Mae arnom angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu’r un diwylliant, iaith a chrefydd, ac mae llawer o bobl bellach yn penderfynu dechrau teulu yn ddiweddarach mewn bywyd.
Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw beth y gallwch chi ei gynnig i fywyd plentyn. Yn y pen draw, eich gallu chi i ymrwymo i roi cartref cariadus a pharhaol i blentyn fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Mae llawer o resymau pam y mae pobl yn meddwl nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu, ond dyma rai o’r mythau sy’n ymwneud â mabwysiadu.
Myth #1: Rwy’n rhy hen i fabwysiadu
Nid oes terfyn uchaf o ran oedran ar gyfer mabwysiadu, yr unig amod sy’n gysylltiedig ag oedran ar gyfer mabwysiadu yw bod yn rhaid i chi fod dros 21 oed. Byddwn yn ystyried amgylchiadau unigol pob ymgeisydd gan gynnwys gwneud yn siŵr bod eich iechyd mewn cyflwr da, bod gennych rwydwaith cymorth da, a’ch bod yn debygol o allu cefnogi plentyn mabwysiedig nes ei fod yn oedolyn. Ond mae llawer o bobl yn eu 40au a’u 50au wedi mabwysiadu plant yn llwyddiannus.
Myth #2: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod i’n LGBTQ +
Daeth cyfraith i rym yn Rhagfyr 2005 yn rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw fabwysiadu. Os ydych chi’n gwpl o’r un rhyw, does dim angen i chi fod mewn Partneriaeth Sifil neu’n briod i fabwysiadu, bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n cyd-fyw mewn perthynas barhaus.
Myth #3: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod i’n sengl
Mae’n gamdybiaeth yn aml bod yn rhaid bod yn briod i fabwysiadu. Fodd bynnag, gall person sengl fabwysiadu os yw’n dymuno cael plentyn yn rhan o’i fywyd. Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl Sengl o bob rhyw. Byddwn yn trafod y gefnogaeth sydd gennych o’ch cwmpas yn ystod y broses asesu.
Myth #4: Nid ydym yn briod, felly ni fyddwn yn cael mabwysiadu
Mae modd i chi fabwysiadu plentyn ni waeth beth yw eich statws priodasol – p’un a ydych chi’n sengl, yn ddibriod neu mewn partneriaeth sifil. Fel arfer, argymhellir eich bod chi a’ch partner wedi byw gyda’ch gilydd am o leiaf flwyddyn cyn dechrau ar eich taith fabwysiadu, ond cyhyd â’ch bod yn gallu dangos eich bod mewn perthynas sefydlog, barhaus a chadarn, byddwch yn gallu gwneud cais ar y cyd i fabwysiadu plentyn.
Myth #5: Nid wyf yn berchen ar fy eiddo fy hun, felly nid wyf yn gymwys i fabwysiadu plentyn.
Does dim angen i chi fod yn berchen ar eiddo i fabwysiadu plentyn. Os oes gennych gytundeb rhentu sefydlog yn yr eiddo yr ydych yn ei rentu, gellir eich ystyried i fabwysiadu plentyn. Yn ddelfrydol, bydd angen ystafell wely sbâr arnoch chi ar gyfer plentyn mabwysiedig; mae’n bwysig bod ganddynt le iddyn nhw eu hunain. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn wrth fabwysiadu plentyn ychydig yn hŷn, oherwydd gall meithrin perthynas â phlant presennol yn y teulu gymryd amser.
Myth #6: Rwy’n gweithio’n amser llawn, felly nid oes modd fy ystyried i fabwysiadu plentyn.
Nid yw gweithio’n amser llawn o reidrwydd yn golygu na fydd modd ichi fabwysiadu plentyn. Fe’ch anogir (neu’ch partner, os ydych chi’n mabwysiadu fel cwpl) i gymryd cyfnod estynedig o absenoldeb mabwysiadu o’r gwaith, i helpu’ch plentyn newydd i deimlo’n ddiogel ac yn gartrefol yng nghwmni ei deulu newydd.
