50% oddi ar Aelodaeth Deuluol Adoption UK

Rydym yn cynnig 50% oddi ar Aelodaeth Deuluol Adoption UK ar gyfer pob aelod newydd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymunwch â Adoption UK fel aelod o’r teulu a dod yn rhan o gymuned sy’n poeni’n angerddol am fabwysiadu. Mae’r Aelodaeth Deuluol ar gyfer rhieni mabwysiadol a darpar fabwysiadwyr.

Beth sydd wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Deuluol?

Cyngor a chymorth

  • Gweminarau rhyngweithiol a gynhelir gan weithwyr proffesiynol, arbenigwyr a’r rhai sy’n gysylltiedig â mabwysiadu.
  • Grwpiau cymunedol lleol sy’n dod â theuluoedd mabwysiadol at ei gilydd yn yr un ardal ar gyfer cymorth a digwyddiadau gan gymheiriaid.
  • Cyfarfodydd rhithwir lle gall mabwysiadwyr gysylltu â’i gilydd a staff Adoption UK.
  • Fforwm ar-lein lle gall darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr sefydledig sgwrsio, trafod a rhannu eu straeon.
  • Llinell gymorth sy’n cael ei rhedeg gan dîm arbenigol yn Adoption UK.

Gwybodaeth ac adnoddau

  • Cylchrawn Adoption Today bob deufis sy’n llawn newyddion, adnoddau a mewnwelediad mabwysiadu.
  • Adnoddau ar gyfer aelodau yn unig. Mae hyn yn cynnwys llyfrgell fideo o weminarau a llu o daflenni ffeithiau defnyddiol ar bynciau fel absenoldeb mabwysiadu, ymlyniad a rhianta plant yn eu harddegau.
  • Llyfrgell fenthyca Adoption UK sy’n cynnwys cannoedd o lyfrau, fideos a gemau therapiwtig.
  • Blogiau a vlogiau sy’n ymchwilio i amrywiaeth o faterion perthnasol ac amserol.

Cynigion a gostyngiadau

  • Mynediad gostyngol i ddigwyddiadau Adoption UK, gan gynnwys y gynhadledd flynyddol.
  • Cyrsiau hyfforddi ar-lein gostyngol sy’n ymdrin â phynciau fel gwaith hanes bywyd, anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws a chefnogi anghenion iechyd meddwl.
  • Cynllun Mantais Adoption UK sy’n cynnig gostyngiadau brandiau mawr ar draws manwerthu, gwyliau, adloniant, yswiriant a chyfleustodau.
  • Gostyngiadau eraill o Jessica Kingsley Publishing a Gwyliau Butlins.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno, anfonwch e-bost at hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk

Gwerthuso Fframwaith Cymorth Mabwysiadu (Cymru)

Gwahoddir chi i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i IPC (Sefydliad Gofal Cyhoeddus) Prifysgol Oxford Brookes i werthuso effaith y Fframwaith Cymorth Mabwysiadu cenedlaethol.

Bydd y gwerthusiad yn parhau o 2020 tan 2021 a bydd yn helpu i ddeall yn well pa fath o gymorth sy’n gweithio i deuluoedd mewn gwahanol amgylchiadau.

Gwahoddwyd chi i gymryd rhan ynghyd â’r holl rhieni eraill sydd wedi mabwysiadu yng Nghymru (rydyn ni’n anelu at sampl o 300 o leiaf). Gyda’ch caniatâd, bydd y gwerthusiad yn golygu cymryd rhan mewn arolwg ar-lein o’ch profiadau wrth geisio help a’i gael ac effaith unrhyw gymorth a dderbyniwyd arnoch chi a’ch teulu. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau.

Caiff y canfyddiadau eu cofnodi mewn o leiaf un adroddiad i’w gyhoeddi ar-lein gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (Cymru) a Llywodraeth Cymru. Gallan nhw hefyd gael eu cyhoeddi mewn cylchgrawn ymchwil perthnasol.

