoedd ac unigolion yn ystod pob cam o’r daith fabwysiadu, gan baru plant â phobl sy’n gallu rhoi bywyd teuluol cariadus, diogel a sefydlog iddynt.

I Alex a’i wraig, daeth eu penderfyniad i fabwysiadu ar ôl triniaeth ffrwythlondeb aflwyddiannus a’u harweiniodd i feddwl am eu cynlluniau o ran teulu.

Wrth gysylltu â thîm mabwysiadu eu hawdurdod lleol, cafodd y cwpl eu paru â bachgen bach ychydig dros flwyddyn ar ôl gwneud eu hymholiad cyntaf.

“Roedden ni wastad wedi siarad am fabwysiadu fel ffordd bosibl o ddechrau teulu,” meddai. “Gwnaethon ni roi cynnig ar rownd o IVF pan oedd hi’n amlwg na allen ni feichiogi’n naturiol, ond ar ôl i hynny fethu cymeron ni amser i fyfyrio.

“Dechreuon ni’r broses ym mis Ionawr. Cawson ni flwyddyn eithaf normal wrth fynd drwy’r broses – aethon ni i’r gwaith fel arfer, mynd i wyliau, ar wyliau, treulio amser gyda theulu a ffrindiau – yn ogystal â mynd i gyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol a mynychu cyrsiau.

“Gwnaethon ni geisio darllen cymaint ag y gallen ni a mynychu cyrsiau a hyfforddiant ychwanegol y tu allan i’r rhai a drefnwyd gan yr awdurdod lleol. Gwnaed penderfyniad gan y panel cymeradwyo ym mis Rhagfyr ac ar ôl bod yn llwyddiannus nid oedd gennym amser hir i aros cyn i blentyn gael ei baru â ni.

“Wnaethon ni ddim nodi y byddai bachgen neu ferch yn well gennym, ond roedd yr awdurdod lleol yn dda iawn o ran dod o hyd i blentyn oedd yn cyd-fynd â’n ffordd o fyw a’n proffiliau.

“Mae gan bob un ohonom ffyrdd o ddod o hyd i’n llawenydd ein hunain, ond roedd dod yn dad yn fath cwbl newydd a rhyfeddol o lawenydd nad oeddwn wedi’i brofi o’r blaen.”

Gan eu bod wedi cael profiad mor gadarnhaol, penderfynodd Alex a’i wraig fabwysiadu eto ddwy flynedd yn ddiweddarach.

“Roedd yn broses symlach yr eildro, gan ein bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl,” meddai. “Roedd gennym weithiwr cymdeithasol gwahanol nad oedd wedi gweithio gyda phobl oedd yn mabwysiadu am yr eildro o’r blaen, felly roedd hi’n synnu braidd at lefel ein hyder!”

Mae Alex bellach yn cyfaddef ei fod yn siarad am fabwysiadu drwy’r amser ac mae’n dweud bod mabwysiadu wedi bod yn brofiad cadarnhaol.

“Ar ôl treulio blynyddoedd lawer heb blant yn fy mywyd a dod o hyd i lawenydd mewn sawl ffordd arall, rwy’n ymdrechu’n galed i beidio ag awgrymu bod pobl heb blant rywsut yn israddol, ond mae’n fraint lwyr gallu darparu amgylchedd diogel i ddau blentyn i’w gwylio’n ffynnu ac yn tyfu.

 “I unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu, byddwn yn eich cynghori i ddechrau ar y broses gyda’ch llygaid ar agor gan y bydd problemau annisgwyl yn codi, ond dyfalbarhewch – rydym yn siarad am blant, nid angenfilod!

“Mae llawer o grwpiau cymorth ar gyfer mamau mabwysiadol, ond ychydig iawn i dadau, felly manteisiwch ar unrhyw gyfle i fynd am gwrw gyda thad mabwysiadol – fe welwch fod mabwysiadu yn llawer mwy normal a chyffredin nag yr ydych yn ei feddwl! Ac os oes gennych fynediad i sianel Apple TV, gwyliwch ‘Trying’. Crynodeb doniol a gweddol gywir iawn o’r holl broses!”

Ar Sul y Tadau eleni – os yw’r tywydd yn caniatáu – mae Alex a’i deulu yn mynd i wersylla.

