Mae ymgyrch newydd a lansiwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gobeithio annog mwy o bobl i fabwysiadu’r plant hynny sy’n aros hiraf.

Ar unrhyw un adeg mae tua 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o’r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy. 

I fechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a’r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir. 

Ar gyfartaledd, mae brodyr a chwiorydd yn aros 135 diwrnod yn fwy na phlant unigol i gael eu mabwysiadu. I lawer o ddarpar rieni gall meddwl am fabwysiadu dau blentyn neu fwy godi pryderon am fforddiadwyedd a gofod ffisegol. 

Ond nod ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw annog mwy o bobl i fabwysiadu’r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf. 

Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Gwyddom o waith ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru fod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod yn haws gofalu am ferched. 

“Nid yw hyn bob amser yn wir gan fod gan bob plentyn anghenion a phrofiadau gwahanol ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio ag ef. 

“Weithiau rydyn ni’n gwybod llai am brofiadau plentyn iau ond efallai y bydd gennym ni wybodaeth fanylach am blentyn hŷn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn sefyllfa well i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt.

“Rydym yn llwyddo i leoli plant o bob grŵp oedran, rhyw, cefndir ac amgylchiadau, ond yn anffodus mae’n bosibl y gall plant hŷn, bechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol aros ychydig yn hirach.

“Rydym yn annog pobl i ystyried pob plentyn wrth ddod i mewn i’r broses fabwysiadu.” 

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’i dimau rhanbarthol yn cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan fabwysiadu, gan weithio gyda rhieni biolegol a pherthnasau, rhieni mabwysiadol a gweithwyr proffesiynol i wneud yn siŵr bod lles gorau plentyn yn cael ei roi wrth wraidd pob mabwysiadu. 

Yn eu hysbyseb teledu newydd bwerus dilynwn hanes plentyn saith oed wrth iddo gael ei baru â’i deulu newydd. 

Mae’r hysbyseb emosiynol yn agor gyda bachgen ifanc yn cyfarch ei dad mabwysiedig yn gwisgo pob eitem o’i ddillad, gan gynnwys het wlanog a menig, esgidiau glaw melyn a gogls glas llachar. 

Mae’r hysbyseb – sy’n cynnwys actorion – yn datgelu sut mae’r plentyn wedi cael ei symud o gwmpas llawer ac y gallai gymryd amser i ddod allan o’i gragen. 

Rydyn ni’n gwylio wrth i’r bachgen bach frwydro i fwyta ffa pob ar dost gyda menig ymlaen a pha mor anodd yw sgorio gôl mewn esgidiau glaw. 

Yn y pen draw, mae’r bachgen yn teimlo’n ddigon diogel i dynnu ei ddillad amddiffynnol, yn gallu bwyta popcorn a gwylio ffilm gyda’i dad. 

Daw’r hysbyseb i ben gyda’r tad a’r mab yn gwisgo pâr o gogls yn hapus, gyda’r geiriau ‘Dewis mabwysiadu. Dewis teulu.’ 

Mae’r hysbyseb yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu ledled Cymru – gan gynnwys Clare a Gareth a fabwysiadodd grŵp o frodyr a chwiorydd trwy Fabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn 2016. 

Eglura Clare: “Roedd ein mab yn gwisgo ei gogls nofio bob dydd, ym mhobman yr aeth o’r diwrnod y symudodd i mewn nes i’r strapiau rwber ddiflannu a chwympo’n ddarnau.” 

Wrth gyfeirio at yr hysbyseb dywed Suzanne Griffiths: “Rydym yn gobeithio y bydd yr hysbyseb teledu newydd yn helpu pobl sy’n meddwl am fabwysiadu i ddeall bod plant sydd wedi cael dechrau anodd neu heriol mewn bywyd yn aml wedi datblygu eu ffyrdd eu hunain o ymdopi ac felly mae angen amser, amynedd a chefnogaeth i’w helpu i ymgartrefu yn eu teuluoedd newydd.

“Mae rhai yn ymgartrefu’n haws nag eraill ond yr hyn sy’n bwysig yw eu bod yn cael eu galluogi i wneud hynny ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnig cymorth i bob teulu newydd a sefydledig i gynorthwyo gyda’r addasiadau cynnar hynny, a thrwy gydol eu taith gydol oes fel teulu.”