Ni ddatgelir, ar unrhyw gam, enw’r teuluoedd neu aelodau’r teuluoedd sy’n cymryd rhan, yn uniongyrchol na chwaith yn anuniongyrchol wrth riportio.

Ni fydd ymchwilwyr yn IPC, ar unrhyw gam, yn rhannu’ch enw, eich manylion cyswllt nac unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu’ch enw. Yr unig eithriad i hyn ydy os, yn seiliedig ar rywbeth rydych yn ei rannu, bydd ymchwilwyr yn credu bod rhywun mewn perygl o gael niwed. Caiff yr holl wybodaeth a rannwch ei storio’n ddiogel drwy gydol cyfnod y gwerthusiad a’i dinistrio’n ddiogel 1 flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

Chi sydd i benderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr ymchwil ai peidio. Rydych hefyd yn rhydd i dynnu nôl ar unrhyw adeg hyd at bwynt dadansoddi’r data, heb gynnig rheswm. Ni fydd hyn yn effeithio mewn unrhyw fodd ar y cymorth y gallech chi ei dderbyn yn y dyfodol na’ch hawliau cyfreithiol.

Cymeradwywyd yr astudiaeth ymchwil gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Oxford Brooks. Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwerthusiad neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon amdano neu byddech yn hoffi gwneud achwyniad, cysylltwch â Katy Burch, sef y gwerthusydd arweiniol yn y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ar 01225484088 neu anfonwch e-bost at kburch@brookes.ac.uk. Os oes gennych unrhyw bryderon am y modd y cynhelir yr astudiaeth, dylech gysylltu â chadeirydd pwyllgor moeseg y Brifysgol ar ethics@brookes.ac.uk.

Os ydych chi wedi cychwyn yr arolwg ond heb ei orffen eto, tybed wnewch chi wneud hynny cyn gynted ag y gallwch. Os gwnaethoch benderfynu ei ‘arbed a pharhau yn ddiweddarach’, dylech fod wedi derbyn e-bost gan ‘Smart Survey’ a gynhyrchir yn awtomatig gyda dolen gyswllt i fynd yn ôl ato. Os na allwch ddod o hyd i’r e-bost, efallai ei fod wedi mynd i’ch ffolder ‘sbam’ ar ddamwain – efallai byddai’n werth cael golwg yn y fan honno.

Os nad ydych, hyd yma, wedi cychwyn ateb yr arolwg ond yr hoffech wneud hynny, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/AdoptionSupportWalesFamilySurvey/

Bydd yr arolwg yn cau ar Dachwedd 25ain 2020.

2 Swydd Wag – Aelod Annibynnol Panel

Cyfle i ymuno â phanel Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru fel aelod annibynnol – 2 swydd wag

A yw Mabwysiadu wedi cyffwrdd â’ch bywyd? Os felly, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn bod yn Aelod o’r Panel Annibynnol am 1 diwrnod y mis.

Mae Cyngor Sir Powys am benodi aelod annibynnol i Gyd-Banel Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru am gyfnod o bedair blynedd.

Mae’r Panel Mabwysiadu yn gwneud argymhellion am ba mor addas yw unigolion neu gyplau i fabwysiadu plentyn ac yn gwneud argymhellion ar gyfer paru plant sydd â chynllun mabwysiadu a darpar fabwysiadwyr.

Rhaid i chi fod yn gyfrifol, yn ddibynadwy, ac yn gallu darllen ac dehongli llawer iawn o wybodaeth ysgrifenedig gynhwysfawr. Dylai bod gennych brofiad personol o fabwysiadu ac er bod y Panel Mabwysiadu yn cael ei gynnal ar-lein ar hyn o bryd, bydd angen gallu teithio i Baneli Mabwysiadu yn Llandrindod ac Aberhonddu. Rhoddir taliad o £150 ar gyfer pob cyfarfod o’r panel Mabwysiadu i gynnwys amser darllen a phresenoldeb ar y panel.

Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch Claire Phillips, Rheolwr y Tîm Mabwysiadu (Powys) claire.phillips@powys.gov.uk a bydd yn trefnu trafodaeth anffurfiol a fydd yn cael ei dilyn gan gyfweliad.

Dyddiad cau 30.11.2020                                      

Mae’r penodiad yn destun cyfweliad

Baromedr Mabwysiadu

Cymru yn dod i’r brig mewn arolwg mabwysiadu ledled y DU, ond mae angen mwy o gefnogaeth o hyd ar gyfer plant bregus, yn ôl adroddiad

Ochr yn ochr â nodi darlun sy’n gwella ar lawer ystyr, mae tystiolaeth o hyd bod bywydau rhai o blant mwyaf bregus y DU yn cael eu heffeithio gan gyfleoedd a gollwyd i roi cefnogaeth amserol a digonol iddynt, mae adroddiad newydd yn datgelu heddiw.

Mae’r Baromedr Mabwysiadu, a gyhoeddwyd gan yr elusen Adoption UK, yn disgrifio’r effaith ddramatig y gall y gefnogaeth gywir ei chael. Bellach yn ei ail flwyddyn, mae’r Baromedr yn seiliedig ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr. Eleni, ymatebodd 5,000 o bobl i’r arolwg, gyda 361 ohonynt yng Nghymru.

Mae’r Baromedr Mabwysiadu hefyd yn asesu polisïau’r llywodraeth sy’n rheoleiddio mabwysiadu. Polisïau Cymru a sgoriodd orau, gyda thri maes o bolisi yn sgorio ‘da’ – Cymeradwyaethau a Chyfateb, Mabwysiadwyr Newydd eu Lleoli a Theuluoedd Sefydledig. Polisi yn ymwneud â dod o hyd i deuluoedd i blant a sgoriodd orau yn gyffredinol.

Fodd bynnag, sgoriodd pob gwlad yn wael mewn o leiaf un maes polisi. Polisi yn ymwneud ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) a sgoriodd waethaf, gyda’r holl genhedloedd yn cael eu hasesu fel rhai ‘gwael’, ac roedd profiadau mabwysiadu plant â FASD neu yr amheuir eu bod hefyd yn ‘wael’ ym mhob gwlad.

Bu cynnydd yng Nghymru ers Baromedr y llynedd, gan adeiladu ar y gwelliant a welwyd ers i Gymru weithredu ei Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS). Ym mis Mehefin 2019, bu buddsoddiad o £2.3m mewn gwasanaethau mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector, mae peth o’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau newydd gan gynnwys y Gwasanaethau Addysg a Chefnogaeth Therapiwtig mewn Mabwysiadu (TESSA) a gwasanaeth pobl ifanc newydd. Roedd ymatebwyr yng Nghymru gryn dipyn yn fwy cadarnhaol ynghylch eu profiadau o gael gafael ar gymorth yn ystod 2019 nag yr oeddent y flwyddyn flaenorol.

Un o’r prif themâu sydd wedi dod i’r amlwg ledled y DU yw’r methiant i ddarganfod a thrin niwed i’r ymennydd a achosir gan blant yn dod i gysylltiad ag alcohol yn y groth. Mae’r adroddiad yn datgelu bod mwy nag un o bob pedwar o blant mabwysiedig yng Nghymru (28%) naill ai’n cael diagnosis o FASD neu yr amheuir eu bod yn dioddef ohono. Roedd 53% o deuluoedd a holwyd yng Nghymru wedi aros dwy flynedd neu fwy am ddiagnosis, ac roedd 68% yn teimlo nad oedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wybodaeth sylfaenol am y cyflwr hyd yn oed, er bod FASD yn fwy cyffredin yn y boblogaeth yn gyffredinol nag awtistiaeth.

