Diddordeb mewn mabwysiadu

Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol. Does dim gwahaniaeth os oes gennych blant yn barod, os ydych yn sengl neu’n gwpl, yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.

Rydym yn recriwtio, hyfforddi ac asesu darpar fabwysiadwyr i ddarparu lleoliadau mabwysiadu o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, gan eu galluogi i fyw gyda theuluoedd newydd a pharhaol. Rydym yn cydweddu ac yn lleoli plant gyda rhieni mabwysiadol ar ôl asesu eu bod â’r sgiliau i ddiwallu anghenion y plant ac yn gallu darparu sefydlogrwydd a chyfle iddynt ffynnu. Mae’r tîm yn rhoi llawer o gefnogaeth i fabwysiadwyr a’u teuluoedd, drwy gydol bywyd y plentyn mabwysiedig.

Rydym yn cydweithio’n agos â’n cydweithwyr yn y Timoedd Plant er mwyn sicrhau bod plant sydd i’w mabwysiadu yn cael eu paratoi ar gyfer symud at eu teuluoedd newydd a bod ganddynt rywun i wrando ac i’w helpu drwy gydol y broses.

Beth yw mabwysiadu?
Ffordd o ddarparu teulu newydd i blentyn pan nad yw’n bosibl i’r plentyn fyw gyda’i deulu neu ei theulu geni yw mabwysiadu.

Mae’r plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd angen teuluoedd mabwysiadol yn cynnwys:

  • Plant cyn oed ysgol 0-5 oed
  • Plant oed ysgol hyd at bobl ifanc yn eu harddegau
  • Brodyr a chwiorydd sydd angen bod gyda’i gilydd
  • Plant o grwpiau lleiafrifoedd ethnig
  • Plant ag anableddau corfforol a/neu anableddau dysgu
  • Plant ag ansicrwydd datblygiadol neu salwch sy’n byrhau bywyd
Pwy sy'n gallu mabwysiadu?
Mae arnom angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu’r un diwylliant, iaith a chrefydd.

Gallwch gael eich ystyried os ydych:

  • Yn 21 oed neu’n hŷn. Nid oes terfyn uchaf o ran oedran, ond rhoddir ystyriaeth i’r gwahaniaeth oedran rhyngoch chi a phlentyn sy’n cael ei fabwysiadu. Os ydych yn dymuno mabwysiadu llysblentyn darllenwch y wybodaeth i lys-rieni gan fod y rheoliadau’n wahanol.
  • Yn sengl – yn ddyn neu’n fenyw, gyda phlant neu heb blant
  • Yn byw gyda’ch partner neu’n briod, gyda phlant neu heb blant
  • Wedi ysgaru
  • O unrhyw gefndir ethnig, crefyddol, ieithyddol a diwylliannol
  • Yn anabl
  • Yn gweithio’n llawn-amser / rhan-amser neu os nad ydych yn gweithio

Does dim gwahaniaeth os ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu ar yr amod eich bod yn gallu rhoi diogelwch, sefydlogrwydd a sicrwydd i blentyn.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw beth y gallwch chi ei gynnig i fywyd plentyn. Yn y pen draw, eich parodrwydd chi i ymrwymo i roi cartref cariadus a pharhaol i blentyn fydd yn gwneud y gwahaniaeth.

Er mwyn diogelu plant rhag niwed, mae rhai troseddau sy’n eich gwahardd chi’n syth rhag mabwysiadu. Os ydych wedi eich cael yn euog o drosedd nid yw hynny o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn rhiant mabwysiadol, ond os oes gennych gofnod troseddol, mae’n rhaid ichi roi gwybod i ni.

Ynglŷn â’n plant
Mae angen rhieni mabwysiadol arnom ar gyfer ystod eang o blant, ond ar hyn o bryd mae gennym nifer fawr o blant o dan un oed rydym yn ceisio teuluoedd mabwysiadol ar eu cyfer. Hefyd mae angen dod o hyd i deuluoedd parhaol arnom ar gyfer plant eraill sydd yn aml wedi bod yn aros yn rhy hir, sy’n hŷn, neu sy’n rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd.

Dyma enghreifftiau o blant go iawn y mae angen teuluoedd mabwysiadol arnynt o bosibl (mae eu henwau wedi cael eu newid):

Ethan, 7 mis oed –  ef yw 4ydd plentyn ei fam ac nid yw’n hysbys pwy yw ei dad, ond credir ei fod o gefndir Affro-Caribïaidd. Mabwysiadwyd brodyr a chwiorydd Ethan, a’r gobaith yw y gellir cadw’r cysylltiad rhwng Ethan â nhw. Mae Ethan yn datblygu’n dda ac yn ôl ei ofalwyr maeth, mae’n “bleser gofalu amdano”.