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu delweddau o’u hunain yn gwisgo gogls ar gyfryngau cymdeithasol #DewisTeulu ac i ddatgelu’r eiliadau a wnaeth eu teulu nhw. Tagiwch @nas_cymru i annog eraill i ddewis mabwysiadu.

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i adoptcymru.com/dewisteulu

Llongyfarchiadau i enillwyr ein cystadleuaeth ‘Pa fath o archarwr ydych chi?’

Mae ein henillwyr ar gyfer ein cystadleuaeth ‘Pa fath o Archarwr ydych chi?’ wedi cael eu dewis. Cawsom amrywiaeth hyfryd o waith wedi’u gyflwyno ac fe wnaeth ein panel o feirniaid mwynhau edrych ar bob darn a gyflwynwyd. Diolch i bob un wnaeth gymryd rhan a llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr. I weld y darnau buddugol ac i ddarllen sylwadau’r beirniaid, cliciwch yma.

* Sylwch fod y wybodaeth bersonol ym mhob un o’n ceisiadau buddugol wedi’i newid at bwrpasau cyfrinachedd. Mae hyn yn cynnwys newid enwau pobl, anifeiliaid anwes a lleoedd.


Enillwr Oedran 4-7

“Rwy’n caru’r ffordd mae’r plentyn wedi cynnwys ei teulu cyfan fel archarwyr. Rwy’n hoff iawn o sut mae’r teulu’n hedfan yn uchel dros yr enfys liwgar a’r haul sgleiniog llachar. ”

“Mae hwn yn ddarlun hardd. Gwelaf dy fod wedi rhoi llawer o feddwl ac ymdrech yn y llun hwn. Mae’n lliwgar a llachar iawn. Gwnaeth y lluniad hwn wneud i mi deimlo’n hapus iawn. Rwyf wrth fy modd gyda’r lliwiau llachar a’r holl wenu mawr wnes di ychwanegu i’r llun.”

“Llawer o liwiau ac wynebau gwenog. Braf gweld mai teulu yw’r archarwyr ac nid un person yn unig.”

Enillwr – Oedran 8-10 – Llun

“WAW! Mae’r sylw i fanylion yn y llun hwn yn drawiadol iawn. Rwyf wrth fy modd â’r holl fanylion bach yn y robot a sut mae’n cario’r babi bot yn ei gwt. Mae Prif Beiriannydd Storm yn edrych fel y gallai drwsio unrhyw beth gyda’i offer ar ei wregys ac yna’r drôn uwch anhygoel gyda 4 llafnau gwthio i’w helpu i hedfan yn uchel. Gallaf weld o’r llun hwn eu bod yn gwneud tîm gwych.”

“Lluniad gwych, manylion anhygoel. Rydw i yn hoffi’r dronau arbennig a’r cwdyn babi. Rwy’n credu bod y llun yn rhoi ymdeimlad o bersonoliaeth y plentyn a meddwl am yr hyn sy’n gwneud archarwr. ”

“Llun gwych. Mae’n amlwg dy fod ti wedi rhoi llawer o waith i mewn i’r llun hwn ac mae wedi talu ar ei ganfed. Rwy’n hoffi dy fod wedi ychwanegu cymaint o fanylion, ac mae’r lliwio yn dwt iawn. Rwyt ti’n arlunydd gwych! ”

Enillwr – Oedran 8-10 – Cerdd

“Fe wnes i fwynhau gwrando ar y gerdd hon yn fawr. Fe sylweddolais fod gan bob un ohonom y gallu i fod yn archarwyr yn union fel yr “arwr cyfrinachol” hwn. Er ei fod yn archarwr, roeddwn i wrth fy modd fel gadawodd i ni i gyd wybod bod arwyr hyd yn oed yn gwneud camgymeriadau ac mae hynny’n iawn. Rwyf hefyd yn rhoi gormod o arlleg yn fy sbageti bolonaise, felly mae gennym ni hynny yn gyffredin!”

“Mae’r darn hwn am fod yn archarwr yn un hwylus. Roeddwn i’n meddwl bod y plentyn wedi gosod allan yr hyn sy’n gwneud archarwr yn dda iawn, gan gynnwys meddwl am ei effaith ar bobl eraill. ”

“Rhywbeth gwahanol yn weledol sy’n egluro mewn ffordd feddylgar o’r hyn y dylai Archarwr fod.”