Dywedodd un fam sy’n mabwysiadu, Joanne, o Dde Cymru: “Dywedwyd wrthym y gallai fod gan ein mab FASD pan ddaeth atom yn bedair oed, ond dywedwyd wrthym na fyddem byth yn cael diagnosis am nad oedd ganddo’r nodweddion wyneb cysylltiedig. Buan iawn y daeth yn dreisgar ac yn ymosodol. Byddai’n flin iawn am ddwy awr bob nos pan roedden yn ei roi i’w wely. Byddai’n taflu pethau, taro, cicio, crafu. Rydw i wedi cael tri llygad du ac mae gen i graith ar fy ngên yn sgil cael fy nharo â channwyll. Gwelsom feddygon teulu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant Glasoed (CAMHS), tîm niwro-ddatblygiadol a seiciatrydd plant cyn i feddyg ddiagnosio ein mab â FASD o’r diwedd. Cawsom ein rhyddhau yr un diwrnod heb gynnig unrhyw gefnogaeth. ”

Profodd tua thri chwarter y plant mabwysiedig drais, camdriniaeth neu esgeulustod wrth fyw gyda’u teuluoedd biolegol, yn aml ag effeithiau gydol oes ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a’u gallu i ddysgu. Er gwaethaf yr heriau sylweddol, mae’r adroddiad yn dangos bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn gydnerth – byddai 75% yn annog eraill i ystyried mabwysiadu.

Ond mae methiannau mewn polisi ac ymarferiad a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn golygu bod problemau yn aml yn adeiladu i argyfwng. Mae bron i hanner (48%) y teuluoedd â phlant hŷn yn nodi heriau difrifol, megis cael eu tynnu i mewn i ymddygiad camfanteisiol troseddol, gan gynnwys camfanteisio rhywiol ar blant a gweithgareddau llinellau sirol. Mae mwyafrif llethol (66%) yr ymatebwyr o Gymru sydd â phlant oed ysgol yn rhagweld y byddant yn gadael yr ysgol heb lawer neu ddim cymwysterau oherwydd nad oedd ganddynt y gefnogaeth gywir.

Dywedodd awdur yr adroddiad Becky Brooks: “Mae’n hanfodol yn foesol ac yn economaidd bod teuluoedd sy’n mabwysiadu yn cael y gefnogaeth gywir o’r diwrnod cyntaf. Ac eto, nid oedd gan 68% o’r teuluoedd mabwysiadol newydd a ymatebodd i’r arolwg gynllun cymorth ar waith. Mae’r gost i’r plentyn, y teulu ehangach a’r gymdeithas pan fydd teulu mabwysiadol yn dymchwel, yn annerbyniol.”

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Mae’r Baromedr yn wiriad i’w groesawu gan deuluoedd sy’n mabwysiadu o ran lle’r ydym fel gwasanaeth. Mae’r canfyddiadau’n nodi’n galonogol bod gwelliannau wedi’u gwneud. Maent hefyd yn adlewyrchu lle gwyddom fod mwy o waith i’w wneud, yn benodol mynediad at gymorth mabwysiadu a gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig.

“Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y meysydd hyn dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chefnogaeth cronfa cymorth mabwysiadu o £2.3m gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at adroddiadau yn y dyfodol i weld yr effaith y mae hyn yn ei chael.

“Ar y cyfan, mae yna rai negeseuon cadarnhaol iawn yn yr adroddiad i’w dathlu ac rydym yn falch o weld bod mabwysiadu yng Nghymru mewn lle da o ran ei daith wella. Dyma’r union beth y sefydlwyd NAS i’w gyflawni. “

Mae’r Baromedr Mabwysiadu yn galw ar lywodraethau ym mhob un o bedair gwlad y DU i ddarparu asesiadau therapiwtig manwl ar gyfer pob plentyn cyn iddynt gyrraedd eu teulu newydd, gyda chynlluniau cymorth cyfoes i’w cynnal hyd at oedolion cynnar.

