Mae gwyliau haf yr ysgol wedi cyrraedd, ac fel mabwysiadwyr, mae arferion ein plant yn cael eu chwalu.

Buom yn siarad â Rhys, mabwysiadwr o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, sydd wedi rhannu ei brofiad o rianta therapiwtig, a sut mae’n paratoi ei fab ar gyfer colli trefn arferol yn ystod gwyliau’r ysgol.

A allwch chi gyflwyno eich hun a dweud wrthym beth wnaeth eich ysbrydoli i fabwysiadu?

Fy enw i yw Rhys ac fe wnes i fabwysiadu gyda fy ngŵr. Gan ein bod mewn perthynas o’r un rhyw, roedd yn well gennym fabwysiadu er mwyn cael teulu ein hunain. Roeddwn i wastad yn poeni am gael plant mewn perthynas o’r un rhyw, y byddent yn cael eu poeni neu eu bwlio, ond ar ôl priodi, roeddwn i’n gallu gweld bod llawer o bobl yn fy nerbyn i a fy ngŵr ac roeddem yn gwybod y byddem yn cael llawer o gefnogaeth. Roeddem yn gallu gweld bod pethau’n wahanol iawn i fel yr oeddent arfer bod.

A allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich taith fabwysiadu?

Fe wnaethom gysylltu â gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ym mis Ionawr 2017 ac erbyn mis Mawrth roeddem ar y cwrs ‘Paratoi i Fabwysiadu’, cyn i ni gwrdd â’n gweithiwr cymdeithasol anhygoel a oedd wedi cynnal ein hasesiad. Roedd yr asesiad yn ymwthiol ac yn drylwyr iawn, ond rhoddodd y broses gyfle i ni fyfyrio ar ein magwraeth, ein perthynas a sut y byddem yn rhianta ein plentyn. Ar ôl y Panel, cawsom ein paru ar unwaith a chawsom gyfle i gwrdd â’n mab anhygoel ym mis Mai 2018.

Beth yw’r dull rhianta PACE a sut ydych chi’n defnyddio’r ffordd honno o rianta?

Dysgon ni lawer am rianta mewn ffordd therapiwtig yn ystod y broses, drwy drafodaethau gyda’n Gweithiwr Cymdeithasol a thrwy fynd i hyfforddiant amrywiol. Un o nodweddion dull rhianta PACE yw Chwaraegarwch, sef y nodwedd hawsaf i ni ei gweithredu. Er enghraifft, un peth rydym wedi’i ddysgu yw, yn hytrach na dweud “mae’n amser gwely, lan â ti”, a fyddai’n arwain at bwdi a phwl o dymer drwg, rydym yn ei droi’n gêm, a byddaf yn dweud “Pan fyddaf yn cwympo i gysgu, byddaf yn dihuno a byddi di’n cwato lan lloft”, mae’n gweithio bob tro.

Cymerodd mwy o ymdrech i weithredu elfennau eraill PACE sef Derbyn, Chwilfrydedd ac Empathi. Roedd ein mab yn 4 oed pan ddaeth yn rhan o’n teulu ac yn deall mwy am yr hyn oedd yn digwydd yn ei fywyd, felly roedd yn hanfodol bwysig inni ddangos iddo ein bod yn derbyn ei bod yn anodd iddo brosesu pethau, fel symud o’i ofalwyr maeth, lle’r oedd yn teimlo’n ddiogel. Gwnaethom ddangos empathi iddo, gan roi sicrwydd iddo mai ni yw ei dadau, a’n dyletswydd ni oedd ei gadw’n ddiogel nawr.

Rydym wedi defnyddio’r elfen chwilfrydedd lawer mewn perthynas â’r ysgol. Os gallwn weld, ar ôl ysgol, ei fod yn ei chael hi’n anodd, a’n bod wedi cael gwybod am rywbeth a oedd wedi digwydd y diwrnod hwnnw, byddem yn dechrau meddwl yn uchel, nid ydym o reidrwydd yn cyfeirio’r cwestiynau at ein mab, ond byddem yn cael trafodaeth rhyngom ni, fel y gallai glywed.

Pam y byddech chi’n argymell PACE?

Rwyf wedi syrthio i’r fagl ambell dro o ofyn “pam wyt ti’n gwneud hynny?”, sy’n gallu gwneud iddo deimlo cywilydd, pan mae’n amlwg ei fod yn cael trafferth gyda theimladau mawr, ac yn ei chael hi’n anodd prosesu ei drawma yn y gorffennol. Mae PACE wedi ein helpu i rianta mewn modd mwy cadarnhaol.