Diolch i bawb a gofrestrodd, dyma ragor o gofnodion.

CRONFA YMDDIRIEDOLAETH PLANT – A gafodd eich Plentyn ei eni rhwng 01/09/2002 a 02/01/2011?

Dylai’r rhan fwyaf o blant a anwyd yn y DU rhwng y dyddiadau uchod gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) unigol yn eu henwau, yn barod ar gyfer yr adeg pan fyddant yn 18 oed.

Sefydlodd y Llywodraeth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (yn 2002) i annog plant i arbed arian a rhoi mantais iddynt drwy fuddsoddi swm o arian i’w rhoi ar ben ffordd, ac er mwyn iddynt ei ddefnyddio yn 18 oed.

Roedd hon yn fenter newydd o ran lles sy’n seiliedig ar asedau, a rhoddodd llywodraeth ddilynol y gorau i’w darparu yn 2011.

Ar gyfer y rhan fwyaf o blant a anwyd rhwng Medi 2002 ac Ionawr 2011 rhoddodd y Llywodraeth £250 i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ôl eu genedigaeth a rhoddwyd £250 arall pan oedd y plant yn 7 oed. Dyblwyd y symiau hyn ar gyfer y plant mewn teuluoedd oedd yn cael Credyd Treth Plant.

Dylai’r cyfrifon gwreiddiol fod wedi’u sefydlu gan eu Rhieni Biolegol (gan ddefnyddio Enw Geni’r plentyn). Os na wnaethant hyn (am ba reswm bynnag), sefydlodd y Llywodraeth (Cyllid y Wlad) gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer y plentyn fel cyfrif a ddyrannwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), gan ddefnyddio ystod o ddarparwyr cyfrifon.

Mae cymhlethdodau o ran plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu. Gallai rhieni mabwysiadol fod wedi trosglwyddo’r statws ‘cyswllt cofrestredig’ ar gyfer y cyfrif iddynt eu hunain ar ôl i orchymyn mabwysiadu gael ei roi, ond efallai y bu cymhlethdodau o ran newid enw ac ati. Roedd rhieni mabwysiadol yn gallu cyfrannu at y cyfrifon hyn dros y blynyddoedd. Os yw eich plentyn o dan 18 oed, gallai fod cyfleoedd o hyd i wneud hyn.

Buddsoddwyd y rhan fwyaf o’r cyfrifon hyn yn y farchnad stoc, felly mae llawer wedi gweld twf dros y blynyddoedd, ac efallai y byddant bellach yn werth £1,000 neu ragor.

Gall pobl ifanc cymwys rhwng 16 a 18 oed gymryd rheolaeth o’r cyfrifon hyn, ar unrhyw adeg ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed, a gallant, er enghraifft, ddewis pa gyfrif y maent yn dymuno i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gael ei fuddsoddi ynddo.

Fodd bynnag, dim ond y person ifanc all dynnu arian o’i gyfrif (ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed), ac yn gyfreithiol mae ganddo’r hawl i wario’r arian fel y mynno. Gall rhieni gynghori’r person ifanc i’w ddefnyddio’n ddoeth, er enghraifft ei fuddsoddi erbyn iddo fod yn hŷn – ond mae’r gyfraith yn datgan bod ganddo’r hawl i’w dynnu’n ôl a’i wario mewn unrhyw ffordd y mynno.

Os yw mabwysiadwyr (neu bobl ifanc wedi’u mabwysiadu dros 16 oed) yn dymuno darganfod ble mae’r cyfrifon hyn (hynny yw, pa ddarparwr cyfrif sydd ganddynt), awgrymaf eu bod yn cysylltu â The Share Foundation (a elwir hefyd yn Sharefound), sy’n elusen gofrestredig ac sy’n gweithio i’r Adran Addysg fel y sefydliad sy’n rhedeg y cynlluniau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a chyfrif ISA i Bobl Iau ar gyfer pobl ifanc mewn gofal.

Mae’r Share Foundation hefyd yn cynnal digwyddiadau rhithwir rheolaidd sy’n darparu rhagor o fanylion ac yn trafod y manylion uchod, y gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn, rhieni, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eu mynychu.

