Cymorth i rieni mabwysiadol

Byddwch yn cael cymorth a chyngor Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu penodol, a bydd hynny’n digwydd o ddechrau’r broses asesu hyd at y lleoliad ac wedi hynny. Os oes anghenion ychwanegol gan eich plentyn mabwysiadol, mae mwy o gymorth ar gael drwy asesu eu hanghenion ychwanegol. Gall hyn gynnwys hyfforddiant, cwnsela a chyngor.

Gall pob teulu fod angen cymorth a chyngor ambell waith, ac nid yw’n ddim gwahanol i deuluoedd sy’n mabwysiadu. Mae mabwysiadu plentyn yn gallu bod yn heriol ond hefyd yn werth chweil. Rydym yn deall bod rhai teuluoedd sy’n mabwysiadu angen help a chefnogaeth o dro i dro.

Os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn neu berson ifanc gallwch ofyn i ni am gyngor ac arweiniad.

Gall hyn gynnwys:

  • Cymorth a chyngor ar faterion megis ymlyniad, problemau ymddygiad, cofnodi profiadau bywyd a rhianta.
  • Y cynllun blwch llythyrau
  • Hyfforddiant
  • Grwpiau cymorth lleol
  • Gwybodaeth a chyfeirio ynghylch mabwysiadu
  • Asesiad o anghenion cymorth ychwanegol

Mae ein rhaglen hyfforddiant byw ar-lein bellach ar gael i’n mabwysiadwyr ei defnyddio.

Gallwch ofyn am asesiad am gymorth os ydych yn byw yn un o’r pedair sir yn rhanbarth mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac wedi mabwysiadu plentyn o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro neu Bowys, neu os gwnaethoch fabwysiadu eich mab neu ferch dros dair blynedd yn ôl ac yn byw o fewn ffiniau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gall hyn gynnwys asesiad am gymorth ariannol, sy’n seiliedig ar anghenion ychwanegol y plentyn na ellir eu diwallu gan y gwasanaethau cyffredinol, ar eich adnoddau a’ch amgylchiadau. Bydd unrhyw gymorth ariannol yn cael ei adolygu’n flynyddol ac efallai na fydd yn parhau.

Am y tair blynedd gyntaf ar ôl y Gorchymyn Mabwysiadu, bydd yr Asiantaeth Fabwysiadu a wnaeth osod eich plant gyda chi’n gyfrifol am unrhyw gymorth a gytunwyd, hyd yn oed os byddwch yn symud i sir wahanol. Ar ôl 3 blynedd, bydd y cyfrifoldeb hwn yn trosglwyddo i’r Awdurdod Lleol lle rydych chi’n byw.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn a hyfforddiant, cysylltwch gyda ni trwy ebost  adoptionenquiries@carmarthenshire.gov.uk neu ffoniwch 0300 30 32 505.