Mabwysiadu brodyr neu chwiorydd fel cwpl LGBT yn ystod cyfnod clo

Sut brofiad yw mabwysiadu brodyr neu chwiorydd fel cwpl hoyw ynghanol cyfnod clo cenedlaethol. Fe fuon ni’n siarad â Ben a Lee i gael gwybod.

Allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich teulu a beth ysbrydolodd chi i fabwysiadu?

Fel dyn hoyw yn tyfu i fyny yn y 90au, doeddwn i byth yn meddwl y gallwn i gael plant. Diolch byth mae pethau wedi newid, felly pan ddaeth Lee a fi at ein gilydd a sylweddoli fod y ddau ohonon ni’n awyddus i gael plant, roedden ni’n gallu bod yn rhieni.

Mae’r ddau ohonon ni o deuluoedd mawr, clos ac roedden ni wedi breuddwydio am gael teulu felly ein hunain a dyna pam wnaethon ni benderfynu mabwysiadu.

Allwch chi sôn rywfaint am eich taith fabwysiadu?

Fe wnaethon ni fwynhau’r holl broses yn fawr. Fe ddechreuon ni trwy fynd i noson agored i gael syniad cyffredinol o’r broses, ond o’r cychwyn cyntaf roedden ni’n gwybod mai mabwysiadu oedd y daith iawn inni.

Yna fe aethon ni ar gwrs paratoi ac ar ôl gorffen hwnnw fe gawson ni ein cyflwyno i’n gweithiwr cymdeithasol a wnaeth y 12 ymweliad cartref gyda ni. Roedd gyda ni berthynas dda â hi o’r cychwyn ac roedd yn rhwydd bod yn agored gyda hi.

Trwy gydol y broses gyfan roedden ni’n gyson yn atgoffa’n hunain am y nod yn y pendraw, sef cael ein teulu ein hunain ac mae’n sicr bod hynny wedi’n helpu trwyddi.

Fe benderfynoch chi fabwysiadu chwiorydd, allwch chi ddweud mwy wrthym am y penderfyniad yna?

Roedd yn gynnar yn y broses mewn gwirionedd. Roedden ni wedi bod eisiau dau blentyn o leiaf o’r cychwyn, a Lee oedd y cyntaf i awgrymu mabwysiadu brodyr neu chwiorydd. Trwy fabwysiadu brodyr neu chwiorydd o’r cychwyn, roedden ni’n meddwl na fyddai rhaid inni boeni am unrhyw anawsterau posib yn cyflwyno ail blentyn i’r teulu yn ddiweddarach.

Sut brofiad yw mabwysiadu chwiorydd? 

Mae wedi bod yn anhygoel. Mae ein merched yn agos iawn o ran oed, sydd wedi bod yn wych gan eu bod yn gallu chwarae gyda’i gilydd ac rwy’n credu ei fod yn rhoi rhyw gysur iddynt o fod gyda’i gilydd. Mae gyda nhw fond arbennig sy’n rhyfeddol i’w weld.

Allwch chi sôn rywfaint am sut aethoch ati i baratoi i ddod â chwiorydd gartref?

Roedden ni’n ffodus o gael cysylltiad da iawn gyda’r gofalydd maeth, a gadawodd inni ofyn mwy neu lai pob cwestiwn dan haul. Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr fod popeth yr un peth iddyn nhw ac fe roddodd hi arweiniad a thawelwch meddwl inni.

Ac o ran y siopa, roedd rhaid inni brynu popeth ddwywaith, felly fe gawson ni ddau got, bygi ddwbl.

Fe wnaethoch chi fabwysiadu yn ystod cyfnod clo coronafeirws. Sut mae’r pandemig a’r cyfnodau clo wedi effeithio ar eich taith fabwysiadu?

Fe gawson ni un diwrnod cwrdd-i-ffwrdd cyn y cyfnod clo pan fuon ni’n cwrdd a chymysgu â’r merched mewn canolfan chwarae meddal.

Yna cafodd popeth arall ei arafu oherwydd y cyfnod clo, oedd yn golygu ein bod wedi dechrau ein cyflwyniadau trwy alwad fideo oedd yn y pendraw yn beth go dda inni gan y cawson ni gyfle i adeiladu perthynas dda iawn cyn dechrau ein cyflwyniadau yn gorfforol. Rhoddodd fwy o amser inni baratoi a chael ein hunain yn barod. 

