Awgrymiadau Da ar gyfer helpu eich Plentyn Mabwysiedig dros gyfnod y Nadolig

Mae gan bob un ohonom ein hymateb ein hunain i gyfnod yr ŵyl. I lawer ohonom, mae ein mwynhad o’r adeg hon o’r flwyddyn yn ymwneud ag atgofion o’n plentyndod a’r awydd i greu profiad hudolus, llawen i’n plant ein hunain.

Wrth i ni wneud hyn, efallai y byddai’n werth myfyrio ar agweddau ar y Nadolig a allai, i rai plant mabwysiedig, fod yn heriol hefyd.

Rheoli cyffro emosiynol

Mae llawer o blant mabwysiedig yn cael anawsterau o ran hunanreoleiddio, neu reoli emosiynau cryf i fod yn ddigyffro ac yn hamddenol. Os mae eich plentyn wedi colli profiadau allweddol, cydreoleiddiol yn gynnar mewn bywyd, mae’n ddigon posibl y bydd yr hunanreoleiddio hwn yn parhau i fod yn anodd iddo ar adegau. Gall anawsterau rheoli emosiynau cryf fod yn gymaint o her pan fo’r emosiynau’n ymwneud â chyffro â phan fyddant yn gysylltiedig ag ofn neu bryder. O ganlyniad, gall y cyffro yr ydym weithiau’n ei annog dros y Nadolig, arwain at ddagrau. Efallai bod angen dull wedi’i addasu a chymorth ychwanegol ar eich plentyn i reoli amser partïon. Mae’n bosibl bod angen eich help arno i aros yn gyfforddus yn emosiynol ac yn seicolegol ar adegau cyffrous iawn. Gall ymgysylltu â’ch plentyn mewn gweithgareddau tawel, araf, gan ddefnyddio tonau tawel, melodig, cyffwrdd rhythmig a symud ac anadlu’n araf ac yn ddwfn fod yn effeithiol wrth ei helpu i ddod â chyffro emosiynol na all ei reoli i gyflwr y mae’n gallu ymdopi ag ef. Yn achos eich plentyn, mae’n bosibl bod cyffro emosiynol yn annioddefol iddo a’i fod yn teimlo’n anniogel ar y cam penodol hwn o’i ddatblygiad. Efallai ei fod yn dyheu am ecwilibriwm emosiynol, ac efallai eich bod yn teimlo y gall amser parti gael ei oedi.

Cyfleu eich argaeledd

I lawer o blant mabwysiedig, gall newid a phontio ysgogi ymdeimlad o ofn a phryder. Fel arfer, mae’r Nadolig yn cynnwys mwy o ymwelwyr â’n cartrefi, neu fwy o ymweliadau â chartrefi eraill, y gall rhai ohonynt fod yn annisgwyl. Gallai hyd yn oed lleoedd cyfarwydd fod yn llawer prysurach nag arfer. Gall fod yn hawdd i blentyn mabwysiedig deimlo ei fod ar goll, bod neb yn sylwi arno a’i fod yn cael ei anghofio mewn torf. Gall fod yn anodd iddo deimlo’n sicr eich bod yn meddwl amdano. Os ydych yn sgwrsio ag eraill, gall ymddangos bod eich argaeledd iddo wedi’i leihau. Mae’n bosibl y bydd yn gweld hyn fel bygythiad i’w ddiogelwch. Gall cynnal cysylltiad â’ch plentyn drwy gydol profiadau o’r fath leihau unrhyw ansicrwydd. Gallwch gyfleu’r ffaith eich bod yn parhau i feddwl amdano drwy ddulliau cynnil megis cyffwrdd corfforol, gwên aml neu winc a thrwy ei gynnwys yn eich sgyrsiau. Mae ei gadw’n agos a chyfleu bod eich ffocws yn parhau’n gadarn arno yn debygol o helpu i gynnal ei ymdeimlad o ddiogelwch. Yn dibynnu ar broffil datblygiadol presennol eich plentyn, efallai y byddwch yn penderfynu lleihau nifer y bobl yr ydych yn rhyngweithio â nhw dros gyfnod yr ŵyl.

Rheoli newid a chynnal trefn

Mae’r Nadolig fel arfer yn gyfnod llawn syrpreisys a newidiadau amlwg i’n harferion arferol. Gall yr anhysbys a’r anrhagweladwy fod yn destun ofn a straen sylweddol i lawer o blant a phobl ifanc mabwysiedig. Mae’n ddigon posibl y bydd syrpreis a fwriedir i fod yn ddymunol yn cael ei brofi fel sioc sy’n ysgogi pryder. Er y gallai cadw at drefniadau arferol yn llym deimlo fel rhigol i rai ohonom, i lawer o blant a phobl ifanc mabwysiedig mae’n allweddol i’w hymdeimlad o ddiogelwch, yn enwedig ar adeg pan fo newidiadau amlwg o’u hamgylch o ran gweithgareddau, emosiynau a hyd yn oed ein nwyddau cartref. Mae’n debygol o fod o gymorth i gynnal eich arferion dyddiol allweddol, fel amseroedd bwyd, amser gwely ac ymarfer corff yn yr awyr agored gymaint â phosibl. Efallai bod eich plentyn yn debygol o elwa o amserlen weledol sy’n dangos yn glir unrhyw newidiadau i’r drefn arferol ac yn rhoi digon o gyfle i siarad am yr hyn y gallai unrhyw newidiadau ei olygu. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys y ffaith y bydd ffrind neu aelod estynedig o’r teulu yn rhoi rhodd iddo, a sut y gall ymateb. Efallai mai lleihau syrpreisys, neu eu hosgoi, yw’r opsiwn mwyaf caredig. Mae cynnwys eich plentyn wrth strwythuro newidiadau angenrheidiol i’r drefn arferol yn debygol o’i helpu i deimlo ymdeimlad o reolaeth. Er enghraifft, ei ofyn i’ch helpu i godi’r addurniadau yn hytrach na rhoi syrpreis iddo drwy ei wneud wrth iddo yn yr ysgol neu’r gwely.