I gael manylion am y rhain (ac i gael cyngor) ewch i https://findctf.sharefound.org neu ffoniwch 01269 310400.  Wrth ddefnyddio’r cyfleuster chwilio cofiwch y dylai’r person ifanc gael ei rif Yswiriant Gwladol wrth law (a ddarperir gan CThEM ychydig ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed).

Ar gyfer plant sy’n cael eu geni ar ôl 02/01/2011, ar hyn o bryd gall rhieni agor cyfrifon ISA i Bobl Iau ar ran eu plant, ond bellach mae’r llywodraeth yn gwneud cyfraniadau’n unig ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

Swydd Wag – Gweithiwr Cymorth Mabwysiadu

Gweithiwr Cymorth Mabwysiadu 

(Contract dros dro hyd at 31/03/2022 oherwydd cyllid grant)

Swydd Ranbarthol – Lleoliad Negodadwy

24 awr yr wythnos

£22,183* – £25,991* (Gradd F) *pro rata

Dyddiad Cau: 16/11/2021

Mae hwn yn gyfle i ymuno â gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol bywiog a llewyrchus i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau cymorth ar gyfer teuluoedd mabwysiadol yn y rhanbarth. 

Mae’r swydd yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn ogystal â theuluoedd y mae mabwysiadu’n effeithio arnynt gan ganolbwyntio ar adolygu cynlluniau cyswllt a chymorth mabwysiadu i sicrhau eu bod yn unol ag anghenion y plentyn. Mae’r gwasanaeth mabwysiadu yn defnyddio dull sy’n ymwybodol o drawma. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol er mwyn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol.

Caiff y swydd ei chyllido drwy grantiau, ond mae’r cyllid yn debygol o barhau ar ôl 31/03/2022. 

Mae hon yn swydd ranbarthol ond bydd y lleoliad yn cael ei gytuno arno yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’r angen i ddarparu gwasanaethau ar draws y rhanbarth.

Mae angen Cymraeg llafar i gyflawni’r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.

Am drafodaeth anffurfiol cysyltwch a Frances Lewis 07733 102311.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Fel rhan o Bolisi a Gweithdrefn y Cyngor mae bellach yn ofynnol i weithwyr gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru gan y DBS. Codir tâl blynyddol o £13 i danysgrifio i’r gwasanaeth hwn a fydd yn cael ei dalu gan yr unigolyn.  Bydd yr Awdurdod yn talu am y gwiriad DBS cychwynnol.

Cyrsiau e-Ddysgu i Fabwysiadwyr

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i gynnig cyrsiau e-Ddysgu i’n mabwysiadwyr eu cwblhau yn gyffyrddus yn eu cartref eu hunain ac i’w gwneud yn eu hamser eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u creu a’u datblygu gan ddau blatfform dysgu, KCA ac ACEducation. Nod y cyrsiau ar-lein yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a myfyrio fel rhan o daith ddysgu barhaus y mabwysiadwyr. 

Mae pob cwrs ar-lein am ddim i fabwysiadwyr Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cysylltwch â ni drwy e-bost os oes gennych ddiddordeb mewn cwblhau cwrs ar hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk

‘Rydych chi’n barod am rywfaint o hyn, ar adegau eraill fe all eich llorio chi’n llwyr.’

MAE ymgyrch newydd a lansiwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gobeithio annog mwy o bobl i fabwysiadu’r plant hynny sy’n aros hiraf.

Ar hyn o bryd mae 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o’r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy.

I fechgyn, grwpiau brodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a’r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir.

Ond mae ymgyrch newydd a lansiwyd yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (18-23 Hydref) eisiau newid hynny i gyd trwy chwalu’r myth bod babanod a merched yn haws i’w mabwysiadu

Er mwyn agor calonnau a meddyliau darpar fabwysiadwyr i’r plant hynny sy’n aros i ddod o hyd i deulu ar hyn o bryd, bydd #DewisTeulu yn clywed gan rieni o bob cwr o Gymru am realiti mabwysiadu plentyn, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, neu os ydyn nhw’n rhan o grŵp siblingiaid.

Aeth mam sengl Natasha ati i fabwysiadu trwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2014. Gyda meddwl agored, ymchwiliodd Tasha i fabwysiadu yn drylwyr cyn iddi gychwyn ar y broses ar ei phen ei hun.