Rhywbeth arall cadarnhaol inni oedd faint o amser gafodd y ddau ohonon ni o’r gwaith i’w dreulio gyda’r merched. Yn wreiddiol doedden ni ond yn mynd i gael tri mis i ffwrdd, ond oherwydd y cyfnod clo rwyf wedi cael mwy neu lai blwyddyn i ffwrdd gyda nhw sydd wedi’n helpu bondio o ddifrif.

Felly, inni yn ein swigen fach, mae ‘na rai pethau cadarnhaol wedi dod allan o gyfnod sydd fel arall wedi bod yn un negyddol iawn.

Mae Chwefror yn fis Hanes LGBT+. Sut brofiad yw mabwysiadu fel cwpl hoyw yn 2020?

Mae wedi bod yn daith hwylus iawn inni trwy gydol y broses gyfan. Cawsom ein derbyn gan bawb yn Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru a dydyn ni erioed wedi wynebu unrhyw ragfarn o gwbl oherwydd ein bod yn gwpl hoyw.

Pan ddechreuon ni’r broses, rwy’n credu fod y ddau ohonon ni braidd yn ansicr am fynd i’r cwrs paratoi. Ai ni fyddai’r unig gwpl hoyw yno a beth fyddai’r cyplau eraill yn feddwl ohonon ni? Yn y pendraw, doedd gyda ni ddim i boeni i amdano, roedd cwpl hoyw arall ar y cwrs, ac roedd pawb mor garedig a chroesawgar inni.

Mae’n anhygoel meddwl i unrhyw un sy’n cael eu geni’r dyddiau yma, pan fyddan nhw’n mabwysiadu mewn 20-30 mlynedd, y bydd yn gwbl normal ond inni wrth dyfu i fyny, roedd yn gwbl ddieithr meddwl am allu mabwysiadu a chael plant fel dyn hoyw.

Dydw i ddim yn credu fod popeth yn berffaith i gyplau hoyw eto, mae digon o waith i’w wneud o hyd ond ddaethon ni ddim ar draws unrhyw negyddiaeth a chawson ni ddim trafferthion o gwbl ym myd mabwysiadu.

Ydych chi wedi dechrau meddwl am sut fyddwch yn siarad â’ch merched am gael dau dad?

Rydyn ni wedi prynu gwahanol lyfrau oed-briodol sy’n cyflwyno cael dwy fam, dau dad, un fam neu un tad i’r plant ac sy’n esbonio mai’r unig beth sy’n bwysig yw bod yn uned gariadus, ac rydyn ni’n darllen y rheiny iddyn nhw. Rydyn ni’n gwneud llawer o ddarllen ein hunain felly rydyn ni’n barod am y cwestiynau allai fod gyda nhw pan maen nhw rywfaint yn hŷn ac mae llawer o adnoddau da iawn ar gael y gallwn eu defnyddio pan fydd angen.

Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd newydd gychwyn ar broses mabwysiadu?

Estynnwch allan at gyd fabwysiadwyr gan y buon  nhw trwyddi ac y gallant gynnig help a chefnogaeth. Fe ymunon ni â grwpiau gwahanol ar Facebook ac Instagram ac fe fuon ni’n darllen llwyth o flogiau  mabwysiadu er mwyn deall y broses.

A chofiwch, does yr un cwestiwn yn rhy wirion nac yn rhy fach.

Ac yn olaf, beth mae mabwysiadu wedi’i roi i’ch bywydau?

Mae wedi newid ein bywyd er gwell. Rydyn ni’n sicr yn fwy prysur a mwy gweithgar, ond mae wedi dod â chymaint o lawenydd i’n bywyd ac wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i’r ddau ohonon ni.

Cyn hynny roedd y ddau ohonon ni’n brysur yn mynd i’r gwaith bob dydd, ond erbyn hyn ein prif ffocws yw ein teulu. Rydych chi bron yn cael ail-fyw eich plentyndod ac mae’n anhygoel gallu pasio pethau ‘mlaen i’n plant.

Bu’n hyfrydwch i’w gweld yn ymgyfarwyddo â bywyd yma, yn ein derbyn ni ac maen nhw’n gwneud inni wenu a chwerthin bob dydd.

Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.

Rydym hefyd ar Facebook, Instagram ac ar Twitter