Mae ein gwasanaeth dal ar waith

Mae ein gwasanaeth dal ar waith. Er bod rhaid i ni leihau ymweliadau wyneb yn wyneb, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi dros y ffôn, e-bost neu Microsoft Teams. Mae’r swyddfa ar gau ar hyn o bryd, ond mae croeso i chi gysylltu â’n staff o hyd drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi

Eich barn am gymorth mabwysiadu

Mae Sefydliad Gofal Cyhoeddus Prifysgol Brookes Rhydychen wedi’i benodi’n ddiweddar i werthuso effaith y Fframwaith Cymorth Mabwysiadu ledled Cymru. Rhan allweddol o’r gwerthusiad yw gofyn barn yr holl rieni mabwysiadol am hygyrchedd ac ansawdd cymorth mabwysiadu, gan gynnwys a yw wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac i ba raddau

Bydd y sefydliad yn gofyn am eich barn drwy arolwg (i’w lansio ym mis Hydref eleni) ac, os oes gennych ddiddordeb, drwy gyfweliad dilynol. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y gwerthusiad a dolen atoch yn yr wythnosau nesaf.

Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dathlu mis Balchder

Mae mis Mehefin yn fis Balchder LGBT+, ac i ddathlu rydym yn rhannu hanes mabwysiadu un o’n parau o’r un rhyw, Tom a Lee, a fabwysiadodd eu bachgen bach a oedd yn 1 oed.

Yma yn Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, nid oes unrhyw rwystrau pan ddaw’n fater o groesawu’r gymuned LGBT+ i gael eu hasesu fel mabwysiadwyr.

Rydym wedi cymeradwyo nifer o deuluoedd newydd o’r gymuned LGBT+ dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a dyma beth oedd gan Tom a Lee i’w ddweud am eu taith fabwysiadu.

three pairs of legs

Fel pâr o’r un rhyw a oedd bob amser eisiau cael ein teulu ein hunain, mabwysiadu oedd ein dewis cyntaf bob amser. Gyda’n gilydd roedd gennym ddealltwriaeth gadarn o anghenion plant drwy weithio gyda phlant sy’n derbyn gofal a chan ein bod yn dod o deuluoedd mawr. Roeddem yn gwybod y gallem ddiwallu anghenion plentyn wedi’i fabwysiadu a chynnig cartref cariadus, sefydlog am byth. O’r dechrau, cawsom ein croesawu â breichiau agored gan dîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. O’r alwad ffôn gychwynnol roeddem yn teimlo eu bod yn gwrando arnom a bod eu dull gweithredu yn llawer mwy manwl na’r asiantaethau eraill yr oeddem wedi mynd atynt. Roeddem ni am i’r broses fod yn drylwyr ac i bopeth gael ei wneud yn iawn. Wrth gwrs, roeddem am sicrhau ein bod ni a’n plentyn yn addas i’n gilydd.

Fel pob pâr sy’n ystyried mabwysiadu, ymchwil oedd ein cam cyntaf i’r byd mabwysiadu hwn, sy’n ymddangos yn frawychus. Mae llyfrau, podlediadau a blogiau gwych ar gael. Ceisiwch gysylltu â mabwysiadwyr eraill a gwnewch yn siŵr eich bod yn dechrau’r broses â meddwl agored. Byddwn i gyd yn dechrau’r broses gyda’n camsyniadau ein hunain, fodd bynnag, cadw meddwl agored a bod yn fyfyriol yw ein prif gyngor. Gwnewch amser i wrando ac ystyried gwahanol safbwyntiau. Efallai eich bod wedi clywed bod y broses asesu yn frawychus ac y bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn syllu’n ddwfn i’ch enaid, ond nid yw hyn yn hollol wir. Byddwch yn onest ac yn fyfyriol ac, yn rhyfedd, fe fyddwch yn wir yn mwynhau rhai elfennau. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn dod allan y pen arall yn adnabod eich hun a’ch partner yn well. Mae’n wir fel therapi am ddim!