Mabwysiadodd Tasha, sy’n athrawes, frodyr a chwiorydd o dreftadaeth Gwlad Thai – merch dair oed a bachgen 20 mis oed – oherwydd ei bod yn gwybod bod bechgyn, plant lleiafrifol ethnig a brodyr a chwiorydd fel arfer yn aros yr hiraf i gael eu mabwysiadu.

Dywedodd hi: “Gwneir yn glir yn gynnar iawn y bydd pob plentyn mabwysiedig yn amlygu ei drawma mewn un ffordd neu’r llall ar ryw adeg yn eu bywyd. Rydych chi’n barod am rywfaint o hyn, ar adegau eraill fe all eich llorio chi’n llwyr.

“Fy merch oedd y mwyaf pryderus a hypersensitif o fy nau blentyn. Rwy’n credu, oherwydd ei bod hi’n hŷn pan aeth i ofal, mae ganddi fwy o atgof o esgeulustod. Roedd fy nheulu yn gwybod i fod yn fwy gofalus a rhoi sicrwydd ychwanegol iddi pan oedd hi’n dywyll neu pan oedd synau uchel – ond un peth na wnaethon ni baratoi ar ei gyfer yw pa mor bryderus oedd hi o falŵns ac unrhyw un yn canu Pen-blwydd Hapus.

“Ni allai ddweud wrthym pam, ond roedd yn storio cof na allwn ond dyfalu amdano. Fe achosodd iddi rewi a chrio neu ddod i redeg er mwyn cwtsio’n dynn arna i. Byddai rhieni eraill yn gofyn pam y gwnes i fynnu dod â hi i bartïon, ond doeddwn i ddim eisiau iddi golli allan na gorfod gofyn i’r dosbarth beidio â dathlu penblwyddi, felly buom yn gweithio gyda’n gilydd dros amser i’w helpu i ddod o hyd i strategaethau ymdopi. Nawr, mae hi wedi bod i ychydig o bartïon penblwyddi cysgu dros nos a bydd yn codi i ddawnsio mewn clwb plant ar wyliau – mae hi wedi dod yn bell.

“Rwy’n cofio cael dadl gyfeillgar gyda gweithiwr cymdeithasol ynglŷn â mabwysiadu rhynghiliol a theimlo’n gryf am beidio â gadael i’r gwahaniaeth yn lliw ein croen fod yn rhwystr. Cefais fy herio ar hyn wrth i’r gweithiwr cymdeithasol dynnu sylw nad fi fyddai’r un sy’n tyfu i fyny yn wahanol.

“Mewn sawl ffordd roedd hi’n iawn, a diolch byth, rydyn ni wedi llywio’r sgyrsiau am ein gwahaniaethau yn hawdd. Mae gennym ffrindiau aml-ethnig ac yn aml mae’n hoffi tynnu sylw pan mai fi yw’r un rhyfedd allan yn y car neu ar wyliau teuluol.

“Mae’r byd yn cynnwys cymaint o wahanol deuluoedd ac mae cymdeithas a mabwysiadu wedi dal i fyny â’i gilydd. Nid yn unig y gwnaeth hynny hi’n haws i mi fel person sengl fabwysiadu, mae cael enghreifftiau i ddangos sut mae’r teulu niwclear amrywiol yn helpu fy mab i ddeall bod pawb yn wahanol. Y diwrnod o’r blaen gofynnodd i mi pryd yr oedd yn cael tad, oherwydd mae gan bawb un. Pan wnaethon ni ailedrych ar stori ei dad biolegol a dechrau mynd trwy’r rhestr o deulu a ffrindiau a oedd yn ddibriod, wedi colli partneriaid neu sydd mewn cyplau o’r un rhyw, nid oedd mor bryderus mai dim ond y tri ohonom ni ydoedd. ”

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Rydym yn gwybod o ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru bod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod hi’n haws gofalu am ferched.

“Nid yw hyn yn wir bob amser gan fod gan bob plentyn wahanol anghenion a phrofiadau ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio gydag ef.