“Roedd y berthynas oedd gen i gyda fy nhad fy hun yn llawer mwy traddodiadol, felly rwy’n ceisio bod yn llawer mwy agored a chariadus gyda fy mhlant. Pan fydda i’n treulio amser gyda fy ffrindiau sydd hefyd yn dadau, dydw i ddim yn teimlo’n wahanol iddyn nhw – rwy’n caru fy mhlant yn ddiamod ac rwy’n hynod falch ohonyn nhw.”

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn wasanaeth pwrpasol sy’n cefnogi teuluoedd sy’n mabwysiadu i ddod at ei gilydd.

Mae’r tîm yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn asesu darpar fabwysiadwyr i ddarparu lleoliadau mabwysiadu o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, gan eu galluogi i fyw gyda theuluoedd newydd, parhaol.

Nid oes meini prawf penodol ar gyfer dod yn rhiant mabwysiadol – does dim ots a oes gan ddarpar fabwysiadwyr blant eisoes, p’un a ydynt yn sengl neu’n gwpl (yn syth neu’n LHDT+), p’un a ydynt yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.

Mae plant yn cael eu paru a’u lleoli gyda rhieni mabwysiadol ar ôl asesu eu bod â’r sgiliau i ddiwallu anghenion y plant a’u bod yn gallu darparu sefydlogrwydd a chyfle iddynt ffynnu.

Darperir cymorth parhaus i fabwysiadwyr a’u teuluoedd drwy gydol oes y plentyn mabwysiedig.

Yn lleol, mae angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu’r un diwylliant, iaith a chrefydd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb fynd i mabwysiaducgcymru.org.uk i gael cyngor a gwybodaeth.

Cynhelir sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mercher, 21 Gorffennaf 2021, am 6.30pm – cofrestrwch cyn dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2021.

Gellir gwneud ymholiadau hefyd gydag aelod o’r tîm mabwysiadu – anfonwch neges e-bost at adoptionenquiries@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0300 30 32 505.

* Newidiwyd enwau er mwyn diogelu manylion personol y plant.

Pa fath o Archarwr ydych chi?

Plant yw’r arwyr di-glod o’r Pandemig Coronafeirws. A allwch chi ddangos i ni sut fyddech chi’n portreadu eich hun fel Archarwr? Pa fath o Archarwr yr hoffech chi fod?

Gallwch wneud hyn trwy wneud llun, paentiad, gludwaith, comic, ffilm fer neu drwy ffotograffiaeth. Efallai y byddai’n well gennych chi ddangos i ni trwy greu model 3D gan ddefnyddio deunyddiau cymysg, toes chwarae neu glai. Fe allech chi hyd yn oed greu eich gwisg eich hun neu wneud pyped gan ddefnyddio gwahanol ddefnyddiau.

Grwpiau Oedran

  • Dan 4 oed
  • 4 – 7 oed
  • 8 – 11 oed
  • 12 – 15 oed
  • 16 – 18 oed

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb 10 punt.

Gwobrau

Bydd enillwyr o bob grŵp oedran yn ennill mynediad diwrnod i atyniad o’u dewis.

Dyddiad Cau

Dydd Gwener, 2il Gorffennaf 2021

I gystadlu, cwblhewch ffurflen gais ac anfonwch eich gwaith atom yn electronig trwy ein gwefan.

 Canllawiau a rheolau

  • Un ymgais yn unig fesul plentyn/person ifanc.
  • Rhaid cyflwyno’r gwaith erbyn 5yp ar ddydd Gwener yr 2il o Orffennaf 2021. Anfonwch eich gwaith drwy un o’r fformatau canlynol: pdf, jpeg, doc, mp3, m4a, mp4, wmv neu avi.
  • Rhaid i bob darn o waith gael ei wneud gan y plentyn neu’r person ifanc yn unig.
  • Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb gwerth 10 punt. Rhaid darparu cyfeiriad ar y ffurflen ymgeisydd.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a’u cyhoeddi ar y 23ain o Orffennaf 2021.
  • Bydd enillwyr yn derbyn eu gwobrau yn fuan ar ôl y 23ain o Orffennaf 2021.

Pa fath o Archarwr ydych chi?

