Anogir rhieni mabwysiadol i siarad am daith bywyd eu plant gyda nhw. Gall fod yn ffordd bwerus o’u helpu i ymchwilio i’w hanes a deall eu hanes, gan roi gwell ymdeimlad iddynt o’u hunaniaeth a pham y cawsant eu mabwysiadu.
Fe fuon ni’n siarad â Nicola, sy’n fabwysiadwraig sengl o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, am sut y cyflwynodd hanes ei mab gydag ef, pa awgrymiadau y byddai’n eu rhoi i fabwysiadwyr eraill ac unrhyw un sy’n dechrau ar eu taith fabwysiadu. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud.
A allwch chi ddweud rhywfaint yn fwy wrthym am eich taith hanes bywyd?
Mae gwaith hanes bywyd yn bwysig iawn i’r plentyn mabwysiedig, ond hefyd i mi fel rhiant mabwysiadol. Mabwysiadais fy mab pan oedd yn 7 mis oed, ac nid oes ganddo gof o fywyd hebddo i. I rai pobl, dyma’r sefyllfa ddelfrydol neu efallai y bydd pobl nad ydyn nhw’n deall mabwysiadu’n meddwl ei fod yn wych ac nid oes angen i’r plentyn wybod dim byd, ond i mi roedd yn atgyfnerthu bod angen i mi ganolbwyntio ar daith bywyd gwaith, fel bod fy mab yn gwybod am ei gefndir o oedran ifanc.
Bron yn syth, cyn i fy mab symud adref hyd yn oed, roeddwn i’n meddwl (neu’n poeni) pryd yw’r amser cywir i ddechrau siarad am stori bywyd? Sut a phryd ydych chi’n dweud wrth blentyn ei fod wedi’i fabwysiadu? Sut ydych chi hyd yn oed yn esbonio i blentyn nad oes ganddo unrhyw gof o fywyd heboch chi fel rhiant beth yw mabwysiadu? Fel mabwysiadwyr sengl, roeddwn hefyd yn poeni am sut i egluro i fy mhlentyn mai dim ond mam sydd ganddo.
Ar ôl meddwl am y peth, penderfynais un diwrnod, pan oedd y bachgen yn saith mis oed, mai dyma’r amser gorau i mi ddechrau siarad am daith bywyd a mabwysiadu. Efallai fod siarad am fabwysiadu gyda phlentyn 7 mis oed yn swnio’n rhyfedd, ond doeddwn i ddim yn gallu dychmygu dweud wrth fy mab un diwrnod, gyda llaw rwyt ti wedi cael dy fabwysiadu.
Ydych chi wedi cadw mewn cysylltiad â Gofalwyr Maeth eich mab?
Fe wnaethom gadw mewn cysylltiad agos â Gofalwyr Maeth fy mab a phryd bynnag y bydden ni yn ymweld, byddwn yn dweud pethau fel “wyt ti’n cofio cael bath fan hyn” wrth fynd ag ef i’r ystafell ymolchi. I ddechrau, ni atebodd gan nad oedd yn gallu siarad, wrth iddo fynd yn hŷn, roedd yn arfer dweud ‘ydw’ a byddai’n dweud wrtha i beth roedd yn ei chwarae yn y bath, yn amlwg wedi’i ddychmygu, ac yna un diwrnod wrth ymweld pan oedd yn ddwy oed, cyn i mi ddweud unrhyw beth, dywedodd wrtha i “Mami roeddwn i’n arfer cael bath fan hyn” a “mami roeddwn i’n arfer cysgu yn yr ystafell ‘na”. Wn i ddim a oedd wedi prosesu’r wybodaeth hon ai peidio, ond roedd yn cofio ei fod yn byw yn y tŷ hwn ar un adeg, a oedd yn ddechrau da o’m rhan i.
Gawsoch chi lyfr hanes bywyd i’ch mab?
O oedran ifanc dywedais wrth fy mab nad oedd wedi tyfu ym mol mami. Unwaith eto, ar y dechrau, ni fyddai wedi deall, ond roedd y wybodaeth yn trwytho i’w isymwybod. Pan oedd yn dair oed, tynnodd ei dop i fyny a dweud wrth ei fam-gu, gan bwyntio at ei fotwm bol, “Mam-gu, roeddwn ni mewn bol pan oeddwn i’n fabi, ond wnes i ddim tyfu yn bol fy mam, fe wnes i dyfu ym mol rhywun arall ”. Pan gefais wybod am hyn, roeddwn yn teimlo mor falch o fy mab ei fod, yn dair oed, yn gwbl ddigymell, wrth gerdded adref o’r siop, yn deall rhywbeth. Roedd deall ‘rhywbeth’ yn golygu pan fyddaf yn mynd â’r sgwrs ymhellach, ni fydd fy mab yn cael sioc fawr.