Drwy ddilyn dull rhianta PACE, gallwn ailgyfeirio’n bwyllog, drwy gyflwyno chwaraegarwch, ond rydym bob amser yn ceisio dod yn ôl i’r teimladau drwy ei helpu i’w rheoli a dangos ein bod yn derbyn ei fod yn ei chael yn anodd a dangos empathi.

Rydym wedi clywed eich bod yn unigolyn trefnus iawn! Beth ydych chi’n ei wneud i aros yn drefnus a pham mae’n bwysig i chi?

Un wers fawr yr oeddem wedi’i ddysgu yn nyddiau cynnar y broses fabwysiadu oedd pwysigrwydd strwythur a threfn. Pan symudodd ein mab i fyw gyda ni am y tro cyntaf, fe wnaethom gadw at yr un drefn ag yr oedd y teulu maeth yn ei defnyddio, gan y byddai unrhyw newidiadau mawr wedi gwneud iddo deimlo hyd yn oed yn fwy ansefydlog.

Fe wnaethom gyflwyno siartiau trefn y dydd ar y noson gyntaf, i’w helpu i weld beth oedd ei drefn foreol ac amser gwely. Roedd ein mab wrth ei fodd â’r cymhorthion gweledol ac roeddent yn ei helpu ef i ddilyn y drefn strwythuredig.

Rydym wedi defnyddio siartiau amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys un a oedd yn dangos pryd y byddai yn yr ysgol, yn mynd i glwb brecwast/clwb ar ôl ysgol a phryd oedd ei wersi Addysg Gorfforol yn digwydd yn yr ysgol, ac ati.

Pan oedd hi’n amser i’m gŵr fynd yn ôl i weithio sifftiau, ac i mi ddechrau rhannu absenoldeb rhiant, roedd ein mab yn ei chael hi’n anodd pan oedd yn deffro neu’n mynd i’r gwely ac nad oedd fy ngŵr yno. Felly, fe wnaethom gyflwyno siart a oedd yn dangos pryd y byddai gartref ar gyfer y drefn foreol ac amser gwely, a oedd yn tawelu pryder ein mab ynghylch y sefyllfa.

Erbyn hyn, bob gwyliau haf, mae ein mab yn cyhoeddi “mae’n hanner tymor, mae angen siart newydd i ddangos beth ni’n mynd i’w wneud yn ystod y gwyliau!”

Pa awgrymiadau sydd gennych i fabwysiadwyr sy’n mynd ar wyliau fel teulu am y tro cyntaf?

Ar gyfer gwyliau’r ysgol, rydym bob amser yn creu siart sy’n cyfrif nifer y diwrnodau nes i’r ysgol ddechrau yn ôl, a byddai’n rhoi sticer ar bob diwrnod. Pan oeddem yn mynd dramor am y tro cyntaf, fe wnaethom ddefnyddio’r un siart i roi 2 sticer awyren ar y diwrnod yr oeddem yn hedfan i fynd ar wyliau a’r diwrnod yr oeddem yn dychwelyd adref.

Buom yn siarad llawer am fynd ar awyren ac yn dangos fideos YouTube iddo o awyrennau’n esgyn ac yn glanio (cyngor da – gwyliwch y fideos eich hunain cyn dangos i’ch plentyn/plant, gan nad yw rhai yn addas). Wrth drafod mynd ar wyliau, rydym bob amser yn rhoi sicrwydd iddo ein bod yn dod yn ôl. Nid ydym erioed wedi bod ar wyliau o’r blaen lle’r prif bwynt dan sylw oedd dychwelyd adref, ond roedd yn bwysig iddo wybod mai hwn yw ein cartref, a byddem yn dychwelyd ato.

Ac yn olaf, beth mae mabwysiadu wedi’i olygu i chi?

Mae mabwysiadu wedi newid ein bywydau. Mae ein bachgen bach wedi llenwi ein tŷ gyda chymaint o deganau a llawenydd. Peidiwch â’m camddeall, rydym ni fel pob teulu yn cael anawsterau, ond mae llawer mwy o bethau cadarnhaol na phethau negyddol. Rwy’n agos iawn at fy nheulu, ac mae gweld y ffordd y mae wedi ffitio i mewn gyda phawb wedi bod yn anhygoel. Rhan bwysig iawn o fywyd ein mab oedd yr amser a dreuliodd gyda’i ofalwyr maeth, ac rydym yn eu gweld fel rhan o’n teulu estynedig.

Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.

Rydym hefyd ar FacebookInstagram a Twitter.