“Weithiau rydyn ni’n gwybod llai am brofiadau plentyn iau, ond efallai bod gennym ni wybodaeth fanylach lle mae plentyn hŷn yn y cwestiwn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn gwell sefyllfa i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt. “

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu’r eiliadau wnaeth eu selio nhw fel teulu @nas_cymru #DewisTeulu i annog eraill i ddewis mabwysiadu.

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i mabwysiaducgcymru.org.uk

Croeso i’r gymuned fabwysiadu!

Llongyfarchiadau ar ddod yn rhiant. Mae hwn yn gyfnod cyffrous wrth i chi ddechrau neu ymestyn eich teulu.

Mae’r prosiect Y 1000 Diwrnod Cyntaf yma i chi o ddiwrnod 1, i gynnig help llaw a chlust i wrando gan gymuned ffyniannus o gyd-fabwysiadwyr ledled Cymru.

• Cyngor a chymorth dros y ffôn neu drwy e-bost

• Cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim ar bynciau fel Gwaith Taith Bywyd, Addysg, a Chyswllt

• Diwrnodau teuluol i deuluoedd mabwysiadol

• Grwpiau cymunedol lleol, gan gynnwys grwpiau ‘dyddiau cynnar’

• Cymorth un-i-un yn ystod cyfnod anodd

• Cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau

Yn Adoption UK, rydym yn gwybod pa mor anhygoel y gall bywyd teuluol fod. Gwyddom hefyd ein bod ni i gyd weithiau angen ychydig o gefnogaeth gan fabwysiadwyr eraill sy’n deall. Dewch i ymuno â’r gymuned.

Croeso i’r 1000 Diwrnod Cyntaf.

I ymuno, ewch i https://www.adoptionuk.org/first-1000-days

Dad yn siarad ar Sul y Tadau am brofiad anhygoel o fabwysiadu

Mae tad mabwysiadol i ddau wedi sôn am y fraint y mae’n teimlo wrth wylio ei blant yn ffynnu ac yn tyfu.

Mae Alex* wedi disgrifio dod yn dad fel ‘math cwbl newydd a rhyfeddol o lawenydd’, ac ar Sul y Tadau mae’n annog mwy o ddynion i ystyried mabwysiadu.

Drwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae Alex yn adrodd ei stori gan obeithio y bydd yn ysbrydoli.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi teuluoedd ac unigolion yn ystod pob cam o’r daith fabwysiadu, gan baru plant â phobl sy’n gallu rhoi bywyd teuluol cariadus, diogel a sefydlog iddynt.

I Alex a’i wraig, daeth eu penderfyniad i fabwysiadu ar ôl triniaeth ffrwythlondeb aflwyddiannus a’u harweiniodd i feddwl am eu cynlluniau o ran teulu.

Wrth gysylltu â thîm mabwysiadu eu hawdurdod lleol, cafodd y cwpl eu paru â bachgen bach ychydig dros flwyddyn ar ôl gwneud eu hymholiad cyntaf.

“Roedden ni wastad wedi siarad am fabwysiadu fel ffordd bosibl o ddechrau teulu,” meddai. “Gwnaethon ni roi cynnig ar rownd o IVF pan oedd hi’n amlwg na allen ni feichiogi’n naturiol, ond ar ôl i hynny fethu cymeron ni amser i fyfyrio.

“Dechreuon ni’r broses ym mis Ionawr. Cawson ni flwyddyn eithaf normal wrth fynd drwy’r broses – aethon ni i’r gwaith fel arfer, mynd i wyliau, ar wyliau, treulio amser gyda theulu a ffrindiau – yn ogystal â mynd i gyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol a mynychu cyrsiau.

“Gwnaethon ni geisio darllen cymaint ag y gallen ni a mynychu cyrsiau a hyfforddiant ychwanegol y tu allan i’r rhai a drefnwyd gan yr awdurdod lleol. Gwnaed penderfyniad gan y panel cymeradwyo ym mis Rhagfyr ac ar ôl bod yn llwyddiannus nid oedd gennym amser hir i aros cyn i blentyn gael ei baru â ni.

“Wnaethon ni ddim nodi y byddai bachgen neu ferch yn well gennym, ond roedd yr awdurdod lleol yn dda iawn o ran dod o hyd i blentyn oedd yn cyd-fynd â’n ffordd o fyw a’n proffiliau.

