Pam ei bod yn bwysig gallu mabwysiadu yn Gymraeg?

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, buom yn siarad â Louise ac Eurion am eu taith fabwysiadu, beth mae’r Gymraeg yn ei olygu iddyn nhw a pham ei bod hi’n bwysig gallu mabwysiadu yn y Gymraeg.

Allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich teulu a pham y gwnaethoch fabwysiadu?

Ar ôl priodi, fe wnaethon ni geisio cael plant yn naturiol. Ar ôl ceisio am gwpl o flynyddoedd heb unrhyw lwc, fe wnaethon ni benderfynu rhoi cynnig ar IVF. Ar ein trydedd rownd o IVF buom yn llwyddiannus a chawsom ein merch. Roedd y ddau ohonom wedi profi perthynas rhwng brodyr a chwiorydd yn tyfu lan a wastad wedi dychmygu cael mwy o blant, ond nid oeddem am fynd trwy IVF eto, felly gwnaethom ymchwilio i fenthyg croth a mabwysiadu fel ffyrdd o dyfu ein teulu.

Ni wnaethom unrhyw beth am y mater am ychydig flynyddoedd er mwyn canolbwyntio ar ein merch, ond pan oedd hi tua phedair oed fe wnaethon ni benderfynu ei bod hi’n bryd dechrau ymchwilio i fabwysiadu. Yna fe wnaethom gymryd y cam, llenwi’r ffurflenni ac o hynny ymlaen mae wedi bod yn daith a hanner.

Mae’r ddau ohonoch yn siaradwyr Cymraeg, a wnaethoch chi ofyn am wneud y broses fabwysiadu trwy gyfrwng y Gymraeg?

Doedden ni ddim wedi nodi ein bod am wneud y broses drwy’r Gymraeg yn hytrach na Saesneg, ond drwy gyd-ddigwyddiad, cafodd gweithiwr cymdeithasol a oedd yn siarad Cymraeg ei phenodi i ni ac fe ddaeth hi â gweithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant gyda hi oedd hefyd yn siarad Cymraeg. Roedd y cyrsiau a wnaethom i gyd yn Saesneg ond yn ystod unrhyw egwyl roedd digon o gyfle inni siarad Cymraeg.

Roedd yn fuddiol iawn i ni allu cysylltu â’n gweithiwr cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd mae’r ddau ohonom yn teimlo’n fwy hyderus yn siarad Cymraeg ac mae’r sgyrsiau gyda’ch gweithiwr cymdeithasol yn ddwfn ac yn emosiynol iawn.

Gallem fod wedi dewis mynd i banel drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, ond gwnaethom y penderfyniad i wneud hynny’n Saesneg. Trwy gydol yr holl broses roeddem bob amser yn ymwybodol y gallem wneud popeth drwy gyfrwng y Gymraeg, felly ein penderfyniad ni oedd cynnal y broses drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg.

Beth mae’r Gymraeg yn ei olygu i chi?

Cymraeg yw ein treftadaeth a’n cefndir. Cafodd y ddau ohonom ein magu mewn teuluoedd traddodiadol Cymreig lle’r oedd y Gymraeg yn bwysig iawn ac yn awr mae’n bwysig iawn i ni gadw’r iaith honno fel rhan o’n cymdeithas. Rydym am i’n plant allu sgwrsio yn Gymraeg a Saesneg a defnyddio’r Gymraeg ym mywyd bob dydd gan ein bod yn credu ei bod yn cyfoethogi cymeriad.

Roedd eich mab yn ifanc iawn pan wnaethoch chi ei fabwysiadu, sut ydych chi wedi ei gyflwyno i’r Gymraeg?

Roedd yn 8 mis pan ddaeth atom ni ac nid oedd ei deulu maeth yn siarad Cymraeg, ond byddent yn dangos cartwnau Cymraeg iddo. Pan oeddem yn gwybod y byddai’n cael ei leoli gyda ni, rhoesom CD o hwiangerddi Cymraeg iddyn nhw i’w chwarae yn y cefndir fel ei fod yn gyfarwydd â chlywed y Gymraeg yn fwy.

Fe wnaeth ein gweithiwr cymdeithasol ein hannog i barhau fel yr arfer pan ddaeth adref gyda ni, felly fe wnaethon ni barhau i siarad Cymraeg yn unig a’i eiriau cyntaf oedd Mami a Dadi ac erbyn hyn mae’n sgwrsio yn Gymraeg, yn mynd i feithrinfa cyfrwng Cymraeg ac nid yw’n gwybod yn wahanol.