Fues i wedyn yn gweithio gyda’r Tîm Mabwysiadu i lunio llyfr Hanes Bywyd. Roedd y Tîm Mabwysiadu yn wych a gofynnodd i mi am lawer o luniau ohona i a fy mab gyda’n gilydd, fy mab mewn mannau sy’n gyfarwydd iddo nawr, gyda’i deulu estynedig, anifeiliaid anwes, teganau a hyd yn oed beth oedd yn ei hoffi. Rhoddais lawer (gormod o lawer fyddai rhai’n dweud!!) o wybodaeth i’r tîm amdanon ni ac roedd ganddyn nhw hefyd luniau a gwybodaeth am saith mis cyntaf fy mab. Yn bwysig, roedd gan y Tîm Mabwysiadu lun hefyd o fy mab gyda’i fam eni. Mae’r llyfr mewn iaith y byddwn i’n ei defnyddio bob dydd gyda fy mhlentyn, a gofynnwyd i mi brawf-ddarllen y llyfr a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Mae’r llyfr ar ei wedd derfynol yn wych, mae’n sôn am fy mab yn unig ar y dechrau, fel ei fod yn ddiogel ac yn gyfarwydd iddo. Yna mae’n mynd yn ôl i’r dechrau ac yn cynnwys llawer o luniau ohono fel babi, y Gofalwyr Maeth a’r fam enedigol. Yn olaf, mae’r llyfr yn rhoi sylw i’r ychydig flynyddoedd yr ydym eisoes wedi’u treulio gyda’n gilydd. Mae’r llyfr yn cynnwys llawer o luniau, ond hefyd geiriau sy’n rhoi mwy o esboniad.
Mae fy mab wrth ei fodd â “Llyfr am (enw’r mab)” fel y mae’n ei alw. Rydym yn aml yn eistedd ac yn bwrw golwg ar y llyfr gyda’n gilydd. Weithiau, bydd fy mab jest yn edrych ar y tudalennau am ei fywyd presennol yn unig, ac yn anwybyddu’r tudalennau amdano fel babi a’r fam enedigol yn llwyr, ac mae hynny’n iawn i mi. Mae’n edrych ar yr hyn sy’n bwysig iddo ar y diwrnod hwnnw a’r hyn y mae’n gallu/eisiau uniaethu ag ef, a gan ei fod yn dair oed yn unig, rydw i eisiau cynnal sgyrsiau yn ôl ei delerau ef. Ar adegau eraill bydd yn edrych ar luniau o’r fam enedigol, a bydd yn dweud, fe dyfais yn ei bol. Roedd clywed fy mab yn dweud hyn yn dangos i mi ei fod eisoes yn deall rhywbeth. Rwyf ar sawl achlysur wedi gofyn i fy mab a oes ganddo unrhyw gwestiynau pan fyddwn yn gweld lluniau ohono fel babi neu’r fam enedigol, ond dim ond ymholiadau yw ei gwestiynau erioed fel “oeddwn i’n hoffi tryciau anferth fel babi hefyd?”, a does dim o’i le â hynny, oherwydd mae’n gwybod y gall ofyn cwestiynau i mi, ac wrth iddo dyfu, rwy’n siŵr y bydd yn gofyn cwestiynau dwysach. Rwyf hefyd yn ceisio ychwanegu pytiau bach o wybodaeth wrth i ni bori trwy’r llyfr, dim ond darnau bach ychwanegol o wybodaeth am y fam enedigol er mwyn peidio â’i lethu, weithiau mae’n derbyn y wybodaeth yn dda, dro arall mae’n troi’r dudalen.
Pa heriau ydych chi’n eu hwynebu fel rhiant o safbwynt taith bywyd eich mab?
