Fel rhan o’r Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol, buom yn siarad â Rebecca sy’n oedolyn a fabwysiadwyd. Mae Rebecca’n myfyrio ar hanes ei bywyd, yn rhannu ei theimladau am fabwysiadu, ac yn rhoi ei barn ar rai o’r pethau y mae angen i ddarpar fabwysiadwyr eu gwybod. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:
Faint oedd eich oedran pan gawsoch eich mabwysiadu?
Cefais fy mabwysiadu gan fy rhieni fi o adeg fy ngeni. Roeddent yn gweithio ym Malaysia, ac wedi mynegi diddordeb mewn mabwysiadu am eu bod yn meddwl na allent gael plant. Roedd fy mam enedigol wedi dweud wrth yr ysbyty ei bod yn idlio ei hawliau amdanaf ar adeg fy ngenedigaeth a gadawodd yr ysbyty yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth i mi. Felly cefais fy lleoli gyda fy rhieni pan oeddwn yn 2 ddiwrnod oed.
Pryd wnaethoch chi ddarganfod eich bod wedi cael eich mabwysiadu, ac a oedd eich rhieni’n trafod mabwysiadu yn agored ac yn rhannu gwybodaeth gyda chi?
Rwy’n Tsieinïaidd Malaysiaidd ac mae fy rhieni’n dod o Gymru, felly rwyf bob amser wedi gwybod fy mod wedi cael fy mabwysiadu. Roedd yn rhywbeth yr oeddem bob amser yn ei drafod, ac ni chafodd ei guddio oddi wrthyf. Rwy’n gwybod nad oedd ganddyn nhw unrhyw ddewis ond dweud wrthyf gan nad oeddwn yn amlwg yn edrych fel eu plentyn biolegol. Ond rwy’n credu bod gwybod bob amser yn beth cadarnhaol. Roedd yn golygu nad oedd yn sioc, cefais fy magu gan wybod bod fy rhieni wedi fy newis i fod yn blentyn iddyn nhw ac oherwydd bod fy rhieni bob amser yn rhannu cymaint o wybodaeth ag y gallent, doeddwn i byth yn teimlo ei fod yn bwnc tabŵ. Dysgais fod fy nhad biolegol wedi marw mewn damwain beic modur, ond nid oedd llawer o wybodaeth am fy mam enedigol. Rwy’n gwybod yr oedd hi’n 16 oed yn rhoi genedigaeth i mi, a hoffwn feddwl bod ei hoedran wedi arwain at ei phenderfyniad na allai ofalu amdanaf.
Fel plentyn, sut deimlad oedd cael dy fabwysiadu?
Gan nad oeddwn yn edrych fel fy rhieni mabwysiadol, roedd hyn yn amlwg yn arwydd fy mod yn wahanol. Roedd hyn hyd yn oed yn fwy amlwg pan gafodd fy chwaer iau, sef eu plentyn biolegol, ei geni ddwy flynedd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, gwnaeth fy rhieni fy nhrin i fel eu merch gyntaf, ac yn gwmws yr un peth â’m chwaer o ran cariad a rhoi stŵr!
Yn naturiol ac efallai hyd yn oed mwy teimladwy i mi oherwydd fy ethnigrwydd, fe es i drwy gyfnod o feddwl tybed a oeddwn yn edrych fel fy mam neu dad geni, a oedd gennyf unrhyw frodyr a chwiorydd neu a oeddwn yn rhagori ar rywbeth oherwydd fy mam neu fy nhad. Ond, nid oedd meddwl am y pethau hyn yn golygu fy mod yn caru fy rhieni mabwysiadol yn llai neu’n wir eu bod yn llai pwysig i mi. Roeddwn i’n cydnabod wrth i mi dyfu i fyny ac efallai hyd yn oed yn fwy fel oedolyn mai eu cariad a’u hymrwymiad nhw sydd wedi creu’r oedolyn yr wyf i heddiw, sydd wedi rhoi’r cyfle i mi lunio’r egwyddorion sy’n bwysig i mi ac sydd wedi rhoi’r sylfaen a’r ysgogiad i mi gyflawni’r hyn rwyf wedi’i gyflawni.
A oedd eich profiad o fabwysiadu’n gadarnhaol?
Oedd, yn bendant. Rwy’n gwybod efallai y byddai’n swnio’n rhyfedd ond mae’r ffaith fy mod wedi cael fy mabwysiadu yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono. Rhoddodd fy rhieni sefydlogrwydd i mi, a pha resymau bynnag oedd gan fy mam enedigol dros fy rhoi i gael fy mabwysiadu, rwy’n gwybod bod hyn wedi rhoi cyfleoedd imi na fyddwn i wedi’u cael pe byddwn wedi aros gyda hi.
