Mabwysiadu yn eich busnes

Mae mabwysiadu yn ddewis arwyddocaol sy’n newid bywyd – un o’r rhai mwyaf tyngedfennol y gall unrhyw un ei wneud. Mae’r broses fabwysiadu yn gofyn am ymroddiad, cryn amser a chanolbwyntio. Ond yn bwysicaf oll, mae angen cefnogaeth gan anwyliaid a chyflogwyr.

Er mwyn cynorthwyo busnesau i ddarparu’r cymorth priodol i’w gweithwyr, rydym wedi curadu pecyn cymorth cyflogwr. Mae’r canllaw rhad ac am ddim hwn yn grymuso cyflogwyr i gynorthwyo darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy, o fewn a thu hwnt i faes eu busnes.

Mae ein pecyn cymorth yn rhoi cyfeiriad a chymorth, gan gynnwys gwybodaeth am:

• Sut i hybu cymorth mabwysiadu yn eich gweithle

• Cynnig absenoldeb rhiant i rieni sy’n mabwysiadu

• Rhoi cyhoeddusrwydd i’ch cefnogaeth i fabwysiadu ar-lein

• Helpu rhieni newydd

• Cymryd rhan mewn trafodaethau mabwysiadu gyda’ch cyflogeion

Ymunwch â ni i eiriol dros driniaeth deg i rieni mabwysiadol yn y gweithle. I gael cyngor mwy cynhwysfawr ar sut i wella eich polisïau ac arferion mabwysiadu.