Mabwysiadu bachgen hŷn

Sut brofiad yw mabwysiadu bachgen hŷn? Mabwysiadodd Sindhu ei mab pan oedd yn 7 oed. Fe wnaethom siarad â hi am ei phrofiad, ei chyngor gorau i bobl sy’n ystyried mabwysiadu plentyn a’r gefnogaeth sydd ar gael.

A allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich teulu a beth wnaeth eich ysbrydoli i fabwysiadu?

Rydyn ni’n dod o India yn wreiddiol ac roedden ni bob amser yn awyddus i fabwysiadu ond nid yw’n gyffredin yno  oni bai na allwch gael plant yn naturiol. Gan fod gennym ddau blentyn biolegol ac yn byw bywyd prysur o ddydd i ddydd a symud i’r DU, nid oedd yr amser byth yn teimlo’n iawn.

Pan oedd ein merched ychydig yn hŷn, dechreuon nhw ddweud, os oedden ni am fabwysiadu, y dylen ni wneud hynny nawr gan eu bod nhw’n awyddus i gael y cyfle i dreulio amser gyda’u brawd neu eu chwaer newydd. A dyna a wnaethom, fe benderfynon ni fynd amdani.

A allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich taith fabwysiadu?

Fe welon ni hysbyseb gan asiantaeth fabwysiadu leol a phenderfynon ni gofrestru. Fe aethon ni i ddigwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd i ddysgu mwy am y broses yn y DU.

I ddechrau, roedden ni am fabwysiadu babi ond yna dywedodd gweithiwr cymdeithasol wrthym ei bod hi’n llawer anoddach dod o hyd i deuluoedd i fabwysiadu plant hŷn, a gwnaethom sylweddoli nad oedd oedran o bwys i ni mewn gwirionedd – cael plentyn oedd yn bwysig.

Sut brofiad oedd mabwysiadu plentyn hŷn?

A fod yn onest, rwy’n credu y gall mabwysiadu plentyn hŷn fod yn haws weithiau. Rwy’n gwybod bod llawer yn credu ei bod hi’n haws mabwysiadu plentyn llai, ond dwi ddim yn meddwl bod hynny bob amser yn wir. Pan fydd plentyn ychydig yn hŷn, mae ganddo well dealltwriaeth o’r hyn y mae wedi bod drwyddo. Mae’n haws iddo ddeall y sefyllfa y mae ynddi ac mae hefyd yn haws egluro pethau iddo.

I ni, mae cynnal strwythur a threfn wedi bod yn allweddol. Mae cael rheolau y mae’n rhaid i bob aelod o’r teulu eu dilyn yn cyfleu iddo ei fod yn rhan o’r teulu a bod hwn yn lle diogel. Rwy’n credu bod hyn yn haws i blentyn hŷn ei ddeall.

Yn yr un modd ag unrhyw riant, rydyn ni wedi gwneud camgymeriadau, ond rydyn ni bob amser yn dysgu o’r camgymeriadau hynny ac yna’n ceisio gwella. Dydyn ni ddim yn rhieni perffaith ac nid oes disgwyl i rieni mabwysiadol fod ychwaith. Rydyn ni i gyd yn ddynol ac rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau, ond mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn dysgu ohonynt.

Ar hyn o bryd mae mwy o fechgyn yn aros i gael eu mabwysiadu na merched. A allwch chi ddweud wrthym ni sut beth yw mabwysiadu bachgen a pham y gwnaethoch chi ddewis mabwysiadu mab?

Yn India, mae’r sefyllfa i’r gwrthwyneb yn llwyr. Mae pob menyw eisiau mab, felly mae’n anodd iawn mabwysiadu bachgen yn India. Oherwydd bod gennym ddwy ferch eisoes, roedden ni’n  ystyried mabwysiadu merch arall ond ar ôl clywed bod bechgyn yn aros yn hirach i gael eu mabwysiadu yn y DU, penderfynom ni ar unwaith bron y bydden ni’n mabwysiadu bachgen. Ar ddiwedd y dydd, plant ydyn nhw i gyd a doedd rhyw y plentyn ddim yn ein poeni ryw lawer; rhoi cartref cariadus i blentyn oedd ein nod. 