Siôn Corn

Mae Siôn Corn yn ysgogi amrywiaeth o feddyliau a theimladau mewn plant. Er bod rhai plant yn dwlu ar Siôn Corn ac yn dymuno iddo ddod yn fwy aml… i rai eraill mae’n ddyn rhyfedd, anhysbys sy’n gwisgo cuddwisg ac sy’n anghyfarwydd iawn. Efallai y bydd awgrym ei fod wedi bod yn eu gwylio drwy gydol y flwyddyn i fonitro’u hymddygiad a phenderfynu a ydynt yn gallu cael yr anrhegion sydd ganddo. Yn ogystal â hynny, mae’n dod i mewn i gartrefi dan glo – hyd yn oed i ystafelloedd gwely plant o bosibl – yng nghanol y nos, heb i neb sylwi arno a chyda chaniatâd eu rhieni. I rai plant y mae eu profiadau cynnar wedi’u gwneud yn orwyliadwrus i fygythiadau, gallai Siôn Corn greu mwy o ofn na llawenydd – a gallai hefyd godi materion poenus yn ymwneud â chywilydd a hunanwerth. Efallai yr hoffech ystyried sut, ac i ba raddau, y mae’n ymddangos dros y Nadolig.

Ymwybyddiaeth o sbardunau synhwyraidd

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn gallu nodi golygfeydd, synau, arogleuon a blas penodol o’r Nadolig sydd, i ni, yn ennyn atgofion neu gyffro. Gallai hyn fod yn wir am eich plentyn hefyd. Fodd bynnag, nid yw’n anghyffredin i blant sydd wedi profi adfyd cynnar fod ag anawsterau integreiddio synhwyraidd. Yn enwedig os/pan fydd dan straen ac yn gweithredu yn y modd goroesi, efallai y bydd yn orwyliadwrus, yn effro i’r holl wybodaeth synhwyraidd sy’n dod i mewn, ac, yn dilyn hynny, yn methu â hidlo gwybodaeth ymylol. Felly, efallai y bydd amgylcheddau synhwyraidd uchel yn ormod iddo ac yn achosi straen. Goleuadau llachar a fflachio eithriadol; cerddoriaeth uchel, canu a chlychau; arogleuon newydd pwerus; a gallai siopau prysur, caffis, bwytai neu ganol trefi fod yn anghyfforddus neu’n anodd eu goddef.

I rai plant mabwysiedig, mae posibilrwydd hefyd y gallai rhai o synau, golygfeydd neu arogleuon y Nadolig ysgogi atgofion synhwyraidd sy’n ymwneud â phrofiadau brawychus, llawn straen o’u dyddiau cynnar – h.y. atgofion nad ydynt yn eu cofio’n ymwybodol ond sy’n eu hatgoffa o’r emosiynau a’r synhwyrau yr oeddent yn eu teimlo ar y pryd. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod cynnydd mewn achosion o wrthdaro teuluol a thrais domestig dros gyfnod yr ŵyl. Os yw hyn yn debygol o fod wedi bod yn wir yn achos eich plentyn, dylech gadw mewn cof yr ystyron anymwybodol sy’n gysylltiedig â phrofiadau synhwyraidd Nadoligaidd iddo. Efallai y bydd plant sydd ag atgofion ymwybodol o’r Nadolig cyn iddynt ymuno â’ch teulu yn gweld bod yr adeg hon o’r flwyddyn yn sbarduno meddyliau a theimladau anodd, poenus o amgylch eu hunaniaeth, eich gallu i’w caru, eu hunanwerth, eu hymdeimlad o berthyn a’r colledion y maent wedi’u profi. Bydd sylwi ar newidiadau emosiynol a siarad am eu teimladau, derbyn a dilysu meddyliau a theimladau a allai ymddangos yn anghyson o ran awyrgylch yr ŵyl, yn helpu eich plentyn i deimlo’n fwy diogel er gwaethaf ei bryderon.

Rheoli disgwyliadau

I’r rhan fwyaf o blant mae’r Nadolig yn eu dysgu i ddisgwyl a bod yn amyneddgar wrth aros am bethau da. Gall y cyfnod cyn Dydd Nadolig, sy’n llawn gobeithion a dymuniadau, ymddangos i bara am amser hir. Mae’n werth cofio y gallai ansicrwydd ac aros o’r fath ysgogi pryder annioddefol i blant sydd wedi cael trafferth i gael gofal sylfaenol cyson yn hanesyddol. Gallai mabwysiadu ymagwedd fwy tawel tuag at adfent, rhestrau’r Nadolig a rhagweld anrhegion fod yn llawer mwy cyfforddus i’ch plentyn. Efallai y gwelwch fod nifer fach o anrhegion yn gwneud y Nadolig yn fwy tawel ac yn fwy hamddenol na pentwr enfawr o anrhegion sy’n ormod i’r plentyn ac yn ei ddrysu. Efallai yr hoffech chi agor anrhegion fesul un drwy gydol y dydd neu hyd yn oed dros nifer o ddyddiau.

Siapo’r Nadolig ar gyfer eich teulu

Ystyriwch ymlaen llaw nodweddion pwysicaf Nadolig llwyddiannus i’ch teulu chi. Dylech dderbyn y bydd hyn yn wahanol i bob teulu ac y gallai blaenoriaethu anghenion eich plentyn olygu eich bod yn egluro i deulu a ffrindiau ehangach bod angen i chi wneud pethau’n wahanol eleni. Byddwch yn ymwybodol iawn o’ch lefelau straen eich hun a chreu Nadolig sy’n eich galluogi i ymlacio, bod yn chwareus a mwynhau cwmni eich gilydd – yn ogystal â mwynhau peth amser i chi’ch hun.

Yn gryno, mae pob un ohonom wedi ein siapo gan ein profiadau ac, fel y cyfryw, er y gallem gael ein hunain yn yr un sefyllfa ag un arall, byddwn yn debygol o gael ymatebion penodol. Yn wir, gallai’r hyn sy’n dod â chyffro a llawenydd i un person greu ofn, pryder a straen i berson arall. I lawer o blant a phobl ifanc mabwysiedig, daw’r llawenydd mwyaf o’r ymdeimlad o ddiogelwch sy’n deillio o gysondeb, rhagweladwyedd a chefnogaeth i reoli cyffro emosiynol, beth bynnag fo’r emosiwn dan sylw.

Yn sicr, nid yw hyn yn awgrymu eich bod yn mabwysiadu ymagwedd debyg i Scrooge at y Nadolig, ond yn hytrach i fod yn ymwybodol o broffil datblygiadol presennol, unigol eich plentyn fel y gallwch siapo Nadolig eich teulu yn unol â hynny.