Fodd bynnag, rwy’n sylweddoli fy mod wedi cael profiad cadarnhaol iawn ac nid yw hynny’n wir am bawb. Rwyf wedi cwrdd â phlant mabwysiedig eraill ac nid yw eu straeon wedi bod mor gadarnhaol â fy stori i ac rwy’n adnabod rhieni mabwysiadol sydd wedi wynebu cyfnodau anodd gyda’u plentyn mabwysiedig ond i fod yn onest rwy’n credu bod rhianta yn swydd anodd p’un a ydych yn rhiant i blentyn mabwysiedig neu fiolegol. Felly, yn y pen draw, y cyfan y gallwch ei wneud fel rhiant yw darparu amgylchedd cadarnhaol, cariadus ac iach i’ch plentyn gyflawni ei botensial a bod y person maent yn dymuno ei fod.
Dyna beth gwnaeth fy rhieni i mi ac roedd fy mhlentyndod yn llawn cwympo mas ac ymddwyn fel rebel (ar fy rhan i) ond llawer iawn o chwerthin a llawer o gariad hefyd ac i mi mae’r anawsterau gwnaethom eu hwynebu wedi cyfrannu at fy mhrofiad cadarnhaol cymaint ag y gwnaeth yr holl chwerthin a’r amseroedd da. Oherwydd y broses o weithio drwy’r cyfnod anodd sydd weithiau’n dangos i ni fel plant, er ein bod yn anodd ac yn flin, eich bod yn dal i’n caru ni.
Beth yw eich cyflawniadau gorau?
Rwy’n falch o’r hyn yr wyf wedi’i wneud o ran fy ngyrfa, a’m bod wedi cael y cyfle i fynd i’r brifysgol, ond i mi fy nghyflawniad gorau yw fy nheulu.
Rhoddodd fy mam a’m tad gyfleoedd anhygoel i ni tra’r oeddem yn tyfu i fyny, teithiodd fy chwaer a minnau ledled y byd gyda nhw a chawsom brofiadau gwych a rhai gwirioneddol ofidus megis cael ein dal yn rhyfel Irac/Iran a Rhyfel y Gwlff. Gan fod fy ddau riant yn dod o Landeilo, roedd yn golygu ein bod wedi ymgartrefu yng Nghymru pan oeddwn yn fy arddegau cynnar. Yn anffodus, bu farw fy mam pan oeddwn yn fy 30au ond mae gan fy nhad, sydd bron yn 80 oed, berthynas agos iawn gyda fy mab ac mae’r ddau yn dwlu ar bêl-droed. Mae fy ngŵr, sy’n Gymro, yn fwy o gefnogwr rygbi ond mae gweld y tri ohonyn nhw’n mynd yn y car ar y penwythnos i wylio fy mab yn chwarae pêl-droed wir yn rhoi’r teimlad gorau i mi. Pan fydd fy chwaer, ei gŵr, fy nith a’m dau nai yr wyf yn dotio arnynt yn llwyr, ei Labrador du a fy nhad yn dod draw ar y penwythnos, mae’r tŷ yn boncyrs ond pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd, ac rwy’n gwylio fy nheulu’n chwerthin o amgylch ein bwrdd, er ei bod yn swnio’n ystrydebol, rwy’n gwybod mai dyma fy nghyflawniad gorau.
Ydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw frodyr a chwiorydd/teulu biolegol?
Gan fy mod wedi cael fy mabwysiadu dramor ac yn y 70au, ni fyddai mor hawdd i mi gysylltu â’m teulu biolegol ag efallai y byddai ar gyfer plant sydd wedi’u mabwysiadu yn fwy diweddar. Fodd bynnag, dwi erioed wedi teimlo’r angen i fynd i chwilio am fy nheulu biolegol. I mi, nid oedd yn rhywbeth yr wyf wedi cael awydd cryf i’w wneud. Roeddwn i’n meddwl efallai y byddai hyn yn newid pan oedd gen i fy mhlentyn fy hun, ond nawr mae gen i rywun yn y byd sy’n edrych fel fi, rwy’n teimlo hyd yn oed yn llai tebygol o chwilio am fy nheulu biolegol.