A wnaethoch chi ei Waith Taith Bywyd yn Gymraeg?

Roedd gweithiwr cymdeithasol ein mab yn gallu siarad Cymraeg a oedd yn golygu y gallem sgwrsio â hi yn hawdd a chynigiodd wneud ei Waith Taith Bywyd yn Gymraeg ond fe wnaethom ddewis ei wneud yn Saesneg mewn gwirionedd. Wrth edrych yn ôl nawr, nid ydym yn hollol siŵr pam y gwnaethom y penderfyniad hwnnw ond rydym wedi penderfynu i’w egluro iddo yn Gymraeg ac rydym yn cael sgyrsiau am ei fam fiolegol gydag ef a’n merch yn Gymraeg.

Mae gennym hefyd lyfr yn Gymraeg yr oeddem wedi’i baratoi ar gyfer panel gyda lluniau ac enwau teuluol ar ei gyfer.

Pam mae’n bwysig eich bod chi’n gallu gwneud y broses fabwysiadu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae’n hynod bwysig bod yr opsiwn i’w gwneud yn Gymraeg ar gael. Mae pobl yn sgwrsio’n well yn eu mamiaith ac mae cael y lefel honno o gefnogaeth yn yr iaith rydych chi’n fwyaf cyfforddus ynddi yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

I ni, y peth pwysig oedd cael gweithwyr cymdeithasol a allai siarad Cymraeg oherwydd gall fod yn broses eithaf ymwthiol ac i rai pobl dyma’r tro cyntaf iddyn nhw siarad ag eraill am eu teulu a’u magwraeth felly mae’n bwysig eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr iaith maen nhw’n ei defnyddio ar gyfer hynny.

Roedd hynny’n arbennig o amlwg pan oedd yn rhaid iddynt (y gweithwyr cymdeithasol) siarad â’n teuluoedd sydd i gyd yn siarad Cymraeg ac a oedd ychydig yn amheus ynghylch ein penderfyniad i fabwysiadu. Aeth ein gweithiwr cymdeithasol yr ail filltir ac aeth i dreulio prynhawn gyda nhw, gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus ac ateb eu holl gwestiynau. Ni fyddent wedi bod yn gyffyrddus yn gwneud hynny’n Saesneg, felly roedd yn golygu llawer i ni ei fod yn cael ei wneud yn Gymraeg.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i eraill sy’n ystyried mabwysiadu?

Ein cyngor mwyaf yw, os ydych chi’n ystyried mabwysiadu, ewch i gael y sgwrs honno gyda gweithiwr cymdeithasol gan fod gweithwyr cymdeithasol yn llawer o gymorth wrth esbonio’r broses. Roedd y sgyrsiau a gawsom yn gynnar yn ddefnyddiol iawn ac yn ateb rhai o’n hamheuon cychwynnol. Nid oeddem byth yn teimlo o dan unrhyw bwysau o gwbl a chafodd popeth ei wneud ar ein cyflymder ein hunain.

Rydym yn argymell yn fawr dîm cyfan gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd y tîm yn anhygoel ac yn mynd yr ail filltir i ni. Mae’r broses fabwysiadu yn broses emosiynol a myfyriol iawn ond nid oedd un adeg lle na allem ffonio gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i gael help a chefnogaeth ac mae hynny’n dal i fod yn wir heddiw.

Beth mae mabwysiadu wedi ei olygu i’ch bywyd?

Rhoddodd mabwysiadu ddarn olaf y jig-so i ni, sydd wedi gwneud ein teulu yn gyflawn. Mae wedi caniatáu inni gael y teulu yr oeddem bob amser yn breuddwydio amdano ac mae gweld ein merch a’n mab yn tyfu fel brawd a chwaer wedi gwireddu breuddwyd i ni. Nid oedd yn ymwneud â chael plentyn arall yn unig, roedd yn ymwneud ag adeiladu’r teulu a’r bywyd hwnnw i’n plant a rhoi’r berthynas glós rhwng brawd neu chwaer iddynt.

Mae pobl yn dweud, ‘jiw, mae’n edrych yn union fel chi’ ac mae’n rhaid i ni binsio ein hunain i’n hatgoffa nad ef yw ein mab biolegol. Mae’n teimlo fel ein mab biolegol ac ni allwn ddychmygu bywyd hebddo ac nid oes diwrnod yn mynd heibio lle nad ydym yn edrych ar ein gilydd ac yn pendroni ‘sut beth oedd ein bywyd hebddo?’.

Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.

Rydym hefyd ar Facebook, Instagram ac ar Twitter