Dymunaf Nadolig hapus ac iach i bob un ohonoch!

Profiadau Mabwysiadwyr:

Rhys – Mabwysiadwr

Mae’r erthygl wedi ein helpu i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar gyda’n mab. Mae wedi bod yn siarad yn obsesiynol am Elffyn, ac roedd yn dangos arwyddion o bryder ers iddo ddychwelyd eleni. Nid ydym erioed wedi siarad am Elffyn yn mynd yn ôl i Siôn Corn na’i fod yn cadw llygad arno. Darganfuom yn ddiweddar fod yr ysgol wedi cyflwyno Elffyn, a oedd yn gwylio’r plant. Mae hyn wedi ein sbarduno i ddweud y gwir wrth ein man, bod ei Dadi wedi bod yn symud Elffyn bob nos, ac mae’r pryderon bellach wedi mynd, ac mae pethau wedi dychwelyd i gyflwr tawelach.

Daniel – Mabwysiadwr

Yn ddiweddar, mae ein mab wedi bod yn arddangos arwyddion o gael anhawster gyda’i emosiynau yn yr ysgol ac yn y cartref. Mae arferion wedi’u newid oherwydd ymarfer ar gyfer cyngherddau Nadolig, gorymdaith Siôn Corn gyda’r Afancod a phethau eraill. Aeth ein haddurniadau i fyny penwythnos olaf mis Tachwedd, a oedd, ar ôl myfyrio, yn rhy fuan iddo. Mae’r stori hon wedi ein hatgoffa bod angen i ni gofio bod cadw pethau’n dawel a chyfathrebu â’r ysgol yn fwy, yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod mawr, yn bwysig i’w gefnogi drwy’r cyfnod anodd hyd at y Nadolig.

Catrin – Mabwysiadwr

Roedd fy mab bob amser yn cael trafferth gyda’r Nadolig gan fod cymaint yn canolbwyntio ar ddrwg a da, yn enwedig yn yr ysgol! Roedd yn cael trafferth rheoleiddio ei emosiynau, a achosodd ymddygiad negyddol, ac roedd bob amser yn cael trafferth gyda theimladau o gywilydd. Teimlai ei fod yn ddrwg ac oherwydd hyn byddai’n meddwl ei fod ar y rhestr ddrwg yn awtomatig ac na fyddai Siôn Corn yn dod. Roedd ei bryderon bob amser yn cynyddu tua’r Nadolig, ond dyma rai o’r pethau a wnes i i leddfu ei bryderon.

  1. Gwnaethom atgyfnerthu bod Siôn Corn yn dod i’n tŷ ni waeth beth.
  2. Roedd Noswyl Nadolig yn gyfnod o bryder, gan nad oedd unrhyw beth yr oeddem yn ei ddweud yn dileu’r teimlad hwnnw bob amser na fyddai Siôn Corn yn dod. Felly, daethom o hyd i Ap Santa Tracker lle gall y plant weld pa wlad lleoliad Siôn Corn. Fe wnaethom hefyd gyflwyno anrheg Noswyl Nadolig o pyjamas newydd, sliperi, a siocled poeth a DVD newydd (cyn ffrydio). Byddai Siôn Corn yn cynnwys llythyr a ddywedodd, “mwynhewch eich Noswyl Nadolig, byddaf yn ôl yn nes ymlaen i adael eich prif anrhegion”. Roedd hyn yn llwyddiant mawr am ei fod yn teimlo’n sicr bod Siôn Corn yn dod a hefyd yn rhoi rhai danteithion iddo eu mwynhau ar Noswyl Nadolig.
  3. Ni fyddwn byth yn rhoi ein haddurniadau Nadolig i fyny tan tua 1-2 wythnos cyn y Nadolig. Gyda chymaint o newidiadau yn yr ysgol a chyda phartïon ychwanegol i fynd iddynt, roeddem yn cadw bywyd cartref mor dawel a normal cyhyd ag y gallem.

‘Y Bwmpen Berffaith Amherffaith’

Mae’r stori hydrefol swynol hon yn rhannu profiad pwmpen sy’n edrych ac yn teimlo’n wahanol ac sy’n ofni na chaiff ei bigo byth. Mae gwrach garedig yn ei helpu i weld pa mor hudolus ydyw mewn gwirionedd, gan newid y ffordd y mae’n gweld ei hun am byth. Mae’r stori odli dyner hon yn annog hunan-ddebyniad ac i ni gofleidio ein gwahaniaethau.

Mae’r llyfr wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Rachel Cook, Gweithiwr Cymorth Mabwysiadu ym Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru (a ysgrifennodd hefyd ‘Dewi’r Diogyn yn mynd yn ol i’r ysgol’) gyda’r nod o helpu pob plentyn a allai deimlo eu bod yn wahanol. Y gobaith yw y byddan nhw’n gallu uniaethu â phryderon y bwmpen berffaith amherffaith, gan ganiatáu iddynt deimlo eu bod yn arbennig.

“I bob plentyn sy’n darllen y llyfr hwn… boed iti fod yn ddewr fod yn ti dy hun.”

Lawrlwythwch gopi o ‘Y Bwmpen Berffaith Amherffaith’

Mae Rachel wedi creu llyfr gweithgareddau i deuluoedd gwblhau a chynlluniau gwersi i gyd-fynd â’r llyfr i ysgolion ei ddefnyddio, i gefnogi’r neges o hunan-dderbyn, hunan-barch, a chyfeillgarwch ymhellach.

Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn annog rhagor o Gymry i ystyried mabwysiadu.

Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu
16 - 22 Hydref
Logo Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant hŷn yng Nghymru barhau i chwilio am eu ‘cartref am byth’.

Mae NAS yn datgelu ystod o fideos addysgol i fynd i’r afael â chamsyniadau am fabwysiadu a chynorthwyo’r rhai sy’n teimlo efallai nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu.

Yr wythnos hon, nod NAS yw ail-lunio barn y cyhoedd trwy chwalu hen fythau a chyflwyno profiadau go iawn.