“Mae gan bob un ohonom ffyrdd o ddod o hyd i’n llawenydd ein hunain, ond roedd dod yn dad yn fath cwbl newydd a rhyfeddol o lawenydd nad oeddwn wedi’i brofi o’r blaen.”

Gan eu bod wedi cael profiad mor gadarnhaol, penderfynodd Alex a’i wraig fabwysiadu eto ddwy flynedd yn ddiweddarach.

“Roedd yn broses symlach yr eildro, gan ein bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl,” meddai. “Roedd gennym weithiwr cymdeithasol gwahanol nad oedd wedi gweithio gyda phobl oedd yn mabwysiadu am yr eildro o’r blaen, felly roedd hi’n synnu braidd at lefel ein hyder!”

Mae Alex bellach yn cyfaddef ei fod yn siarad am fabwysiadu drwy’r amser ac mae’n dweud bod mabwysiadu wedi bod yn brofiad cadarnhaol.

“Ar ôl treulio blynyddoedd lawer heb blant yn fy mywyd a dod o hyd i lawenydd mewn sawl ffordd arall, rwy’n ymdrechu’n galed i beidio ag awgrymu bod pobl heb blant rywsut yn israddol, ond mae’n fraint lwyr gallu darparu amgylchedd diogel i ddau blentyn i’w gwylio’n ffynnu ac yn tyfu.

 “I unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu, byddwn yn eich cynghori i ddechrau ar y broses gyda’ch llygaid ar agor gan y bydd problemau annisgwyl yn codi, ond dyfalbarhewch – rydym yn siarad am blant, nid angenfilod!

“Mae llawer o grwpiau cymorth ar gyfer mamau mabwysiadol, ond ychydig iawn i dadau, felly manteisiwch ar unrhyw gyfle i fynd am gwrw gyda thad mabwysiadol – fe welwch fod mabwysiadu yn llawer mwy normal a chyffredin nag yr ydych yn ei feddwl! Ac os oes gennych fynediad i sianel Apple TV, gwyliwch ‘Trying’. Crynodeb doniol a gweddol gywir iawn o’r holl broses!”

Ar Sul y Tadau eleni – os yw’r tywydd yn caniatáu – mae Alex a’i deulu yn mynd i wersylla.

“Roedd y berthynas oedd gen i gyda fy nhad fy hun yn llawer mwy traddodiadol, felly rwy’n ceisio bod yn llawer mwy agored a chariadus gyda fy mhlant. Pan fydda i’n treulio amser gyda fy ffrindiau sydd hefyd yn dadau, dydw i ddim yn teimlo’n wahanol iddyn nhw – rwy’n caru fy mhlant yn ddiamod ac rwy’n hynod falch ohonyn nhw.”

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn wasanaeth pwrpasol sy’n cefnogi teuluoedd sy’n mabwysiadu i ddod at ei gilydd.

Mae’r tîm yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn asesu darpar fabwysiadwyr i ddarparu lleoliadau mabwysiadu o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, gan eu galluogi i fyw gyda theuluoedd newydd, parhaol.

Nid oes meini prawf penodol ar gyfer dod yn rhiant mabwysiadol – does dim ots a oes gan ddarpar fabwysiadwyr blant eisoes, p’un a ydynt yn sengl neu’n gwpl (yn syth neu’n LHDT+), p’un a ydynt yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.

Mae plant yn cael eu paru a’u lleoli gyda rhieni mabwysiadol ar ôl asesu eu bod â’r sgiliau i ddiwallu anghenion y plant a’u bod yn gallu darparu sefydlogrwydd a chyfle iddynt ffynnu.

Darperir cymorth parhaus i fabwysiadwyr a’u teuluoedd drwy gydol oes y plentyn mabwysiedig.

Yn lleol, mae angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu’r un diwylliant, iaith a chrefydd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb fynd i mabwysiaducgcymru.org.uk i gael cyngor a gwybodaeth.

Cynhelir sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mercher, 21 Gorffennaf 2021, am 6.30pm – cofrestrwch cyn dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2021.

Gellir gwneud ymholiadau hefyd gydag aelod o’r tîm mabwysiadu – anfonwch neges e-bost at adoptionenquiries@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0300 30 32 505.

* Newidiwyd enwau er mwyn diogelu manylion personol y plant.

Pa fath o Archarwr ydych chi?

