Rydyn ni’n gwybod mor bwysig ydyw i blant sydd wedi cael eu symud oddi wrth eu teuluoedd i gael sefydlogrwydd cyn gynted â phosibl, i deimlo’n ddiogel ac i gael bywyd y gellir ei ragfynegi gydag oedolion sensitif sy’n eu helpu i adfer. Yn aml, rhaid i’r plant hyn symud droeon wrth i benderfyniadau gael eu gwneud yn y llys am eu dyfodol, ac mae hyn yn hynod o drawmatig iddynt ac yn ychwanegu at y straen a’r golled y maent eisoes wedi eu profi.
Mae SCC yn helpu plentyn neu blant sydd wedi cael eu symud oddi wrth eu teuluoedd i gael y sefydlogrwydd hwn cyn gynted â phosibl, ac mae’n lleihau’r nifer o weithiau y mae’n rhaid i’r plentyn symud. Mae’n golygu bod plant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr SCC, sydd wedi cael cymeradwyaeth ddeuol fel mabwysiadwyr a gofalwyr maeth o gam mor gynnar â phosibl, a chyn i’r cynllun mabwysiadu gael ei gadarnhau gan y llys. Os yw’r llys yn cytuno i gynllun mabwysiadu ar gyfer y plentyn, fe fydd y broses yn llyfn heb i’r plentyn orfod symud oddi wrth y gofalwyr y maen nhw wedi ffurfio cwlwm gyda nhw.
Mewn nifer fechan o achosion, bydd y llys yn gwneud y penderfyniad ei bod yn iawn i’r plentyn ddychwelyd at rieni neu aelodau o’r teulu ehangach. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i bobl sydd eisiau ystyried SCC ymdopi â rhywfaint o ansicrwydd tra bod y llys yn dod i benderfyniad, ac rydyn ni’n gwybod na fydd hyn yn iawn i bawb.
Os ydych chi’n teimlo y gallech ymdopi â rhywfaint o ansicrwydd, fel nad oes rhaid i’r plant hyn ymdopi â’r ansicrwydd, ac os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am SCC, mae yna lawer mwy o wybodaeth ar gael ac mae yna bobl fyddai wrth eu bodd i siarad â chi.
Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth? Os felly, cysylltwch â ni.