"*" indicates required fields

Cyfeiriad*
Caniatâd
Hoffem arddangos gwaith eich plentyn ar ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag yn ein seremoni Dathlu Gwaith Taith Bywyd yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2021. Byddwn yn anhysbysu unrhyw fanylion personol a ddangosir yn y gwaith. Ticiwch y blwch/blychau perthnasol isod os ydych yn caniatáu hyn. Rwyf yn caniatáu Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i arddangos gwaith fy mhlentyn:
Max. file size: 100 MB.

Baromedr Mabwysiadu

Arolwg Adoption UK 2021

Cymerwch ran yn Arolwg Baromedr 2021. Mae angen eich ymatebion ar Adoption UK i helpu i gyfrannu at adroddiad blaenllaw ar fabwysiadu yn y DU, a gyhoeddir yr haf hwn.

Mae Adoption UK yn awyddus ichi leisio eich barn p’un a ydych yn ddarpar fabwysiadwr, neu’n mabwysiadu ers blynyddoedd lawer. Arolwg trylwyr yw hwn, felly cymerwch eich amser, a chwblhewch bob adran mor gyflawn â phosibl.

Cynhelir yr arolwg hwn bob blwyddyn i weld sut y mae pethau yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Gofynnir ichi roi sylw i’ch profiadau yn 2020 yn unig.

Beth yw’r Baromedr Mabwysiadu?

Y Baromedr Mabwysiadu yw’r unig asesiad cynhwysfawr o fywydau teuluoedd sy’n mabwysiadu ledled y DU – a’r polisïau sy’n rheoli mabwysiadu. Mae’r Baromedr, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, yn archwilio profiadau teuluoedd trwy gydol y daith fabwysiadu, o ddarpar fabwysiadwyr i’r rhai y mae eu plant bellach yn oedolion ifanc.

Mae’n seiliedig ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr – yn 2020, ymatebodd bron i 5,000 o bobl.

Pa effaith y mae’n ei chael?

Oddi ar adroddiad Adoption UK yn 2019, mae cynnydd wedi’i wneud – Yng Nghymru buddsoddwyd £2.3m mewn gwasanaethau mabwysiadu.

Dengys yr adroddiad fod mabwysiadwyr yn parhau i fod yn bositif ac yn wydn – byddai 73% yn annog eraill i fabwysiadu. Ond mae teuluoedd yn dal i gael trafferth i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r adroddiad eleni yw’r methiant i ddarganfod a thrin niwed i’r ymennydd a achosir gan blant yn dod i gysylltiad ag alcohol yn y groth. Dengys yr adroddiad fod un o bob pedwar o blant mabwysiedig naill ai’n cael eu diagnosio ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD), neu yr amheuir eu bod yn dioddef ohono.

Rhagor o Wybodaeth 

50% oddi ar Aelodaeth Deuluol Adoption UK

Rydym yn cynnig 50% oddi ar Aelodaeth Deuluol Adoption UK ar gyfer pob aelod newydd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymunwch â Adoption UK fel aelod o’r teulu a dod yn rhan o gymuned sy’n poeni’n angerddol am fabwysiadu. Mae’r Aelodaeth Deuluol ar gyfer rhieni mabwysiadol a darpar fabwysiadwyr.

Beth sydd wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Deuluol?

Cyngor a chymorth

  • Gweminarau rhyngweithiol a gynhelir gan weithwyr proffesiynol, arbenigwyr a’r rhai sy’n gysylltiedig â mabwysiadu.
  • Grwpiau cymunedol lleol sy’n dod â theuluoedd mabwysiadol at ei gilydd yn yr un ardal ar gyfer cymorth a digwyddiadau gan gymheiriaid.
  • Cyfarfodydd rhithwir lle gall mabwysiadwyr gysylltu â’i gilydd a staff Adoption UK.
  • Fforwm ar-lein lle gall darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr sefydledig sgwrsio, trafod a rhannu eu straeon.
  • Llinell gymorth sy’n cael ei rhedeg gan dîm arbenigol yn Adoption UK.