Mae nifer o fabwysiadwyr o Gymru wedi ymuno â’r fenter hon, gan ymddangos mewn fideos ac ysgrifennu blogiau i ledaenu ymwybyddiaeth. Mae Faith, a fabwysiadodd grŵp o siblingiaid gyda Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, yn rhannu ei chymhelliant:

“Roedden ni eisoes wedi ystyried mabwysiadu ond pan wnaethon ni ddarganfod, hyd yn oed pe baen ni wedi cael IVF, na fyddwn i’n gallu cario i’r tymor llawn, fe ddechreuon ni ei ystyried yn fwy difrifol. Pan ddywedodd y gweithiwr cymdeithasol ein bod ni’n addas nid yn unig ar gyfer dau sibling, ond grŵp mwy o faint, fe wnaeth ein syfrdanu ni ond gwnaethom sylweddoli y gallai hyn ddod yn realiti.

“Cafodd fy mhartner a minnau lawer o drafodaethau, un o’r rhai cyntaf oedd, a yw ein tŷ ni’n ddigon mawr? Pan aethon ni at ein teulu a’n ffrindiau, roedden ni’n meddwl y byddai rhywfaint o wrthwynebiad – roedden ni wedi mynd o fod yn gwpl i fod yn deulu mawr – ond yn lle hynny, fe wnaethon nhw roi cariad a chefnogaeth i ni.

“Er bod ein teulu ni’n llawer mwy nag y gallen ni erioed fod wedi’i ddychmygu, dyna oedd y peth gorau oherwydd fe wnaethon ni gadw’r siblingiaid hyn gyda’i gilydd.”

Yn ogystal â rhannu straeon mabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynyddu gwybodaeth am fabwysiadu gyda chymunedau ledled y DU, trwy eu podlediad gwobrwyog, Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.

Canmolwyd y ddwy gyfres o’r podlediad dwyieithog, a oedd yn cynnwys straeon gan saith teulu mabwysiadol ochr yn ochr â phennod arbennig, a gynhyrchwyd ac a gyflwynwyd gan bobl ifanc a fabwysiadwyd, am ei olwg onest ar fabwysiadu.

Eglurodd Tasha, athrawes a fabwysiadodd ddau sibling ag anghenion dysgu ychwanegol drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gymerodd ran yng nghyfres un o’r podlediad:

“Pan anfonais fy e-bost o ddiddordeb [i fabwysiadu], roedd fy nheulu’n dweud wrthyf na fyddai ‘nhw’ eisiau fi oherwydd fy mod yn sengl, mae gen i swydd amser llawn, mae gen i gi. Meddyliais ‘Pam na fydden nhw eisiau fi?’

“Fe es i mewn gyda meddwl agored iawn. Yn amlwg roedd yn rhaid i mi ystyried bod fy nheulu yn byw 2 ½ awr i ffwrdd, fodd bynnag, roeddwn yn ymwybodol bod llawer o blant hŷn (oedran ysgol i fyny) yn aml yn aros hiraf”.

“Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych, ac roeddwn i wedi bod mewn cysylltiad â’r teulu maeth. Felly, pan ddes i â nhw adref, wnes i ddim rhoi’r gorau i’r drefn roedden nhw wedi’i hadeiladu yn nhŷ eu gofalwr maeth. Fe wnes i hyd yn oed barhau gyda’r ysgytlaeth siocled cyn mynd i’r gwely gan mai dyna wnaeth eu gofalwyr maeth”.

“Roedd fy merch yn eithaf sensitif i rai pethau, ac fe wnaethon ni weithio arnyn nhw gyda hi dros amser. Roedd sylwi ei bod yn dechrau rhoi’r gorau i’r sbardunau hyn yn arwydd i mi ei bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.”

Pob cwr o Gymru yn cymryd rhan

Bydd gweithgarwch rhanbarthol ledled Cymru yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu a’r wythnosau nesaf.

Ddydd Mercher 18 Hydref, bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cwblhau eu taith gerdded 402 milltir o hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda digwyddiad arbennig yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam gyda’r maer.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin hefyd yn cynnal taith gerdded, gyda phob cyfranogwr yn cerdded mewn parau neu grwpiau, i gynrychioli’r ffaith bod grwpiau o siblingiaid yn aros.

Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, a Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nosweithiau gwybodaeth ac yn rhannu cynnwys chwalu mythau i helpu darpar rieni mabwysiadol i ddysgu mwy am y broses fabwysiadu.

Mae Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru yn cyhoeddi blog am brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu, tra bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn arddangos cyfres o ffilmiau byr, yn cynnwys mabwysiadwyr a pherson mabwysiedig.

Ochr yn ochr â hyn i gyd bydd gweithwyr proffesiynol mabwysiadu o bob rhan o Gymru yn dod at ei gilydd i ddathlu’r negeseuon cadarnhaol a’r gwaith sydd wedi bod yn digwydd i wella gwasanaethau ers i NAS ddod i fodolaeth.

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru:

“Rydyn ni’n gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy’n meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. Ein nod yw ateb llawer o’r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu grŵp o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn hŷn. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.”

Am fwy o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru: adoptcymru.com

Dysgwch fwy am fabwysiadu yn lleol i chi – Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu

Noson Wybodaeth Mabwysiadu
Ar-lein
19 Hydref 23
6 - 7:30yh

Mae Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol yn dychwelyd yr wythnos sy’n dechrau 16 Hydref 2023.

Os nad ydych yn siŵr ai mabwysiadu yw’r llwybr cywir i chi ddechrau neu ehangu eich teulu, yna mae ein noson wwybodaeth yn ffordd wych o ddysgu mwy.

Bydd y nosweithiau gwybodaeth yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am ein gwasanaeth, y plant sy’n aros hiraf, y gefnogaeth gydol oes sydd ar gael i deuluoedd a’r broses i gael eich cymeradwyo fel teulu mabwysiadol.

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl a fyddai’n ystyried dod yn rhieni mabwysiadol i’r plant sy’n aros hiraf i gael eu mabwysiadu. Mae’r rhain yn cynnwys plant 4 oed neu hŷn, brodyr a chwiorydd o bob oed sydd angen aros gyda’i gilydd, a phlant ag anableddau neu anghenion cymhleth.

Mae arnom angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn leoli plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu eu diwylliant, eu hiaith a’u crefydd eu hunain. Mae yna lawer o fythau sy’n gysylltiedig â phwy all fabwysiadu a gallwch ddysgu mwy am hyn ar ein gwefan – Mythau Mabwysiadu.

I archebu lle ar un o’n sesiynau, dewiswch eich sesiwn agosaf isod, llenwch y ffurflen a bydd aelod o’n tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi i gadarnhau’r manylion a’ch rhoi ar ben ffordd ar eich taith i ddod yn deulu.

