Mae ymgyrch newydd a lansiwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gobeithio annog mwy o bobl i fabwysiadu’r plant hynny sy’n aros hiraf.

Ar unrhyw un adeg mae tua 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o’r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy. 

I fechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a’r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir. 

Ar gyfartaledd, mae brodyr a chwiorydd yn aros 135 diwrnod yn fwy na phlant unigol i gael eu mabwysiadu. I lawer o ddarpar rieni gall meddwl am fabwysiadu dau blentyn neu fwy godi pryderon am fforddiadwyedd a gofod ffisegol. 

Ond nod ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw annog mwy o bobl i fabwysiadu’r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf. 

Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Gwyddom o waith ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru fod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod yn haws gofalu am ferched. 

“Nid yw hyn bob amser yn wir gan fod gan bob plentyn anghenion a phrofiadau gwahanol ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio ag ef. 

“Weithiau rydyn ni’n gwybod llai am brofiadau plentyn iau ond efallai y bydd gennym ni wybodaeth fanylach am blentyn hŷn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn sefyllfa well i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt.

“Rydym yn llwyddo i leoli plant o bob grŵp oedran, rhyw, cefndir ac amgylchiadau, ond yn anffodus mae’n bosibl y gall plant hŷn, bechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol aros ychydig yn hirach.

“Rydym yn annog pobl i ystyried pob plentyn wrth ddod i mewn i’r broses fabwysiadu.” 

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’i dimau rhanbarthol yn cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan fabwysiadu, gan weithio gyda rhieni biolegol a pherthnasau, rhieni mabwysiadol a gweithwyr proffesiynol i wneud yn siŵr bod lles gorau plentyn yn cael ei roi wrth wraidd pob mabwysiadu. 

Yn eu hysbyseb teledu newydd bwerus dilynwn hanes plentyn saith oed wrth iddo gael ei baru â’i deulu newydd. 

Mae’r hysbyseb emosiynol yn agor gyda bachgen ifanc yn cyfarch ei dad mabwysiedig yn gwisgo pob eitem o’i ddillad, gan gynnwys het wlanog a menig, esgidiau glaw melyn a gogls glas llachar. 

Mae’r hysbyseb – sy’n cynnwys actorion – yn datgelu sut mae’r plentyn wedi cael ei symud o gwmpas llawer ac y gallai gymryd amser i ddod allan o’i gragen. 

Rydyn ni’n gwylio wrth i’r bachgen bach frwydro i fwyta ffa pob ar dost gyda menig ymlaen a pha mor anodd yw sgorio gôl mewn esgidiau glaw. 

Yn y pen draw, mae’r bachgen yn teimlo’n ddigon diogel i dynnu ei ddillad amddiffynnol, yn gallu bwyta popcorn a gwylio ffilm gyda’i dad. 

Daw’r hysbyseb i ben gyda’r tad a’r mab yn gwisgo pâr o gogls yn hapus, gyda’r geiriau ‘Dewis mabwysiadu. Dewis teulu.’ 

Mae’r hysbyseb yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu ledled Cymru – gan gynnwys Clare a Gareth a fabwysiadodd grŵp o frodyr a chwiorydd trwy Fabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn 2016. 

Eglura Clare: “Roedd ein mab yn gwisgo ei gogls nofio bob dydd, ym mhobman yr aeth o’r diwrnod y symudodd i mewn nes i’r strapiau rwber ddiflannu a chwympo’n ddarnau.” 

Wrth gyfeirio at yr hysbyseb dywed Suzanne Griffiths: “Rydym yn gobeithio y bydd yr hysbyseb teledu newydd yn helpu pobl sy’n meddwl am fabwysiadu i ddeall bod plant sydd wedi cael dechrau anodd neu heriol mewn bywyd yn aml wedi datblygu eu ffyrdd eu hunain o ymdopi ac felly mae angen amser, amynedd a chefnogaeth i’w helpu i ymgartrefu yn eu teuluoedd newydd.

“Mae rhai yn ymgartrefu’n haws nag eraill ond yr hyn sy’n bwysig yw eu bod yn cael eu galluogi i wneud hynny ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnig cymorth i bob teulu newydd a sefydledig i gynorthwyo gyda’r addasiadau cynnar hynny, a thrwy gydol eu taith gydol oes fel teulu.”

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu delweddau o’u hunain yn gwisgo gogls ar gyfryngau cymdeithasol #DewisTeulu ac i ddatgelu’r eiliadau a wnaeth eu teulu nhw. Tagiwch @nas_cymru i annog eraill i ddewis mabwysiadu.

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i adoptcymru.com/dewisteulu