Mae’r broses yn sicr yn mynd yn emosiynol ac mae adeiladu rhwydwaith cefnogi a chael teulu cefnogol yn bwysig pan fydd hyn yn digwydd. Roedd aelodau o’n teulu yn mynychu’r cwrs hyfforddi teuluol ac yn cael llawer o wybodaeth a chymorth. Yn ogystal, byddwch yn cwrdd â theuluoedd anhygoel drwy fabwysiadu a fydd yn aros yn ffrindiau gwych am oes. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cwrdd â’r bobl hyn ar eich cwrs paratoi. Cofiwn y rhyddhad, fel pâr o’r un rhyw, ar ôl gweld pâr arall o’r un rhyw ar ein hyfforddiant. Mae rhywbeth cysurlon am beidio â bod yr unig rai yn sicr.

Ar ôl yr hyfforddiant, symudwyd ymlaen gyda’r asesiadau, y paneli a’r paru. Bydd eich taith yn bersonol iawn i chi ac mae pob siwrnai fabwysiadu yn wahanol. Dylech ymddiried yn eich gweithiwr cymdeithasol a sicrhau eich bod yn ymdrin â phob penderfyniad gyda’ch gilydd fel pâr. Bydd yn gyfnod anodd a bydd yn daith emosiynol. Fodd bynnag, ni waeth beth fydd y rhwystrau, bydd y cyfan yn werth chweil pan glywch sŵn traed bach yn eich tŷ am y tro cyntaf, neu’r tro cyntaf y byddwch yn agor y drws ac yn sylweddoli bod esgidiau person bach wrth ymyl eich rhai chi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu a’ch bod am ddysgu mwy, ewch i’n gwefan www.mabwysiaducgcymru.org.uk neu cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost, 0300 30 32 505 ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk

Rydym hefyd ar Facebook @adoptmwwales a Twitter @adoptmw_wales

Gwneud rhywbeth positif yn y cyfnod heriol hwn

Mae ein Gweithwyr Cymorth Mabwysiadu wedi bod yn gweithio’n galed yn creu adnoddau newydd i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gan fod ysgolion ar gau a theuluoedd yn aros gartref, mae’n bwysig bod gennych adnoddau i’ch cefnogi.

Mae’r tîm wedi creu templed capsiwl amser, er mwyn ysgogi pobl i wneud rhywbeth positif yn y sefyllfa sydd ohoni. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol ac unigryw i deuluoedd ar hyn o bryd, ac felly, roeddem yn meddwl y byddai creu’r capsiwl amser hwn yn gyfle ichi edrych yn ôl ar rai o’r atgofion, y meddyliau a’r teimladau hapus sydd wedi digwydd yn ystod yr amseroedd hyn, a bydd hefyd yn gyfle i edrych yn ôl ar rai o’r eiliadau arbennig a hwyliog rydych chi wedi’u rhannu.

Mae creu capsiwl amser yn weithgaredd gwych ar gyfer y teulu gan fod modd i bawb gymryd rhan ynddo. Dyma weithgaredd a all dynnu eich meddwl oddi ar eich pryderon bob dydd a gall eich tywys i le ac amser arall. Bydd y capsiwl amser yn ein hannog i feddwl am y gorffennol a’n dyfodol pan fydd y cyfnod cythryblus hwn ar ben ????.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r gweithgaredd hwn! Mae croeso ichi ddefnyddio’r gweithgaredd fel y dymunwch.

Lawrlwythwch y Capsiwl Amser

Os hoffech gael mynediad i Gymorth Mabwysiadu, cysylltwch â ni.

email ebost ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk  Phone Ffon 0300 30 32 505