Os ydych chi neu eich partner yn llys-riant, mae’n bosibl y bydd gennych bryder ynghylch eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol o ran y plant yn eich teulu. Mae nifer o ddewisiadau ar gael i chi ac mae’n bwysig eich bod yn ystyried yr holl ddewisiadau a’r hyn sy’n gweddu orau i’ch teulu – cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch mabwysiadu llysblant.
Mae dewisiadau eraill megis cytundeb neu orchymyn cyfrifoldeb rhiant. Fel arall, gall Llys gyflwyno Gorchymyn Trefniadau Plentyn ac os yw’r Gorchymyn yn dweud y bydd plentyn yn byw gydag unigolyn penodol yna bydd gan yr unigolyn hwnnw gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn awtomatig.
Mae nifer o ffactorau i’w hystyried – yn enwedig barn y plant ac er y bydd yn dibynnu ar eu hoedran mae’r rhan fwyaf o blant 5 oed neu iau efallai yn gallu bod yn ddigon hen i gael gwybod digon iddynt ddeall beth fydd mabwysiadu yn ei olygu iddynt hwy.
Hefyd mae’n bwysig eich bod chi a’ch partner wedi cael amser digonol i ymgartrefu yn eich perthynas newydd ac mae’n well gennym fod cyplau wedi bod gyda’i gilydd am o leiaf 2 flynedd cyn gwneud cais i fabwysiadu. Nid oes rhaid ichi fod yn briod.
Os dewiswch wneud cais i fabwysiadu mae’n rhaid ichi fod yn hŷn na 21 oed ac mae’n rhaid ichi fod wedi byw yn y Deyrnas Unedig am o leiaf blwyddyn. Bydd rhaid ichi roi gwybod i’ch awdurdod lleol eich bod yn bwriadu mabwysiadu oherwydd bydd rhaid i’r awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a rhoi adroddiad i’r Llys. Bydd angen gwneud hyn o leiaf 3 mis cyn gwneud cais i’r Llys. Bydd angen talu ffi i’r Llys pan fyddwch yn gwneud y cais hwn.
Ar ôl gwneud cais i’r Llys bydd rhaid i’r Awdurdod Lleol gynnal ei ymchwiliadau fydd yn cynnwys cyfweld â’r holl aelodau teulu perthnasol ac yn enwedig unrhyw blant sy’n destun y cais.