Dydd Iau 19 Hydref 2023 – 6 – 7:30yh – Ar-lein (Microsoft Teams)

Mythau Mabwysiadu

Mae arnom angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy’n rhannu’r un diwylliant, iaith a chrefydd, ac mae llawer o bobl bellach yn penderfynu dechrau teulu yn ddiweddarach mewn bywyd.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw beth y gallwch chi ei gynnig i fywyd plentyn. Yn y pen draw, eich gallu chi i ymrwymo i roi cartref cariadus a pharhaol i blentyn fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Mae llawer o resymau pam y mae pobl yn meddwl nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu, ond dyma rai o’r mythau sy’n ymwneud â mabwysiadu.

Myth #1: Rwy’n rhy hen i fabwysiadu

Nid oes terfyn uchaf o ran oedran ar gyfer mabwysiadu, yr unig amod sy’n gysylltiedig ag oedran ar gyfer mabwysiadu yw bod yn rhaid i chi fod dros 21 oed. Byddwn yn ystyried amgylchiadau unigol pob ymgeisydd gan gynnwys gwneud yn siŵr bod eich iechyd mewn cyflwr da, bod gennych rwydwaith cymorth da, a’ch bod yn debygol o allu cefnogi plentyn mabwysiedig nes ei fod yn oedolyn. Ond mae llawer o bobl yn eu 40au a’u 50au wedi mabwysiadu plant yn llwyddiannus.

Myth #2: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod i’n LGBTQ +

Daeth cyfraith i rym yn Rhagfyr 2005 yn rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw fabwysiadu. Os ydych chi’n gwpl o’r un rhyw, does dim angen i chi fod mewn Partneriaeth Sifil neu’n briod i fabwysiadu, bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n cyd-fyw mewn perthynas barhaus.

Myth #3: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod i’n sengl

Mae’n gamdybiaeth yn aml bod yn rhaid bod yn briod i fabwysiadu. Fodd bynnag, gall person sengl fabwysiadu os yw’n dymuno cael plentyn yn rhan o’i fywyd. Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl Sengl o bob rhyw. Byddwn yn trafod y gefnogaeth sydd gennych o’ch cwmpas yn ystod y broses asesu.

Myth #4: Nid ydym yn briod, felly ni fyddwn yn cael mabwysiadu

Mae modd i chi fabwysiadu plentyn ni waeth beth yw eich statws priodasol – p’un a ydych chi’n sengl, yn ddibriod neu mewn partneriaeth sifil. Fel arfer, argymhellir eich bod chi a’ch partner wedi byw gyda’ch gilydd am o leiaf flwyddyn cyn dechrau ar eich taith fabwysiadu, ond cyhyd â’ch bod yn gallu dangos eich bod mewn perthynas sefydlog, barhaus a chadarn, byddwch yn gallu gwneud cais ar y cyd i fabwysiadu plentyn.

Myth #5: Nid wyf yn berchen ar fy eiddo fy hun, felly nid wyf yn gymwys i fabwysiadu plentyn.

Does dim angen i chi fod yn berchen ar eiddo i fabwysiadu plentyn. Os oes gennych gytundeb rhentu sefydlog yn yr eiddo yr ydych yn ei rentu, gellir eich ystyried i fabwysiadu plentyn. Yn ddelfrydol, bydd angen ystafell wely sbâr arnoch chi ar gyfer plentyn mabwysiedig; mae’n bwysig bod ganddynt le iddyn nhw eu hunain. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn wrth fabwysiadu plentyn ychydig yn hŷn, oherwydd gall meithrin perthynas â phlant presennol yn y teulu gymryd amser.

Myth #6: Rwy’n gweithio’n amser llawn, felly nid oes modd fy ystyried i fabwysiadu plentyn.

Nid yw gweithio’n amser llawn o reidrwydd yn golygu na fydd modd ichi fabwysiadu plentyn. Fe’ch anogir (neu’ch partner, os ydych chi’n mabwysiadu fel cwpl) i gymryd cyfnod estynedig o absenoldeb mabwysiadu o’r gwaith, i helpu’ch plentyn newydd i deimlo’n ddiogel ac yn gartrefol yng nghwmni ei deulu newydd.

Rydym yn annog mabwysiadwyr i feddwl sut y byddant yn ymdopi’n ariannol wrth gymryd amser o’r gwaith. Mae gan bobl sy’n gyflogedig yr hawl i gael absenoldeb mabwysiadu â thâl, ond yn achos y rheiny sy’n hunangyflogedig, bydd angen iddynt ystyried yn benodol sut y byddant yn cydbwyso’r angen i weithio a’r angen i gynnig y sefydlogrwydd hanfodol hwnnw i blentyn yn gynnar yn y lleoliad.

Myth #7: Rwy’n ddi-waith / ar fudd-daliadau, felly ni chaniateir i mi fabwysiadu

Byddwn yn trafod eich sefydlogrwydd ariannol a’ch gallu i reoli arian yn ystod yr asesiad mabwysiadu, ond NI fyddwch yn cael eich gwahardd yn awtomatig rhag mabwysiadu os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu ar fudd-daliadau.

Os yw pandemig COVID-19 wedi effeithio ar eich swydd a / neu os ydych wedi cael eich rhoi ar ffyrlo yn ystod y misoedd diwethaf, ni fydd hyn yn eich rhwystro’n awtomatig rhag mabwysiadu. Trafodwch eich sefyllfa yn agored gyda ni, a byddwn yn eich cefnogi a’ch cynghori.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd modd cael cymorth ariannol gan yr asiantaeth sy’n gosod y plentyn, felly siaradwch â ni cyn rhoi’r ffidl yn y to.

Myth #8: Mae gen i blant biolegol eisoes, felly ni fyddaf yn gallu mabwysiadu

Os oes gennych blant biolegol, ni fydd hynny o reidrwydd yn eich atal rhag mabwysiadu. Bydd y bwlch oedran rhwng eich plant biolegol ac unrhyw ddarpar blant mabwysiadol yn cael ei ystyried, ynghyd â sefyllfa pob plentyn yn y teulu. Fel arfer, byddai asiantaethau yn awyddus mai’r plentyn mabwysiedig fyddai’r plentyn ieuengaf yn y teulu o ddwy flynedd o leiaf.

Byddwn yn cydweithio’n agos â chi i sicrhau y cydnabyddir anghenion POB plentyn.