Rwy’n meddwl weithiau tybed a yw fy mam yn meddwl amdanaf ar fy mhen-blwydd, a oes gennyf frodyr neu chwiorydd ac a ydw i’n edrych fel un o fy rhieni neu a oes gennyf nodweddion un o fy rhieni ond rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y bydd pob plentyn sydd wedi’i fabwysiadu yn ei ystyried yn naturiol ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn yr un modd ag y mae plant biolegol yn aml yn meddwl tybed a ydyn nhw’n edrych yn debycach i’w tad neu eu mam neu a oes ganddyn nhw unrhyw un o’u nodweddion. Fodd bynnag, ar ôl trafod hyn gyda rhai o’m ffrindiau eraill sydd wedi’u mabwysiadu ac sydd wedi chwilio am eu teulu biolegol, mae’r angen i ddod o hyd i’n teuluoedd biolegol yn fater unigol ac nid o reidrwydd yn faromedr o’r ffordd y maent yn teimlo am eu teulu mabwysiadol. Rwy’n gwybod y byddai fy nheulu mabwysiadol wedi bod yn gwbl gefnogol pe bawn i eisiau edrych ar hyn ymhellach ac mae’r sicrwydd o wybod y bydden nhw’n fy nghefnogi i ac y byddwn i’n gallu gwneud hyn gyda’u sêl bendith nhw yn gwneud i mi eu caru nhw hyd yn oed yn fwy.
Fel person mabwysiedig, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddarpar fabwysiadwyr? Beth yn eich barn chi y byddai angen iddynt ei wybod, i gefnogi plentyn mabwysiedig?
Mae pob plentyn yn wahanol. Fodd bynnag, rwy’n teimlo ei bod yn bwysig bod yn agored ac yn onest a rhannu stori bywyd eu plentyn gyda nhw. Dwi ddim yn credu y dylai mabwysiadwyr boeni am hanes eu plant, mae’n rhan o bwy ydyn nhw, a dylen nhw rannu’r wybodaeth gyda nhw (mewn modd sy’n briodol i’w hoedran), pan fo’r amser yn iawn.
Yn naturiol roeddwn yn chwilfrydig am fy nheulu biolegol, ac oherwydd bod fy rhieni’n rhannu’r hyn roedden nhw’n ei wybod, sef fawr ddim, mae’n rhywbeth yr oeddwn i’n ei wybod wrth dyfu i fyny ac nid oedd yn sioc nac yn gyfrinach fawr. Roedd natur agored fy rhieni wedi fy helpu i ddeall fy hanes ac wedi fy ngalluogi i dderbyn pam y cefais fy mabwysiadu. Fel plentyn, doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor ofidus oedd y profiad iddyn nhw tan yn ddiweddar, pan eglurodd fy nhad pa mor ofnus oedd y ddau ohonyn nhw oherwydd hyd nes y cafodd y papurau eu llofnodi a’r gorchymyn mabwysiadu ei wneud, gallai fy mam fod wedi gofyn am gael fi nôl.
Bydd siarad gyda’ch plentyn am y ffaith ei fod wedi’i fabwysiadu a dangos iddo eich bod yn gyfforddus yn ateb cwestiynau am ei deulu biolegol neu yn wir unrhyw ymholiadau eraill sydd gan y plentyn, yn golygu ei fod yn teimlo y gall fod yn agored gyda chi. Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd i’r plentyn nad yw’n bwnc nad ydych am ei drafod gyda nhw. Hyd yn oed os yw’n anodd i chi. Roeddwn i’n teimlo y gallwn i drafod y ffaith fy mod wedi cael fy mabwysiadu gyda fy mam a fy nhad ac roeddwn i eisiau gwneud hynny gan mai nhw oedd fy man diogel ac roedd yn gosod sylfeini da i ni allu datrys llawer o faterion cymhleth a heriol nad oedd yn ymwneud o gwbl â mabwysiadu.
Os yw stori Rebecca wedi eich ysbrydoli chi i ystyried mabwysiadu fel ffordd o ddechrau neu ehangu eich teulu, yna cysylltwch â ni. https://mabwysiaducgcymru.org.uk/contact-us/
Mae arnom angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu’r un diwylliant, iaith a chrefydd, ac mae llawer o bobl bellach yn penderfynu dechrau teulu yn ddiweddarach mewn bywyd.
Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw beth y gallwch chi ei gynnig i fywyd plentyn. Yn y pen draw, eich parodrwydd chi i ymrwymo i roi cartref cariadus a pharhaol i blentyn fydd yn gwneud y gwahaniaeth.
Mae llawer o resymau pam y mae pobl yn meddwl nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu, ond dyma rai o’r mythau sy’n ymwneud â mabwysiadu. https://mabwysiaducgcymru.org.uk/adoption-myths/