Gwybodaeth ac adnoddau

  • Cylchrawn Adoption Today bob deufis sy’n llawn newyddion, adnoddau a mewnwelediad mabwysiadu.
  • Adnoddau ar gyfer aelodau yn unig. Mae hyn yn cynnwys llyfrgell fideo o weminarau a llu o daflenni ffeithiau defnyddiol ar bynciau fel absenoldeb mabwysiadu, ymlyniad a rhianta plant yn eu harddegau.
  • Llyfrgell fenthyca Adoption UK sy’n cynnwys cannoedd o lyfrau, fideos a gemau therapiwtig.
  • Blogiau a vlogiau sy’n ymchwilio i amrywiaeth o faterion perthnasol ac amserol.

Cynigion a gostyngiadau

  • Mynediad gostyngol i ddigwyddiadau Adoption UK, gan gynnwys y gynhadledd flynyddol.
  • Cyrsiau hyfforddi ar-lein gostyngol sy’n ymdrin â phynciau fel gwaith hanes bywyd, anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws a chefnogi anghenion iechyd meddwl.
  • Cynllun Mantais Adoption UK sy’n cynnig gostyngiadau brandiau mawr ar draws manwerthu, gwyliau, adloniant, yswiriant a chyfleustodau.
  • Gostyngiadau eraill o Jessica Kingsley Publishing a Gwyliau Butlins.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno, anfonwch e-bost at hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk

Gwerthuso Fframwaith Cymorth Mabwysiadu (Cymru)

Gwahoddir chi i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i IPC (Sefydliad Gofal Cyhoeddus) Prifysgol Oxford Brookes i werthuso effaith y Fframwaith Cymorth Mabwysiadu cenedlaethol.

Bydd y gwerthusiad yn parhau o 2020 tan 2021 a bydd yn helpu i ddeall yn well pa fath o gymorth sy’n gweithio i deuluoedd mewn gwahanol amgylchiadau.

Gwahoddwyd chi i gymryd rhan ynghyd â’r holl rhieni eraill sydd wedi mabwysiadu yng Nghymru (rydyn ni’n anelu at sampl o 300 o leiaf). Gyda’ch caniatâd, bydd y gwerthusiad yn golygu cymryd rhan mewn arolwg ar-lein o’ch profiadau wrth geisio help a’i gael ac effaith unrhyw gymorth a dderbyniwyd arnoch chi a’ch teulu. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau.

Caiff y canfyddiadau eu cofnodi mewn o leiaf un adroddiad i’w gyhoeddi ar-lein gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (Cymru) a Llywodraeth Cymru. Gallan nhw hefyd gael eu cyhoeddi mewn cylchgrawn ymchwil perthnasol.

Ni ddatgelir, ar unrhyw gam, enw’r teuluoedd neu aelodau’r teuluoedd sy’n cymryd rhan, yn uniongyrchol na chwaith yn anuniongyrchol wrth riportio.

Ni fydd ymchwilwyr yn IPC, ar unrhyw gam, yn rhannu’ch enw, eich manylion cyswllt nac unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu’ch enw. Yr unig eithriad i hyn ydy os, yn seiliedig ar rywbeth rydych yn ei rannu, bydd ymchwilwyr yn credu bod rhywun mewn perygl o gael niwed. Caiff yr holl wybodaeth a rannwch ei storio’n ddiogel drwy gydol cyfnod y gwerthusiad a’i dinistrio’n ddiogel 1 flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

Chi sydd i benderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr ymchwil ai peidio. Rydych hefyd yn rhydd i dynnu nôl ar unrhyw adeg hyd at bwynt dadansoddi’r data, heb gynnig rheswm. Ni fydd hyn yn effeithio mewn unrhyw fodd ar y cymorth y gallech chi ei dderbyn yn y dyfodol na’ch hawliau cyfreithiol.

Cymeradwywyd yr astudiaeth ymchwil gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Oxford Brooks. Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwerthusiad neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon amdano neu byddech yn hoffi gwneud achwyniad, cysylltwch â Katy Burch, sef y gwerthusydd arweiniol yn y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ar 01225484088 neu anfonwch e-bost at kburch@brookes.ac.uk. Os oes gennych unrhyw bryderon am y modd y cynhelir yr astudiaeth, dylech gysylltu â chadeirydd pwyllgor moeseg y Brifysgol ar ethics@brookes.ac.uk.