Plant yw’r arwyr di-glod o’r Pandemig Coronafeirws. A allwch chi ddangos i ni sut fyddech chi’n portreadu eich hun fel Archarwr? Pa fath o Archarwr yr hoffech chi fod?

Gallwch wneud hyn trwy wneud llun, paentiad, gludwaith, comic, ffilm fer neu drwy ffotograffiaeth. Efallai y byddai’n well gennych chi ddangos i ni trwy greu model 3D gan ddefnyddio deunyddiau cymysg, toes chwarae neu glai. Fe allech chi hyd yn oed greu eich gwisg eich hun neu wneud pyped gan ddefnyddio gwahanol ddefnyddiau.

Grwpiau Oedran

  • Dan 4 oed
  • 4 – 7 oed
  • 8 – 11 oed
  • 12 – 15 oed
  • 16 – 18 oed

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb 10 punt.

Gwobrau

Bydd enillwyr o bob grŵp oedran yn ennill mynediad diwrnod i atyniad o’u dewis.

Dyddiad Cau

Dydd Gwener, 2il Gorffennaf 2021

I gystadlu, cwblhewch ffurflen gais ac anfonwch eich gwaith atom yn electronig trwy ein gwefan.

 Canllawiau a rheolau

  • Un ymgais yn unig fesul plentyn/person ifanc.
  • Rhaid cyflwyno’r gwaith erbyn 5yp ar ddydd Gwener yr 2il o Orffennaf 2021. Anfonwch eich gwaith drwy un o’r fformatau canlynol: pdf, jpeg, doc, mp3, m4a, mp4, wmv neu avi.
  • Rhaid i bob darn o waith gael ei wneud gan y plentyn neu’r person ifanc yn unig.
  • Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb gwerth 10 punt. Rhaid darparu cyfeiriad ar y ffurflen ymgeisydd.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a’u cyhoeddi ar y 23ain o Orffennaf 2021.
  • Bydd enillwyr yn derbyn eu gwobrau yn fuan ar ôl y 23ain o Orffennaf 2021.

Baromedr Mabwysiadu

Arolwg Adoption UK 2021

Cymerwch ran yn Arolwg Baromedr 2021. Mae angen eich ymatebion ar Adoption UK i helpu i gyfrannu at adroddiad blaenllaw ar fabwysiadu yn y DU, a gyhoeddir yr haf hwn.

Mae Adoption UK yn awyddus ichi leisio eich barn p’un a ydych yn ddarpar fabwysiadwr, neu’n mabwysiadu ers blynyddoedd lawer. Arolwg trylwyr yw hwn, felly cymerwch eich amser, a chwblhewch bob adran mor gyflawn â phosibl.

Cynhelir yr arolwg hwn bob blwyddyn i weld sut y mae pethau yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Gofynnir ichi roi sylw i’ch profiadau yn 2020 yn unig.

Beth yw’r Baromedr Mabwysiadu?

Y Baromedr Mabwysiadu yw’r unig asesiad cynhwysfawr o fywydau teuluoedd sy’n mabwysiadu ledled y DU – a’r polisïau sy’n rheoli mabwysiadu. Mae’r Baromedr, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, yn archwilio profiadau teuluoedd trwy gydol y daith fabwysiadu, o ddarpar fabwysiadwyr i’r rhai y mae eu plant bellach yn oedolion ifanc.

Mae’n seiliedig ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr – yn 2020, ymatebodd bron i 5,000 o bobl.

Pa effaith y mae’n ei chael?

Oddi ar adroddiad Adoption UK yn 2019, mae cynnydd wedi’i wneud – Yng Nghymru buddsoddwyd £2.3m mewn gwasanaethau mabwysiadu.

Dengys yr adroddiad fod mabwysiadwyr yn parhau i fod yn bositif ac yn wydn – byddai 73% yn annog eraill i fabwysiadu. Ond mae teuluoedd yn dal i gael trafferth i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r adroddiad eleni yw’r methiant i ddarganfod a thrin niwed i’r ymennydd a achosir gan blant yn dod i gysylltiad ag alcohol yn y groth. Dengys yr adroddiad fod un o bob pedwar o blant mabwysiedig naill ai’n cael eu diagnosio ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD), neu yr amheuir eu bod yn dioddef ohono.

Rhagor o Wybodaeth