Mae siarad am waith taith bywyd wastad yn heriol, hyd yn oed gyda phlentyn tair oed. Rydym yn cadw cysylltiad rheolaidd â’r Gofalwyr Maeth, yn ôl ein dewis ni, ac mae fy mab yn gwybod ei fod wedi byw yn eu tŷ pan oedd yn fabi. Fodd bynnag, un diwrnod wrth edrych ar ei lyfr esboniais i fy mab beth oedd gofal maeth ac esboniais iddo fod Gofalwr Maeth 1 a Gofalwr Maeth 2 yn wirioneddol garedig i ofalu amdano nes y gallai symud i fyw gyda mami. Roedd fy mab wedi dychryn a dywedodd nad oedden nhw wedi gwneud rhywbeth neis o gwbl. Sylweddolais yn gyflym iawn nad oedd yn deall ac roedd yn poeni y gallai fod yn rhaid iddo fynd yn ôl i fyw yno, neu eu bod wedi ei gymryd oddi ar ei fam. Dywedais wrtho yn gyntaf ei fod yn mynd i fyw gyda mami am byth bythoedd, ac yna fe fuon ni’n siarad am ofal maeth. O’r diwedd, roedd fy mab yn cytuno bod y Gofalwyr Maeth yn garedig iawn i ofalu amdano nes y gallai symud i fyw gyda mami.
A fyddech chi’n argymell unrhyw adnoddau i helpu mabwysiadwyr eraill?
Rwyf hefyd wedi bod yn prynu rhai llyfrau mabwysiadu a theulu ar gyfer fy mab. Prynais sawl llyfr am deuluoedd a mabwysiadu, sy’n dangos iddo y gall teuluoedd fod yn wahanol ac egluro mabwysiadu, megis dweud “roedd angen teulu arnot ti i dy garu, roedd gen i lawer o gariad i’w roi i ti” ac ati. Pan rydyn ni’n darllen y llyfrau, mae’n protestio, ac felly dim ond yn achlysurol yr ydym yn eu darllen. Fodd bynnag, gan fy mod yn gweithio drwy’r broses asesu ar gyfer mabwysiadu am yr eilwaith, prynais lyfrau am fabwysiadu brawd neu chwaer, ac mae’r rhain yn fwy poblogaidd gyda’m mab, ac rydym wedi gallu trafod pam mae rhai plant yn cael eu mabwysiadu a thrafod dod o hyd i’r teulu iawn.
Mae’r llyfr taith bywyd wedi bod yn amhrisiadwy i helpu fy mab i ddeall ei stori hyd yn hyn. Rwy’n teimlo y bydd cael llun o’r fam enedigol a rhywfaint o wybodaeth amdani yn ei helpu pan fydd yn hŷn. Mae gennyn ni lythyrau bywyd diweddarach hefyd, ond maen nhw’n cael eu cadw’n ddiogel nes bydd fy mab yn hŷn o lawer.
Mae gwaith Hanes Bywyd wedi bod yn dipyn o daith yn barod. Mae’r mab wedi derbyn y rhan fwyaf o’r pethau yr oeddwn i’n ofni amdanyn nhw fel siarad am y fam enedigol, a rhai o’r pethau roeddwn i’n meddwl y bydden nhw’n symlach, fel siarad am y Gofalwyr Maeth, wnaeth ennyn yr ymateb mwyaf.
Mae fy mab bron yn bedair oed a symudodd gartref dros dair blynedd yn ôl. Nid yw’n gwybod ei gefndir eto, ond mae’n gwybod na thyfodd yn fy bol ac mae’n adnabod llun ei fam enedigol ac yn gwybod rhai pethau sylfaenol iawn amdani. Mae fy mab yn gwybod beth yw mabwysiadu, mae’n dwlu ar ei ofalwyr maeth, mae’n gwybod ei fod yn byw gyda mami am byth, ei fod yn gallu gofyn neu ddweud unrhyw beth wrtha i, a bod mami yn ei garu yn fwy na dim byd arall. Ar hyn o bryd, mae hyn yn ddigon i mi, fe ychwanegaf at hanes ei fywyd wrth iddo fynd yn hŷn, mewn modd sy’n briodol i’w oedran, heb ei lethu, a phan fyddaf yn credu ei fod yn ddigon hen i ddeall a phrosesu’r wybodaeth.
O ran gwaith stori bywyd, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd newydd ddechrau’r broses fabwysiadu?
- O’m profiad i, y peth mwyaf hanfodol am waith taith bywyd yw nad yw byth yn rhy gynnar i siarad am daith bywyd gyda phlentyn. Mae hanes y plentyn yn rhan ohonyn nhw, ac ni allwch chi byth ddileu hynny neu ni ddylech byth fod eisiau gwneud hynny. Gall y sgwrs gyntaf ymddangos yn frawychus ond mae cael sgwrs gyda phlentyn saith mis oed nad yw’n gallu siarad yn ôl gymaint yn haws na chael sgwrs am y peth gyda phlentyn chwe blwydd oed am y tro cyntaf! Fy mhrofiad gyda fy mhlentyn i yw bod plant yn llawn syrpreisys!