Os ydych chi wedi cychwyn yr arolwg ond heb ei orffen eto, tybed wnewch chi wneud hynny cyn gynted ag y gallwch. Os gwnaethoch benderfynu ei ‘arbed a pharhau yn ddiweddarach’, dylech fod wedi derbyn e-bost gan ‘Smart Survey’ a gynhyrchir yn awtomatig gyda dolen gyswllt i fynd yn ôl ato. Os na allwch ddod o hyd i’r e-bost, efallai ei fod wedi mynd i’ch ffolder ‘sbam’ ar ddamwain – efallai byddai’n werth cael golwg yn y fan honno.

Os nad ydych, hyd yma, wedi cychwyn ateb yr arolwg ond yr hoffech wneud hynny, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/AdoptionSupportWalesFamilySurvey/

Bydd yr arolwg yn cau ar Dachwedd 25ain 2020.

2 Swydd Wag – Aelod Annibynnol Panel

Cyfle i ymuno â phanel Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru fel aelod annibynnol – 2 swydd wag

A yw Mabwysiadu wedi cyffwrdd â’ch bywyd? Os felly, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn bod yn Aelod o’r Panel Annibynnol am 1 diwrnod y mis.

Mae Cyngor Sir Powys am benodi aelod annibynnol i Gyd-Banel Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru am gyfnod o bedair blynedd.

Mae’r Panel Mabwysiadu yn gwneud argymhellion am ba mor addas yw unigolion neu gyplau i fabwysiadu plentyn ac yn gwneud argymhellion ar gyfer paru plant sydd â chynllun mabwysiadu a darpar fabwysiadwyr.

Rhaid i chi fod yn gyfrifol, yn ddibynadwy, ac yn gallu darllen ac dehongli llawer iawn o wybodaeth ysgrifenedig gynhwysfawr. Dylai bod gennych brofiad personol o fabwysiadu ac er bod y Panel Mabwysiadu yn cael ei gynnal ar-lein ar hyn o bryd, bydd angen gallu teithio i Baneli Mabwysiadu yn Llandrindod ac Aberhonddu. Rhoddir taliad o £150 ar gyfer pob cyfarfod o’r panel Mabwysiadu i gynnwys amser darllen a phresenoldeb ar y panel.

Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch Claire Phillips, Rheolwr y Tîm Mabwysiadu (Powys) claire.phillips@powys.gov.uk a bydd yn trefnu trafodaeth anffurfiol a fydd yn cael ei dilyn gan gyfweliad.

Dyddiad cau 30.11.2020                                      

Mae’r penodiad yn destun cyfweliad

Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu

Un o’r ffyrdd gorau o ysbrydoli pobl i fabwysiadu yw trwy rannu straeon llwyddiant y rhai sydd wedi bod yno a’i wneud.

Nod Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu, podlediad gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw bod yn adnodd addysgiadol sy’n cynnwys grŵp o fabwysiadwyr yn trafod eu profiadau a rennir gyda’i gilydd.

Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n cynnwys 10 mabwysiadwr o bob rhan o Gymru yn trafod pwnc mabwysiadu gwahanol bob wythnos — o’r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu. Mae straeon yn amrywio o fabwysiadwyr o’r un rhyw a mabwysiadwyr sengl i fabwysiadwyr hŷn a mabwysiadwyr brodyr a chwiorydd.

Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y cyfarfod ond o fewn eiliadau mae fel gwrando ar hen ffrindiau’n siarad. Maen nhw’n chwerthin gyda’i gilydd, maen nhw’n crio gyda’i gilydd.

Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu yn amhrisiadwy p’un a ydych chi eisoes wedi mabwysiadu, yn edrych i ddechrau’r broses neu ddim ond diddordeb mewn gwahanol ffyrdd o gychwyn teulu.

Podlediad

Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu, podlediad mabwysiadu cyntaf Cymru gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn dilyn taith 10 o fabwysiadwyr gyda phrofiadau gwahanol iawn wedi’u dwyn ynghyd i rannu eu straeon â’i gilydd – o’u camau cyntaf i fabwysiadu i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.

Gwrandewch ar y podlediad yma: adoptcymru.com/podlediad

Cofrestrwch ar gyfer gweminar dros ginio i glywed straeon ac awgrymiadau mwy gonest gan fabwysiadwyr a gweithwyr mabwysiadu ledled Cymru https://bit.ly/3d2L2o5.