Myth #9: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod yn dilyn ffydd/crefydd benodol

Nid yw crefydd neu diffyg crefydd yn effeithio ar y gallu i fabwysiadu plentyn. Mae gan blant sy’n aros am gael eu mabwysiadu gefndiroedd, diwylliannau a chrefyddau gwahanol, ac yn unol â hynny mae asiantaethau mabwysiadu yn croesawu mabwysiadwyr o bob cefndir.

Dengys ymchwil y gall pobl â ffydd gael eu cymell gan allgariaeth a dymuniad i ofalu am y rhai sy’n agored i niwed, sy’n amlwg yn beth cadarnhaol o ran mabwysiadu.

Myth #10: Rwy’n byw gyda theulu estynedig, felly ni allaf fabwysiadu plentyn.

Gall byw gydag aelodau estynedig o’r teulu fod o fudd mawr i rieni sy’n mabwysiadu plentyn, yn enwedig o ystyried y gefnogaeth y gallant ei chynnig. Ond bydd angen i’r aelodau hynny o’r teulu fod yn rhan o’r broses asesu a bydd yn rhaid iddynt ddeall yr anghenion penodol a allai fod gan blant sy’n cael eu mabwysiadu. Efallai y gofynnir iddynt fynychu hyfforddiant priodol a sicrhau eu bod ar gael pan gyflwynir y plentyn i’r teulu am y tro cyntaf.

Myth #11: Mae gen i gyflwr iechyd meddwl, felly ni fyddaf yn gallu mabwysiadu

Nid yw cyflwr iechyd meddwl yn eich rhwystro chi rhag mabwysiadu plentyn. Byddai angen trafod unrhyw gyflwr iechyd, meddyliol neu gorfforol yn llawn yn ystod yr asesiad, a bydd pob darpar fabwysiadwr yn cael prawf meddygol yn ystod camau cyntaf y broses.  Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall eich cyflwr, unrhyw faterion sy’n ymwneud â’ch gallu i fabwysiadu plentyn a pha mor dda rydych chi’n cael eich cefnogi gan eich teulu a’ch ffrindiau.

Mae llawer o bobl yn profi cyfnodau byr o iselder, gorbryder neu straen ac mae eraill yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl tymor hir a reolir yn dda gan feddyginiaeth. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar asesu eich gallu i ddiwallu anghenion plentyn mewn modd cyson ac ystyried sut y bydd straen o fabwysiadu plentyn yn effeithio ar eich iechyd meddwl. Siaradwch yn agored â ni a byddwn yn eich cefnogi, ni waeth pa benderfyniad rydym yn ei wneud.

Myth #12: Ni allaf fabwysiadu oherwydd fy mod yn anabl

Os ydych yn anabl, ni fydd hynny yn eich rhwystro rhag mabwysiadu plentyn. Bydd eich prawf meddygol yn rhoi sylw i unrhyw faterion y gallech eu profi wrth fagu plentyn wedi’i fabwysiadu, ond mewn gwirionedd, efallai y bydd gennych brofiad a dealltwriaeth benodol a fyddai’n golygu eich bod yn rhiant mabwysiadol arbennig o dda. Siaradwch â ni cyn i chi ddiystyru eich hunan.

Myth #13: Rwyf dros bwysau, felly ni fyddaf yn cael mabwysiadu plentyn

Mae llawer o fabwysiadwyr sydd dros bwysau yn llwyddo i fabwysiadu plentyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni sicrhau bod mabwysiadwyr yn debygol o aros yn ddigon iach ac egnïol i ofalu am blentyn hyd nes ei fod yn oedolyn a bod y plentyn yn byw bywyd iach hefyd.

Yn ystod yr asesiad, bydd y prawf meddygol yn rhoi sylw i’ch ffordd o fyw, eich BMI ac unrhyw oblygiadau iechyd posibl, ond rydym yn gwarantu y bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi mewn ffordd sensitif a pharchus.

Myth #14: Ni allaf fabwysiadu plentyn gan fod gennyf gofnod troseddol

Os oes gennych gofnod troseddol nid yw hynny o reidrwydd yn golygu na fydd modd i chi fabwysiadu plentyn. Cyn belled nad oes gennych unrhyw euogfarnau am droseddau yn erbyn plant neu  droseddau rhywiol penodol yn erbyn oedolyn, gellir dal ystyried eich cais. Siaradwch â ni yn gyntaf, byddwch yn hollol onest, a byddwn yn rhoi cyngor pellach i chi.

Myth #15: Ar ôl i ni fabwysiadu, byddwn ar ein pennau ein hunain … ni fyddwn yn cael unrhyw help

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig cymorth i blant sydd wedi’u mabwysiadu a’u teuluoedd ar hyd eu hoes. Gall ein mabwysiadwyr fynychu gweithdai hyfforddi rheolaidd, grwpiau cymorth ac ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol. Yn ogystal, mae modd cael cymorth un i un mwy arbenigol pan fo angen – o apwyntiadau meddygfa, a sesiynau Theraplay, i gwnsela. Rydym yma ar eich cyfer bob cam o’r ffordd.

Myth #16: Ni fyddaf yn gallu magu fy mhlentyn yn y Gymraeg os yw’n dod o deulu Saesneg.

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sicrhau bod plant yn cael eu lleoli mewn teuluoedd sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Nid yw iaith yn rhwystr wrth fabwysiadu. Rydym yn lleoli plant sy’n dod o deuluoedd Saesneg, neu y mae eu gofalwyr maeth yn siarad Saesneg, mewn teuluoedd Cymraeg, ac mewn dim o dro, byddant yn ddwyieithog.

Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.

Rydym hefyd ar FacebookInstagram ac ar Twitter

Gwobrau dathlu gwaith taith bywyd 2022

Cynhaliwyd ein gwobrau Dathlu Gwaith Taith Bywyd 2022 yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (17-23 Hydref 2022). Hon oedd ein seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb gyntaf ers 2019 ac un cyntaf i gynnal seremoni ym mhob un o 4 Awdurdod Lleol y rhanbarth. 

Mae gwobrau Dathlu Gwaith Taith Bywyd yn cydnabod ac yn gwobrwyo gweithwyr a gofalwyr maeth yn y rhanbarth am eu cyfraniad eithriadol tuag at Waith Taith Bywyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Diolch i’n teuluoedd am eu henwebiadau ar gyfer Gwobr Dewis y Teulu eleni.