Rydym yn annog mabwysiadwyr i feddwl sut y byddant yn ymdopi’n ariannol wrth gymryd amser o’r gwaith. Mae gan bobl sy’n gyflogedig yr hawl i gael absenoldeb mabwysiadu â thâl, ond yn achos y rheiny sy’n hunangyflogedig, bydd angen iddynt ystyried yn benodol sut y byddant yn cydbwyso’r angen i weithio a’r angen i gynnig y sefydlogrwydd hanfodol hwnnw i blentyn yn gynnar yn y lleoliad.
Myth #7: Rwy’n ddi-waith / ar fudd-daliadau, felly ni chaniateir i mi fabwysiadu
Byddwn yn trafod eich sefydlogrwydd ariannol a’ch gallu i reoli arian yn ystod yr asesiad mabwysiadu, ond NI fyddwch yn cael eich gwahardd yn awtomatig rhag mabwysiadu os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu ar fudd-daliadau.
Os yw pandemig COVID-19 wedi effeithio ar eich swydd a / neu os ydych wedi cael eich rhoi ar ffyrlo yn ystod y misoedd diwethaf, ni fydd hyn yn eich rhwystro’n awtomatig rhag mabwysiadu. Trafodwch eich sefyllfa yn agored gyda ni, a byddwn yn eich cefnogi a’ch cynghori.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd modd cael cymorth ariannol gan yr asiantaeth sy’n gosod y plentyn, felly siaradwch â ni cyn rhoi’r ffidl yn y to.
Myth #8: Mae gen i blant biolegol eisoes, felly ni fyddaf yn gallu mabwysiadu
Os oes gennych blant biolegol, ni fydd hynny o reidrwydd yn eich atal rhag mabwysiadu. Bydd y bwlch oedran rhwng eich plant biolegol ac unrhyw ddarpar blant mabwysiadol yn cael ei ystyried, ynghyd â sefyllfa pob plentyn yn y teulu. Fel arfer, byddai asiantaethau yn awyddus mai’r plentyn mabwysiedig fyddai’r plentyn ieuengaf yn y teulu o ddwy flynedd o leiaf.
Byddwn yn cydweithio’n agos â chi i sicrhau y cydnabyddir anghenion POB plentyn.
Myth #9: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod yn dilyn ffydd/crefydd benodol
Nid yw crefydd neu diffyg crefydd yn effeithio ar y gallu i fabwysiadu plentyn. Mae gan blant sy’n aros am gael eu mabwysiadu gefndiroedd, diwylliannau a chrefyddau gwahanol, ac yn unol â hynny mae asiantaethau mabwysiadu yn croesawu mabwysiadwyr o bob cefndir.
Dengys ymchwil y gall pobl â ffydd gael eu cymell gan allgariaeth a dymuniad i ofalu am y rhai sy’n agored i niwed, sy’n amlwg yn beth cadarnhaol o ran mabwysiadu.
Myth #10: Rwy’n byw gyda theulu estynedig, felly ni allaf fabwysiadu plentyn.
Gall byw gydag aelodau estynedig o’r teulu fod o fudd mawr i rieni sy’n mabwysiadu plentyn, yn enwedig o ystyried y gefnogaeth y gallant ei chynnig. Ond bydd angen i’r aelodau hynny o’r teulu fod yn rhan o’r broses asesu a bydd yn rhaid iddynt ddeall yr anghenion penodol a allai fod gan blant sy’n cael eu mabwysiadu. Efallai y gofynnir iddynt fynychu hyfforddiant priodol a sicrhau eu bod ar gael pan gyflwynir y plentyn i’r teulu am y tro cyntaf.