Baromedr Mabwysiadu

Cymru yn dod i’r brig mewn arolwg mabwysiadu ledled y DU, ond mae angen mwy o gefnogaeth o hyd ar gyfer plant bregus, yn ôl adroddiad

Ochr yn ochr â nodi darlun sy’n gwella ar lawer ystyr, mae tystiolaeth o hyd bod bywydau rhai o blant mwyaf bregus y DU yn cael eu heffeithio gan gyfleoedd a gollwyd i roi cefnogaeth amserol a digonol iddynt, mae adroddiad newydd yn datgelu heddiw.

Mae’r Baromedr Mabwysiadu, a gyhoeddwyd gan yr elusen Adoption UK, yn disgrifio’r effaith ddramatig y gall y gefnogaeth gywir ei chael. Bellach yn ei ail flwyddyn, mae’r Baromedr yn seiliedig ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr. Eleni, ymatebodd 5,000 o bobl i’r arolwg, gyda 361 ohonynt yng Nghymru.

Mae’r Baromedr Mabwysiadu hefyd yn asesu polisïau’r llywodraeth sy’n rheoleiddio mabwysiadu. Polisïau Cymru a sgoriodd orau, gyda thri maes o bolisi yn sgorio ‘da’ – Cymeradwyaethau a Chyfateb, Mabwysiadwyr Newydd eu Lleoli a Theuluoedd Sefydledig. Polisi yn ymwneud â dod o hyd i deuluoedd i blant a sgoriodd orau yn gyffredinol.

Fodd bynnag, sgoriodd pob gwlad yn wael mewn o leiaf un maes polisi. Polisi yn ymwneud ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) a sgoriodd waethaf, gyda’r holl genhedloedd yn cael eu hasesu fel rhai ‘gwael’, ac roedd profiadau mabwysiadu plant â FASD neu yr amheuir eu bod hefyd yn ‘wael’ ym mhob gwlad.

Bu cynnydd yng Nghymru ers Baromedr y llynedd, gan adeiladu ar y gwelliant a welwyd ers i Gymru weithredu ei Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS). Ym mis Mehefin 2019, bu buddsoddiad o £2.3m mewn gwasanaethau mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector, mae peth o’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau newydd gan gynnwys y Gwasanaethau Addysg a Chefnogaeth Therapiwtig mewn Mabwysiadu (TESSA) a gwasanaeth pobl ifanc newydd. Roedd ymatebwyr yng Nghymru gryn dipyn yn fwy cadarnhaol ynghylch eu profiadau o gael gafael ar gymorth yn ystod 2019 nag yr oeddent y flwyddyn flaenorol.

Un o’r prif themâu sydd wedi dod i’r amlwg ledled y DU yw’r methiant i ddarganfod a thrin niwed i’r ymennydd a achosir gan blant yn dod i gysylltiad ag alcohol yn y groth. Mae’r adroddiad yn datgelu bod mwy nag un o bob pedwar o blant mabwysiedig yng Nghymru (28%) naill ai’n cael diagnosis o FASD neu yr amheuir eu bod yn dioddef ohono. Roedd 53% o deuluoedd a holwyd yng Nghymru wedi aros dwy flynedd neu fwy am ddiagnosis, ac roedd 68% yn teimlo nad oedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wybodaeth sylfaenol am y cyflwr hyd yn oed, er bod FASD yn fwy cyffredin yn y boblogaeth yn gyffredinol nag awtistiaeth.

Dywedodd un fam sy’n mabwysiadu, Joanne, o Dde Cymru: “Dywedwyd wrthym y gallai fod gan ein mab FASD pan ddaeth atom yn bedair oed, ond dywedwyd wrthym na fyddem byth yn cael diagnosis am nad oedd ganddo’r nodweddion wyneb cysylltiedig. Buan iawn y daeth yn dreisgar ac yn ymosodol. Byddai’n flin iawn am ddwy awr bob nos pan roedden yn ei roi i’w wely. Byddai’n taflu pethau, taro, cicio, crafu. Rydw i wedi cael tri llygad du ac mae gen i graith ar fy ngên yn sgil cael fy nharo â channwyll. Gwelsom feddygon teulu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant Glasoed (CAMHS), tîm niwro-ddatblygiadol a seiciatrydd plant cyn i feddyg ddiagnosio ein mab â FASD o’r diwedd. Cawsom ein rhyddhau yr un diwrnod heb gynnig unrhyw gefnogaeth. ”

Profodd tua thri chwarter y plant mabwysiedig drais, camdriniaeth neu esgeulustod wrth fyw gyda’u teuluoedd biolegol, yn aml ag effeithiau gydol oes ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a’u gallu i ddysgu. Er gwaethaf yr heriau sylweddol, mae’r adroddiad yn dangos bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn gydnerth – byddai 75% yn annog eraill i ystyried mabwysiadu.