Dyma restr o enillwyr 2022:

Gwobr Gweithiwr Taith Bywyd

Ceredigion: Charlotte Evans, Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Gofal wedi’i Gynllunio

Powys: Fiona MacDonald, Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Gofal Trwodd y Gogledd

Sir Benfro: Leanne Akalin, Gweithiwr FIT  – Tîm Ymyrraeth Teulu

Sir Gaerfyrddin: Rebecca Neale, Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Gofal Plant Caerfyrddin

Gwobr Tîm Gorau

Ceredigion: Tîm Gofal wedi’i Gynllunio

Powys: Tîm Gofal Trwodd y Gogledd

Sir Benfro: Tîm Ymyrraeth Teulu

Sir Gaerfyrddin: Tîm Gofal Plant Caerfyrddin

Gwobr Cyfraniad Eithriadol tuag at Waith Taith Bywyd

Siân Gibbon, Gweithiwr Cymorth Mabwysiadu – Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gwobr Cyfraniad Eithriadol gan Ofalwr Maeth

Leanne Evans, Gofalwr Maeth – Ceredigion

Gwobr Dewis y Teulu

Rachel Cook, Gweithiwr Cymorth Mabwysiadu – Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

LLONGYFARCHIADAU I ENILLWYR EIN CYSTADLEUAETH ‘DYMA FI!’

Mae ein henillwyr ar gyfer y gystadleuaeth ‘Dyma Fi!’ wedi cael eu dewis. Cawsom amrywiaeth hyfryd o geisiadau a mwynhaodd ein panel o feirniaid edrych ar bob darn a gyflwynwyd. Diolch i bob un a gymerodd ran a llongyfarchiadau i’n holl enillwyr.

Dyma ein henillwyr a sylwadau’r beirniaid.

*Sylwch fod y wybodaeth bersonol ym mhob un o’n ceisiadau buddugol wedi’i newid at bwrpasau cyfrinachedd.

Enillwr 1

“Am lun hyfryd ohonot ti a dy frawd ochr wrth ochr a’ch gilydd. Roeddwn wrth fy modd â’r holl liwiau tlws fe wnes di ddefnyddio. Rwyt ti wedi gwneud lluniad gwych – da iawn ti”

“Mae lliwiau a manylion hyfryd yn y llun o’r plant ar y ffrâm ddringo. Da iawn!”

“Rwyt ti wedi gwneud llun hardd a lliwgar. Rwyt ti wedi rhoi llawer o feddwl ac ymdrech yn y llun hwn, ac rwyf wrth fy modd â’r manylion. Diolch am rannu gyda ni”

Enillwr 2

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio dy fideo – a chwrdd â dy holl deulu, cathod anwes a neidr 🙂 a gweld ti ar waith ar y trampolîn a’r sgwter. Dal ati gyda’r holl ddarllen da rwyt ti’n ei wneud. Diolch yn fawr iawn am giplun gwych amdanat ti.”

“Am hwyl fawr! Dyma gipolwg hyfryd am dy fywyd ac ar bwy wyt ti. Roeddwn wrth fy modd â chreadigrwydd dy fideo a pha mor wreiddiol ydyw. Mae’n ymddangos dy fod di (gyda chymorth dy chwaer) wedi mwynhau ffilmio a chreu’r fideo hwn yn fawr yn ogystal â dangos i ni’r holl amdanat ti.”

“Rwyf wrth fy modd â’r agwedd wahanol hon tuag at y thema. Rwy’n hoffi unigrywiaeth dy waith a sut y gwnaethost ti ei wneud yn nodwedd gomig gyda’r capsiynau a’r synau. Roedd yn teimlo fel fy mod yn gwylio ffilm gomedi o dy fywyd mewn ychydig o funudau yn unig. Gallaf weld ti’n cael gyrfa ym myd teledu a ffilm.”

Enillwr 3

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio dy ffilm fer a dysgu amdanat ti. Roedd yn grêt i weld dy hyder yn disgleirio drwodd, ac roeddwn i wir yn hoffi dy weld yn canu ac yn dawnsio i dy hoff gân. Roedd hynny’n anhygoel. Da iawn!”

“Roeddwn wrth fy modd â’r agwedd wahanol i’r pwnc. Roedd yn ddiddorol dy glywed yn siarad am yr holl bethau rwyt ti yn eu hoffi a dy glywed yn canu dy hoff gân. Roedd y symudiadau dawns yn wych hefyd. Fe wnes i fwynhau gwylio dy fideo yn fawr.”

“Am ffilm fer wych gydag amrywiaeth wych o bethau i’w gwylio a’u clywed, o siarad am y pethau rwyt t’n eu hoffi, i ganu dy hoff gân ac yna ychwanegu rhai symudiadau dawns hefyd. Roedd yn mor wych i dy weld yn rhannu pethau amdanat ti dy hun. Da iawn!”

Awgrymiadau da ar gyfer goroesi gwyliau’r ysgol

Mae’r gwyliau haf chwe wythnos yr ysgol wedi cyrraedd, a gall y newid trefn arferol wneud i blant a’u rhieni deimlo eu bod wedi’u llethu, felly rydym wedi cynnig rhai awgrymiadau da i’ch helpu i ymdopi â’r wythnosau nesaf.

Arferion a ffiniau

Mae plant yn ffynnu ar arferion, ond mae’n anochel y bydd y drefn ddyddiol yn newid dros gyfnod yr haf, heb y teimlad o ddiogelwch a ddaw yn sgil y diwrnod ysgol. Trefnwch drefn o ddechrau’r gwyliau a cheisiwch gadw ati orau ag y gallwch.  Ceisiwch osgoi pethau annisgwyl fel barbeciws byrfyfyr a theithiau diwrnod heb eu cynllunio. Mae cael siart gweledol gyda gweithgareddau yn ffordd effeithiol o helpu plant i weld pryd y byddwch allan, mynd ar wyliau (a dychwelyd) ac mae hefyd yn gweithredu fel cyfrif i bryd y bydd yr ysgol yn ôl.

Sicrhewch fod ffiniau a rheolau yn eu lle o’r dechrau. Gallai hyn golygu gosod tasgau i’w cwblhau, megis gwisgo; cael brecwast; brwsio dannedd, cyn 30 munud o electroneg.

