Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dathlu mis Balchder

Mae mis Mehefin yn fis Balchder LGBT+, ac i ddathlu rydym yn rhannu hanes mabwysiadu un o’n parau o’r un rhyw, Tom a Lee, a fabwysiadodd eu bachgen bach a oedd yn 1 oed.

Yma yn Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, nid oes unrhyw rwystrau pan ddaw’n fater o groesawu’r gymuned LGBT+ i gael eu hasesu fel mabwysiadwyr.

Rydym wedi cymeradwyo nifer o deuluoedd newydd o’r gymuned LGBT+ dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a dyma beth oedd gan Tom a Lee i’w ddweud am eu taith fabwysiadu.

three pairs of legs

Fel pâr o’r un rhyw a oedd bob amser eisiau cael ein teulu ein hunain, mabwysiadu oedd ein dewis cyntaf bob amser. Gyda’n gilydd roedd gennym ddealltwriaeth gadarn o anghenion plant drwy weithio gyda phlant sy’n derbyn gofal a chan ein bod yn dod o deuluoedd mawr. Roeddem yn gwybod y gallem ddiwallu anghenion plentyn wedi’i fabwysiadu a chynnig cartref cariadus, sefydlog am byth. O’r dechrau, cawsom ein croesawu â breichiau agored gan dîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. O’r alwad ffôn gychwynnol roeddem yn teimlo eu bod yn gwrando arnom a bod eu dull gweithredu yn llawer mwy manwl na’r asiantaethau eraill yr oeddem wedi mynd atynt. Roeddem ni am i’r broses fod yn drylwyr ac i bopeth gael ei wneud yn iawn. Wrth gwrs, roeddem am sicrhau ein bod ni a’n plentyn yn addas i’n gilydd.

Fel pob pâr sy’n ystyried mabwysiadu, ymchwil oedd ein cam cyntaf i’r byd mabwysiadu hwn, sy’n ymddangos yn frawychus. Mae llyfrau, podlediadau a blogiau gwych ar gael. Ceisiwch gysylltu â mabwysiadwyr eraill a gwnewch yn siŵr eich bod yn dechrau’r broses â meddwl agored. Byddwn i gyd yn dechrau’r broses gyda’n camsyniadau ein hunain, fodd bynnag, cadw meddwl agored a bod yn fyfyriol yw ein prif gyngor. Gwnewch amser i wrando ac ystyried gwahanol safbwyntiau. Efallai eich bod wedi clywed bod y broses asesu yn frawychus ac y bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn syllu’n ddwfn i’ch enaid, ond nid yw hyn yn hollol wir. Byddwch yn onest ac yn fyfyriol ac, yn rhyfedd, fe fyddwch yn wir yn mwynhau rhai elfennau. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn dod allan y pen arall yn adnabod eich hun a’ch partner yn well. Mae’n wir fel therapi am ddim!

Mae’r broses yn sicr yn mynd yn emosiynol ac mae adeiladu rhwydwaith cefnogi a chael teulu cefnogol yn bwysig pan fydd hyn yn digwydd. Roedd aelodau o’n teulu yn mynychu’r cwrs hyfforddi teuluol ac yn cael llawer o wybodaeth a chymorth. Yn ogystal, byddwch yn cwrdd â theuluoedd anhygoel drwy fabwysiadu a fydd yn aros yn ffrindiau gwych am oes. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cwrdd â’r bobl hyn ar eich cwrs paratoi. Cofiwn y rhyddhad, fel pâr o’r un rhyw, ar ôl gweld pâr arall o’r un rhyw ar ein hyfforddiant. Mae rhywbeth cysurlon am beidio â bod yr unig rai yn sicr.

Ar ôl yr hyfforddiant, symudwyd ymlaen gyda’r asesiadau, y paneli a’r paru. Bydd eich taith yn bersonol iawn i chi ac mae pob siwrnai fabwysiadu yn wahanol. Dylech ymddiried yn eich gweithiwr cymdeithasol a sicrhau eich bod yn ymdrin â phob penderfyniad gyda’ch gilydd fel pâr. Bydd yn gyfnod anodd a bydd yn daith emosiynol. Fodd bynnag, ni waeth beth fydd y rhwystrau, bydd y cyfan yn werth chweil pan glywch sŵn traed bach yn eich tŷ am y tro cyntaf, neu’r tro cyntaf y byddwch yn agor y drws ac yn sylweddoli bod esgidiau person bach wrth ymyl eich rhai chi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu a’ch bod am ddysgu mwy, ewch i’n gwefan www.mabwysiaducgcymru.org.uk neu cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost, 0300 30 32 505 ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk

Rydym hefyd ar Facebook @adoptmwwales a Twitter @adoptmw_wales