Ond mae methiannau mewn polisi ac ymarferiad a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn golygu bod problemau yn aml yn adeiladu i argyfwng. Mae bron i hanner (48%) y teuluoedd â phlant hŷn yn nodi heriau difrifol, megis cael eu tynnu i mewn i ymddygiad camfanteisiol troseddol, gan gynnwys camfanteisio rhywiol ar blant a gweithgareddau llinellau sirol. Mae mwyafrif llethol (66%) yr ymatebwyr o Gymru sydd â phlant oed ysgol yn rhagweld y byddant yn gadael yr ysgol heb lawer neu ddim cymwysterau oherwydd nad oedd ganddynt y gefnogaeth gywir.

Dywedodd awdur yr adroddiad Becky Brooks: “Mae’n hanfodol yn foesol ac yn economaidd bod teuluoedd sy’n mabwysiadu yn cael y gefnogaeth gywir o’r diwrnod cyntaf. Ac eto, nid oedd gan 68% o’r teuluoedd mabwysiadol newydd a ymatebodd i’r arolwg gynllun cymorth ar waith. Mae’r gost i’r plentyn, y teulu ehangach a’r gymdeithas pan fydd teulu mabwysiadol yn dymchwel, yn annerbyniol.”

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Mae’r Baromedr yn wiriad i’w groesawu gan deuluoedd sy’n mabwysiadu o ran lle’r ydym fel gwasanaeth. Mae’r canfyddiadau’n nodi’n galonogol bod gwelliannau wedi’u gwneud. Maent hefyd yn adlewyrchu lle gwyddom fod mwy o waith i’w wneud, yn benodol mynediad at gymorth mabwysiadu a gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig.

“Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y meysydd hyn dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chefnogaeth cronfa cymorth mabwysiadu o £2.3m gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at adroddiadau yn y dyfodol i weld yr effaith y mae hyn yn ei chael.

“Ar y cyfan, mae yna rai negeseuon cadarnhaol iawn yn yr adroddiad i’w dathlu ac rydym yn falch o weld bod mabwysiadu yng Nghymru mewn lle da o ran ei daith wella. Dyma’r union beth y sefydlwyd NAS i’w gyflawni. “

Mae’r Baromedr Mabwysiadu yn galw ar lywodraethau ym mhob un o bedair gwlad y DU i ddarparu asesiadau therapiwtig manwl ar gyfer pob plentyn cyn iddynt gyrraedd eu teulu newydd, gyda chynlluniau cymorth cyfoes i’w cynnal hyd at oedolion cynnar.

Mae ein gwasanaeth dal ar waith

Mae ein gwasanaeth dal ar waith. Er bod rhaid i ni leihau ymweliadau wyneb yn wyneb, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi dros y ffôn, e-bost neu Microsoft Teams. Mae’r swyddfa ar gau ar hyn o bryd, ond mae croeso i chi gysylltu â’n staff o hyd drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi

Eich barn am gymorth mabwysiadu

Mae Sefydliad Gofal Cyhoeddus Prifysgol Brookes Rhydychen wedi’i benodi’n ddiweddar i werthuso effaith y Fframwaith Cymorth Mabwysiadu ledled Cymru. Rhan allweddol o’r gwerthusiad yw gofyn barn yr holl rieni mabwysiadol am hygyrchedd ac ansawdd cymorth mabwysiadu, gan gynnwys a yw wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac i ba raddau

Bydd y sefydliad yn gofyn am eich barn drwy arolwg (i’w lansio ym mis Hydref eleni) ac, os oes gennych ddiddordeb, drwy gyfweliad dilynol. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y gwerthusiad a dolen atoch yn yr wythnosau nesaf.