Fe wnaethon ni fabwysiadu bachgen a oedd wedi bod mewn gofal maeth ers bron i flwyddyn. Cawsom wybod bod ganddo rai problemau corfforol; un droed oedd ganddo ac roedd ganddo gyflwr a olygai fod ei fysedd yn fyrrach. Wrth drafod y peth, dywedodd fy ngŵr a minnau wrth ein gilydd, “oes ots mewn gwirionedd?” ac wrth gwrs nid oes ots. Petai un o’n merched  wedi bod mewn damwain ac wedi colli ei throed, oni fydden ni ei heisiau mwyach? Wrth gwrs bydden ni ei heisiau felly doedd hi ddim yn broblem i ni.

Pan ddaeth adref gyda ni gyntaf, roedd yn newid mawr iddo, ond fe ffurfiodd gwlwm gyda ni i gyd yn gyflym. Rwy’n credu bod yr arogleuon a’r bwyd Indiaidd cyfarwydd wedi ei gwneud hi’n haws iddo ymgartrefu. Mae’n fachgen gwych a gwydn, mae mor glyfar ac yn gyfeillgar â phawb. Ef yw ein bachgen bach, ac mae wedi bod yn daith anhygoel.

A oedd angen/a gawsoch unrhyw gymorth ar ôl mabwysiadu?

Pan ddaeth adref gyda ni gyntaf, daeth gweithiwr cymdeithasol a seicolegydd i wneud adroddiadau a gwirio pethau yn ogystal â’n helpu gydag unrhyw faterion. Fe wnaethant ein helpu i sicrhau ei fod yn setlo yn yr ysgol a rhoi cymorth i’n merch ieuengaf i ddygymod â’r ffaith nad hi oedd babi’r tŷ mwyach.

Hyd heddiw, mae gennym eu cyfeiriadau e-bost a’u rhifau ffôn ac os oes angen unrhyw beth arnom, rydym yn gwybod y gallwn gysylltu â nhw. Mae’r cymorth ar gael drwy’r amser.

Er bod gennym blant biolegol, roedd y gefnogaeth honno yn dal yn hanfodol i ni gan fod cynifer o bethau i’w dysgu o hyd, a byddai wedi bod yn anodd heb y gefnogaeth honno.

Beth fyddech chi wedi dymuno ei wybod cyn dechrau’r broses?

Roedden ni’n synnu at ba mor drylwyr oedd y broses ond roeddem yn deall pam hefyd. Mae er budd pawb sy’n rhan o’r broses oherwydd yn y pen draw mae’n rhaid i’r asiantaeth a gweithwyr cymdeithasol sicrhau bod y plentyn yn mynd i le diogel.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd newydd fabwysiadu neu sy’n ystyried mabwysiadu?

Ewch amdani a pheidiwch â rhoi’r ffidl yn y to. Gall fod yn broses flinedig ond mae’n rhoi llawer o foddhad. Mae cariad yn para am byth; mae angen i ni ei rannu. Mae angen ychydig bach o’r cariad hwnnw ar gynifer o blant. Mabwysiadu plentyn yw’r teimlad mwyaf rhyfeddol, a heb os, hwn oedd penderfyniad gorau ein bywydau.

Sut mae mabwysiadu wedi newid eich bywyd / beth mae mabwysiadu wedi’i ychwanegu at eich bywyd?

Nid oes modd cyfleu’r teimlad, mae’n arbennig. Rydyn ni’n teimlo elfen o foddhad a rhyddhad i rannu’r hyn sydd gennym gyda bachgen bach sy’n haeddu’r holl gariad yn y byd. Rydych chi’n gwybod eich bod chi wedi dod â hapusrwydd i berson arall a dyna’r peth mwyaf rhyfeddol.

Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.

Rydym hefyd ar Facebook, Instagram ac ar Twitter