CRONFA YMDDIRIEDOLAETH PLANT – A gafodd eich Plentyn ei eni rhwng 01/09/2002 a 02/01/2011?

Dylai’r rhan fwyaf o blant a anwyd yn y DU rhwng y dyddiadau uchod gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) unigol yn eu henwau, yn barod ar gyfer yr adeg pan fyddant yn 18 oed.

Sefydlodd y Llywodraeth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (yn 2002) i annog plant i arbed arian a rhoi mantais iddynt drwy fuddsoddi swm o arian i’w rhoi ar ben ffordd, ac er mwyn iddynt ei ddefnyddio yn 18 oed.

Roedd hon yn fenter newydd o ran lles sy’n seiliedig ar asedau, a rhoddodd llywodraeth ddilynol y gorau i’w darparu yn 2011.

Ar gyfer y rhan fwyaf o blant a anwyd rhwng Medi 2002 ac Ionawr 2011 rhoddodd y Llywodraeth £250 i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ôl eu genedigaeth a rhoddwyd £250 arall pan oedd y plant yn 7 oed. Dyblwyd y symiau hyn ar gyfer y plant mewn teuluoedd oedd yn cael Credyd Treth Plant.

Dylai’r cyfrifon gwreiddiol fod wedi’u sefydlu gan eu Rhieni Biolegol (gan ddefnyddio Enw Geni’r plentyn). Os na wnaethant hyn (am ba reswm bynnag), sefydlodd y Llywodraeth (Cyllid y Wlad) gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer y plentyn fel cyfrif a ddyrannwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), gan ddefnyddio ystod o ddarparwyr cyfrifon.

Mae cymhlethdodau o ran plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu. Gallai rhieni mabwysiadol fod wedi trosglwyddo’r statws ‘cyswllt cofrestredig’ ar gyfer y cyfrif iddynt eu hunain ar ôl i orchymyn mabwysiadu gael ei roi, ond efallai y bu cymhlethdodau o ran newid enw ac ati. Roedd rhieni mabwysiadol yn gallu cyfrannu at y cyfrifon hyn dros y blynyddoedd. Os yw eich plentyn o dan 18 oed, gallai fod cyfleoedd o hyd i wneud hyn.

Buddsoddwyd y rhan fwyaf o’r cyfrifon hyn yn y farchnad stoc, felly mae llawer wedi gweld twf dros y blynyddoedd, ac efallai y byddant bellach yn werth £1,000 neu ragor.

Gall pobl ifanc cymwys rhwng 16 a 18 oed gymryd rheolaeth o’r cyfrifon hyn, ar unrhyw adeg ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed, a gallant, er enghraifft, ddewis pa gyfrif y maent yn dymuno i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gael ei fuddsoddi ynddo.

Fodd bynnag, dim ond y person ifanc all dynnu arian o’i gyfrif (ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed), ac yn gyfreithiol mae ganddo’r hawl i wario’r arian fel y mynno. Gall rhieni gynghori’r person ifanc i’w ddefnyddio’n ddoeth, er enghraifft ei fuddsoddi erbyn iddo fod yn hŷn – ond mae’r gyfraith yn datgan bod ganddo’r hawl i’w dynnu’n ôl a’i wario mewn unrhyw ffordd y mynno.

Os yw mabwysiadwyr (neu bobl ifanc wedi’u mabwysiadu dros 16 oed) yn dymuno darganfod ble mae’r cyfrifon hyn (hynny yw, pa ddarparwr cyfrif sydd ganddynt), awgrymaf eu bod yn cysylltu â The Share Foundation (a elwir hefyd yn Sharefound), sy’n elusen gofrestredig ac sy’n gweithio i’r Adran Addysg fel y sefydliad sy’n rhedeg y cynlluniau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a chyfrif ISA i Bobl Iau ar gyfer pobl ifanc mewn gofal.

Mae’r Share Foundation hefyd yn cynnal digwyddiadau rhithwir rheolaidd sy’n darparu rhagor o fanylion ac yn trafod y manylion uchod, y gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn, rhieni, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eu mynychu.

I gael manylion am y rhain (ac i gael cyngor) ewch i https://findctf.sharefound.org neu ffoniwch 01269 310400.  Wrth ddefnyddio’r cyfleuster chwilio cofiwch y dylai’r person ifanc gael ei rif Yswiriant Gwladol wrth law (a ddarperir gan CThEM ychydig ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed).

Ar gyfer plant sy’n cael eu geni ar ôl 02/01/2011, ar hyn o bryd gall rhieni agor cyfrifon ISA i Bobl Iau ar ran eu plant, ond bellach mae’r llywodraeth yn gwneud cyfraniadau’n unig ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.