Myth #11: Mae gen i gyflwr iechyd meddwl, felly ni fyddaf yn gallu mabwysiadu
Nid yw cyflwr iechyd meddwl yn eich rhwystro chi rhag mabwysiadu plentyn. Byddai angen trafod unrhyw gyflwr iechyd, meddyliol neu gorfforol yn llawn yn ystod yr asesiad, a bydd pob darpar fabwysiadwr yn cael prawf meddygol yn ystod camau cyntaf y broses. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall eich cyflwr, unrhyw faterion sy’n ymwneud â’ch gallu i fabwysiadu plentyn a pha mor dda rydych chi’n cael eich cefnogi gan eich teulu a’ch ffrindiau.
Mae llawer o bobl yn profi cyfnodau byr o iselder, gorbryder neu straen ac mae eraill yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl tymor hir a reolir yn dda gan feddyginiaeth. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar asesu eich gallu i ddiwallu anghenion plentyn mewn modd cyson ac ystyried sut y bydd straen o fabwysiadu plentyn yn effeithio ar eich iechyd meddwl. Siaradwch yn agored â ni a byddwn yn eich cefnogi, ni waeth pa benderfyniad rydym yn ei wneud.
Myth #12: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod yn anabl
Os ydych yn anabl, ni fydd hynny yn eich rhwystro rhag mabwysiadu plentyn. Bydd eich prawf meddygol yn rhoi sylw i unrhyw faterion y gallech eu profi wrth fagu plentyn wedi’i fabwysiadu, ond mewn gwirionedd, efallai y bydd gennych brofiad a dealltwriaeth benodol a fyddai’n golygu eich bod yn rhiant mabwysiadol arbennig o dda. Siaradwch â ni cyn i chi ddiystyru eich hunan.
Myth #13: Rwyf dros bwysau, felly ni fyddaf yn cael mabwysiadu plentyn
Mae llawer o fabwysiadwyr sydd dros bwysau yn llwyddo i fabwysiadu plentyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni sicrhau bod mabwysiadwyr yn debygol o aros yn ddigon iach ac egnïol i ofalu am blentyn hyd nes ei fod yn oedolyn a bod y plentyn yn byw bywyd iach hefyd.
Yn ystod yr asesiad, bydd y prawf meddygol yn rhoi sylw i’ch ffordd o fyw, eich BMI ac unrhyw oblygiadau iechyd posibl, ond rydym yn gwarantu y bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi mewn ffordd sensitif a pharchus.
Myth #14: Ni allaf fabwysiadu plentyn gan fod gennyf gofnod troseddol
Os oes gennych gofnod troseddol nid yw hynny o reidrwydd yn golygu na fydd modd i chi fabwysiadu plentyn. Cyn belled nad oes gennych unrhyw euogfarnau am droseddau yn erbyn plant neu droseddau rhywiol penodol yn erbyn oedolyn, gellir dal ystyried eich cais. Siaradwch â ni yn gyntaf, byddwch yn hollol onest, a byddwn yn rhoi cyngor pellach i chi.
Myth #15: Ar ôl i ni fabwysiadu, byddwn ar ein pennau ein hunain … ni fyddwn yn cael unrhyw help
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig cymorth i blant sydd wedi’u mabwysiadu a’u teuluoedd ar hyd eu hoes. Gall ein mabwysiadwyr fynychu gweithdai hyfforddi rheolaidd, grwpiau cymorth ac ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol. Yn ogystal, mae modd cael cymorth un i un mwy arbenigol pan fo angen – o apwyntiadau meddygfa, a sesiynau Theraplay, i gwnsela. Rydym yma ar eich cyfer bob cam o’r ffordd.
Myth #16: Ni fyddaf yn gallu magu fy mhlentyn yn y Gymraeg os yw’n dod o deulu Saesneg.
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sicrhau bod plant yn cael eu lleoli mewn teuluoedd sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Nid yw iaith yn rhwystr wrth fabwysiadu. Rydym yn lleoli plant sy’n dod o deuluoedd Saesneg, neu y mae eu gofalwyr maeth yn siarad Saesneg, mewn teuluoedd Cymraeg, ac mewn dim o dro, byddant yn ddwyieithog.
Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.
Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.
Rydym hefyd ar Facebook, Instagram ac ar Twitter