Cynllunio Diwrnodau allan

Dylech gynnwys eich plentyn yn y broses o gynllunio diwrnodau allan, nid oes rhaid iddo gostio’r ddaear, gallai fod yn daith feicio, neu’n ymweliad â’r parc am bicnic. Bydd gwybod beth y byddant yn ei wneud o ddydd i ddydd yn helpu i reoli pryder yr annisgwyl o gyfnod mor hir i ffwrdd o’r ysgol.  Cofiwch beidio â llenwi gormod i mewn a chael rhywfaint o amser segur gartref hefyd.

Cymerwch amser i chi’ch hun

Mae 6 wythnos yn amser hir i ddiddanu’r plant. Siaradwch â’ch rhwydwaith cymorth ynglŷn â’ch helpu chi am ambell ddiwrnod yma ac acw, er mwyn rhoi amser i chi ailwefru’ch batris. Bydd angen i lawer o rieni weithio yn ystod y cyfnod hwn hefyd, felly mae cynllunio ‘amser i mi’ yn hynod o bwysig.

Mynd ar wyliau

Os ydych yn mynd dramor neu’n mynd ar wyliau yn y wlad hon, mae trafod dychwelyd adref yr un mor bwysig â siarad am fynd i ffwrdd, gan y bydd llawer o blant yn cario meddyliau gyda nhw ynghylch pryd y gwnaethant adael gofal eu rhieni biolegol neu ofalwyr maeth. Os yw’ch plentyn yn bryderus am hedfan, gall darllen straeon am fynd ar wyliau a gwylio fideos YouTube o deithiau hedfan helpu.

Bydd cael siart gweledol sy’n dangos pryd rydych chi’n mynd i ffwrdd a phryd rydych chi’n dychwelyd, yn rhoi sicrwydd i’ch plentyn y bydd yn dod yn ôl. Gall pacio teganau rheoleiddio a’r teganau y maent yn eu chwarae gyda’r mwyaf hefyd ychwanegu ymdeimlad o normalrwydd, drwy fynd â rhan o’u cartref i ffwrdd gyda nhw. 

Chwareusrwydd

Gall ychwanegu gweithgareddau chwareus i drefn ddyddiol helpu i feithrin yr ymddiriedaeth a’r cysylltiad sydd gennych gyda’ch plentyn. Nid oes rhaid iddo fod am oriau ond bydd ychwanegu rhywfaint o amser o ansawdd (o leiaf 20 munud) i chwarae yn helpu i gadw’ch plentyn yn dawel, ac gwybod eich bod yno ar eu cyfer.

Disgwyliadau

Rydyn ni i gyd yn cael diwrnodau da a dyddiau drwg ac nid yw plant yn wahanol. Rydyn ni i gyd yn ymdopi â phethau’n wahanol, felly gosodwch ddisgwyliadau realistig i chi’ch hun. Gall atyniadau fod yn brysurach na’r arfer dros yr haf, felly helpwch i reoli disgwyliadau eich plentyn, efallai na fydd yn gallu reidio’r holl reidiau yn y parc thema neu weld yr holl anifeiliaid yn y sw. Gallwch ddefnyddio hwn i ddysgu’ch plentyn sut i ddelio â siom a rheoli’r teimladau mawr sydd ganddynt. 

Os oes gennych awgrymiadau yr ydych wedi’u defnyddio i reoli cyfnod hir yr haf sydd wedi gweithio gyda’ch plentyn yr hoffech ei rhannu â mabwysiadwyr eraill, cysylltwch â ni gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk

Dyma fi!

Rydych chi’n un o fath. Nid oes unrhyw un arall ar y blaned sy’n union fel chi. Beth sy’n eich gwneud chi’n CHI? Ai eich personoliaeth chi neu’r ffordd rydych chi’n edrych? Efallai mai dyma’r hyn rydych chi’n hoffi ei wneud neu efallai mai o ble rydych chi’n dod a hanes eich teulu ydyw. Y gwir yw mai’r holl bethau hyn sy’n eich gwneud chi yn CHI. Gelwir hyn yn ein hunaniaeth. Mae eich hunaniaeth yn cynnwys llawer o wahanol rannau. Bydd gwahanol rannau yn gwneud gwahanol bobl.

A allech chi ddweud wrthym beth sy’n eich gwneud chi’n CHI?

Gallwch wneud hyn trwy beintio, lluniadu, collage, ffotograffiaeth neu gallwch greu ffilm, collage lluniau, comic neu animeiddiad. Gallwch ysgrifennu stori fer, creu proffil, cerdd neu gân. Gallai eich darn fod yn hunanbortread wedi’i greu allan o doriadau o gylchgronau neu’n collage sydd â chymysgedd o bethau sy’n dangos i ni pwy ydych chi.

Grwpiau Oedran

  • Dan 4 oed
  • 4 – 7 oed
  • 8 – 11 oed
  • 12 – 14 oed
  • 15 – 17 oed
  • 18 oed a hŷn

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn cerdyn rhodd 10 punt.

Gwobrau

Gall enillwyr ddewis un o’r gwobrau canlynol:

  • Tocyn diwrnod i atyniad lleol o’u dewis yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
  • Cerdyn rhodd sinema Odeon neu Vue.
  • Cerdyn rhodd Caffe Nero neu Costa Coffee.

Dyddiad Cau

Dydd Gwener, 2il o Fedi 2022

I gystadlu, cwblhewch ffurflen gais ac anfonwch eich gwaith atom yn electronig trwy ein gwefan.

 Canllawiau a rheolau

  • Un ymgais yn unig fesul plentyn/person ifanc/oedolyn
  • Rhaid cyflwyno’r gwaith erbyn 5yp ar ddydd Gwener yr 2il o Fedi 2022. Anfonwch eich gwaith drwy un o’r fformatau canlynol: pdf, jpeg, doc, mp3, m4a, mp4, wmv neu avi.
  • Rhaid i bob darn o waith gael ei wneud gan y plenty, person ifanc neu’r oedolyn mabwysiedig yn unig.
  • Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn cerdyn rhodd gwerth 10 punt. Rhaid darparu cyfeiriad ar y ffurflen ymgeisydd.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a’u cyhoeddi ar y 16eg o Fedi 2022.  
  • Bydd enillwyr yn derbyn eu gwobrau yn fuan ar ôl y 16eg o Fedi 2022.
  • Bydd enillwyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno gwobr yn ein Gwobrau Dathlu Gwaith Taith Bywyd 2022 a gynhelir yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu ym mis Hydref 2022.