Jason a Krystal, 3 a 4 oed – brawd a chwaer yw’r rhain; mae ganddynt berthynas agos ac maent wastad wedi byw gyda’i gilydd. Mae Krystal yn amddiffynnol iawn o’i brawd bach, ac mae’n aml yn ymddwyn yn hŷn na’i hoedran. Mae hi’n hunanddibynnol iawn ac nid yw’n troi at oedolion i ddiwallu ei hanghenion gofal. Mae’r plant wedi gweld trais domestig yn y cartref ac mae angen rhywun arnynt sy’n deall effaith profiadau trawmatig cynnar.


Emma, 6 mis oed – mae Emma yn fabi cymdeithasol a hapus sy’n ymateb yn dda iawn i’w gofalwyr presennol.  Gwyddys fod mam Emma wedi defnyddio sylweddau yn ystod ei beichiogrwydd, ac o ganlyniad roedd ei bywyd mewn anhrefn lwyr. Mae gan Emma hanner brodyr a chwiorydd sy’n hŷn na hi. Erbyn hyn, teulu estynedig sy’n gofalu am y rheiny gan nad oedd ei mam yn gallu darparu gofal o lefel briodol iddynt. Er nad yw Emma yn dangos unrhyw arwyddion o oedi datblygiadol, mae ansicrwydd o ran y dyfodol o ystyried ei bod mor ifanc ac nad yw’n hysbys pwy yw ei thad biolegol.


Rosie, 2 oed – mae Rosie wedi bod mewn gofal yn hirach na’r disgwyl gan nad oedd trefniadau i aelod o’r teulu ofalu amdani wedi bod yn llwyddiannus. Mae ei rhieni biolegol wedi cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd, ond maent yn derbyn nad ydynt yn gallu darparu’r gofal sydd ei angen arni. Mae cwlwm tynn iawn rhwng Rosie a’i gofalwyr maeth, a bydd angen gwneud tipyn er mwyn sicrhau ei bod yn dawel ei meddwl ynghylch symud i deulu mabwysiadol newydd sy’n gydnerth ac sydd heb ddisgwyliadau uchel o blentyn.


Flynn, 3 oed – dechreuodd dderbyn gofal yn dilyn anaf nad oedd yn ddamwain ac nad oedd modd ei esbonio. Disgrifir Flynn fel bachgen bach tawel sy’n tueddu i chwarae ar ei ben ei hun. Mae angen cartref diogel, cariadus ar Flynn, ynghyd â rhieni sy’n amyneddgar a sylwgar tuag ato. Cyn symud i ofal maeth, câi Flynn ei adael yn aml yng ngofal oedolion anaddas ac roedd wedi symud sawl gwaith. Mae Flynn wedi ymgartrefu’n dda yn ei leoliad ac yn dechrau ymlynu wrth ei ofalwyr maeth. Bellach mae’n ymateb yn dda i strwythur a threfn ddyddiol. Er bod gorchymyn lleoliad wedi’i ganiatáu, rhagwelir y bydd mam fiolegol Flynn yn gwrthwynebu gorchymyn mabwysiadu.

Beth sydd ei angen i fod yn rhiant mabwysiadol?
Bydd angen ichi:

  • Fod yn realistig
  • Bod yn awyddus i helpu plentyn i gyrraedd ei botensial neu ei photensial yn llawn.
  • Dealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin.
  • Personoliaeth ofalgar
  • Synnwyr digrifwch da
  • Yr amser, y lle a’r egni i’w roi i blentyn
  • Parodrwydd i ofyn am a derbyn cymorth, cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol
  • Bod yn wydn
  • Cael cefnogaeth gan deulu a ffrindiau
  • Bod yn hyblyg ac yn anfeirniadol
  • Ddim yn ysmygu neu wedi rhoi’r gorau i ysmygu am flwyddyn os ydych am fabwysiadu plant 0-5 oed

Pethau i’w hystyried

Bydd yn cymryd amser ac ymroddiad i feithrin perthynas lwyddiannus a pharhaol gyda’ch plentyn newydd. Nid yw hyn yn digwydd yn syth a gall gymryd yn fwy na’r disgwyl. Felly, mae’n bwysig meddwl am y canlynol:

  • A oes gennych ddigon o le yn eich cartref?
  • Sut fyddwch chi’n sicrhau cydbwysedd rhwng ymrwymiadau eraill?
  • A oes gennych rwydwaith o gymorth gan deulu a ffrindiau?
  • A yw eich iechyd yn dda?
  • A ydych wedi cwblhau unrhyw archwiliadau ffrwythlondeb?
  • A ydych wedi trafod eich diddordeb mewn mabwysiadu gyda’ch teulu?
  • Sut fyddwch chi’n ymdopi’n ariannol gyda chostau ychwanegol a pharhaus magu plentyn?
  • A ydych wedi ystyried y bydd costau ariannol i chi yn ystod y broses (e.e. profion meddygol, costau’r llys?)
Mathau eraill o fabwysiadu

Mabwysiadu plentyn o wlad arall

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun o un wlad yn mabwysiadu plentyn o wlad arall. Bydd y plentyn yn symud yn gyfreithlon ac yn barhaol o’u teulu geni i’w teulu mabwysiadol. Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol gydag aelod o’r tîm.