- Byddwn yn cynghori eich bod bob amser yn agored ac yn onest gyda’ch plentyn, ond mewn modd sy’n briodol i’w oedran i’w amddiffyn, ei helpu i ddeall a pheidio â’i lethu. Rwyf bob amser wedi cofio nad oes gan blentyn tair oed hidlydd. Felly, gan fod yn onest, mae angen imi gofio bod yr hyn yr ydw i yn ei ddweud yn debygol o gael ei ailadrodd, ac er mwyn cadw fy mab yn ddiogel, efallai y bydd angen cadw’r manylion nes ei fod yn hŷn. Stori ei fywyd ef yw hon, ac nid fy lle i yw ei hadrodd, ond ar yr un pryd yr hyn y mae’n ei ailadrodd yn ifanc iawn, efallai na fydd am ei rannu pan fydd yn hŷn. Yn aml, unwaith y bydd gwybodaeth wedi cael ei datgelu, dyna ni.
- Fy nghyngor arall yw gweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gael y llyfr Taith Bywyd iawn i chi a’ch plentyn. Mae angen i’r llyfr fod yn eich iaith chi, a dylai fod yn briodol i oedran eich plentyn neu fe fydd yn anodd i’w ddarllen. Rwy’n credu bod fy mab yn hoffi ei lyfr oherwydd mae’r tudalennau cyntaf i gyd yn llawn negeseuon cadarnhaol nid rhywfaint ohonynt yn unig; Mae cael llyfr da y byddwch chi a’ch plentyn yn ei ddefnyddio, fel sydd gennym ni, yn bwysig iawn i mi.
Beth mae mabwysiadu wedi’i olygu i’ch bywyd
Mae mabwysiadu yn golygu popeth i mi. Mae gen i’r mab mwyaf anhygoel ac rydw i bellach yn y broses o fabwysiadu am yr eildro. Mae gennyn ni berthynas anhygoel gyda Gofalwyr Maeth fy mhlentyn, ac rydw i wedi cwrdd â ffrindiau newydd ac wedi dysgu cymaint ar hyd y daith.
Byddwn yn dweud mewn un ffordd nad wyf yn meddwl am y mabwysiadu o ddydd i ddydd, nid yw fy mab yn wahanol i fab biolegol i mi, ac yn sicr nid wyf byth yn edrych arno ac yn meddwl amdano fel plentyn mabwysiedig. Rydyn ni’n byw bywyd normal, beth bynnag yw ystyr normal. Fy mab yw fy mhlentyn, a fi yw ei fam. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae mabwysiadu bob amser ar eich meddwl, y daith bywyd, y pethau anhysbys wrth iddo dyfu i fyny a datblygu, trafodaethau gydag athrawon, rhagweld cwestiynau, yn enwedig ar adegau fel Sul y Tadau gan fy mod yn fabwysiadwraig sengl a llawer mwy.
Newidiodd mabwysiadu fy mywyd er gwell. Er bod heriau ar y daith, yn ogystal â’r heriau y mae llawer o rieni eraill yn eu hwynebu, ni fyddwn yn newid dim. Rwyf eisoes wedi cael cymaint o amseroedd da gyda fy mhlentyn. Rwy’n deffro yn bob bore a’i glywed yn dweud bore da mami (ar amser hurt) ac mae clywed y llais bach yna mor hapus i fy ngweld a fy ngalw’n mami, yn ddigon i roi gwên ar fy wyneb am weddill y dydd. Mae yna blant sydd angen cartref cariadus a diogel ac mae darparu hynny i blentyn nid yn unig yn cynnig gobaith o ddyfodol hapus iddynt, ond yn fy mhrofiad i yn cyfoethogi eich bywyd yn aruthrol.
Rydyn ni’n gobeithio bod stori Nicola wedi amlinellu pa mor bwysig yw gwneud gwaith taith bywyd gyda phlant mabwysiedig ac wedi dangos sut y gall helpu i gryfhau perthnasoedd ac ymddiriedaeth plant mewn oedolion. Os yw’r stori wedi eich ysbrydoli i ystyried mabwysiadu, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.