Mae rhagor o wybodaeth am fabwysiadu ar dudalennau’r Adran Addysg


Mabwysiadu gan Lys-riant

Mabwysiadu gan lys-riant yw pan fydd rhiant nad yw’n rhiant biolegol yn dymuno mabwysiadu plant ei bartner sydd o dan 18 oed o berthynas flaenorol.

Yn ogystal â mabwysiadu gan lys-riant, mae sawl ffordd arall o sicrhau sefydlogrwydd i’ch teulu.

Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn neu am ffyrdd eraill o ddarparu cartref parhaol i blant neu bobl ifanc, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Paratoi i fabwysiadu - hyfforddi ac asesu

Y Broses Hyfforddiant ac Asesu

Cyn y cewch fabwysiadu plentyn, bydd rhaid i chi a’ch teulu wneud rhywfaint o hyfforddiant ac asesu er mwyn gwneud yn siŵr mai mabwysiadu yw’r peth iawn i chi, eich teulu ac i’r plentyn sy’n cael ei fabwysiadu.

Mae’r broses yn cynnwys:

  • Ymweliad cwnsela cyntaf gan aelod o’r Tîm Mabwysiadu.
  • Cwrs hyfforddiant ‘Paratoi i Fabwysiadu’
  • Ffurflen gais sy’n rhoi caniatâd i ni gynnal archwiliadau a geirdaon personol a phroffesiynol, yn cynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (archwiliad gan yr heddlu) a sgrinio iechyd.
  • Rhoi caniatâd i ni gysylltu ag unrhyw bartneriaid blaenorol ac unrhyw blant rydych chi wedi bod yn rhiant iddynt yn y gorffennol.
  • Asesiad risg ar eich cartref a’ch cerbydau, yn ogystal ag asesiad ar unrhyw anifeiliaid y byddwch yn gofalu amdanynt neu’n berchen arnynt.
  • Bydd aelod penodol o’r tîm gwaith cymdeithasol mabwysiadu yn cynnal asesiad addasrwydd manwl arnoch chi a’ch teulu. Unwaith y bydd hwnnw wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, bydd eich adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron Panel Mabwysiadu. Bydd disgwyl i chi fynychu’r panel.

Ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon, fe allech chi neu’r Asiantaeth Fabwysiadu benderfynu nad yw mabwysiadu’n iawn i chi neu eich teulu, ac fe ddaw’r asesiad i ben.

Rhestr ddarllen a argymhellir:

  • ‘‘Preparing for adoption”   gan Julia Davies
  • ‘‘The unofficial guide to adoptive parenting’’ gan Sally Donovan
  • “The Adopter’s Handbook” gan Amy Salter
  •  “Attachment, Trauma and Resilience” gan Kate Cairns
  • “An Adoption Diary” gan Maria James
  • “Talking about adoption to your adopted child” gan Marjorie Morrison
  • “From fear to Love” gan Bryan Post
  • “Parenting a child with emotional & behavioural difficulties” gan Dan Hughes   (yng nghyfres Parenting Matters)
  • “Adopted Children Speaking” gan Caroline Thomas
  • “Adopters on Adoption: Reflections on parenthood and children” gan David Howe
  • “Life Story Books for Adopted Children; a family friendly approach” gan Joy Rees
Ar ôl cael eich cymeradwyo - beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl ichi gael eich cymeradwyo, yn aml bydd cyfnod o aros cyn y cam nesaf: eich cysylltu chi â phlentyn. Gall hwn fod yn gyfnod rhwystredig, ond bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn cadw mewn cysylltiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi a sicrhau nad ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich anghofio. Pan fyddwn wedi dod o hyd i blentyn a allai fod yn gydweddiad addas, gall y broses o gyflwyno a gosod y plentyn gyda chi ddigwydd yn gyflym iawn.

Bydd lleoliad eich plentyn gyda chi yn cael ei adolygu’n rheolaidd yn ystod y misoedd cyntaf er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn ymgartrefu a bod y teulu’n ymdopi â’r cyfnod hwn o newid. Pan fydd eich plentyn wedi bod gyda chi am o leiaf 10 wythnos, cyhyd â bod y plentyn yn setlo a bod popeth yn mynd yn dda, byddwch yn gallu gwneud cais am orchymyn mabwysiadu trwy’r llysoedd. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn egluro’r broses a’r costau sydd ynghlwm â hyn.

Os na fyddwn wedi dod o hyd i gydweddiad o fewn 3 mis bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at Gofrestr Fabwysiadu Cymru. Fodd bynnag, rydym yn gofyn ichi roi amser inni ar ôl ichi gael eich cymeradwyo er mwyn i’r Asiantaeth Fabwysiadu gael yr amser i edrych ar yr holl bosibiliadau o ran eich cydweddu â phlentyn o Ganolbarth a Gorllewin Cymru.