Gwaith newid bywydau’r Gwasanaeth Mabwysiadu’n parhau trwy bandemig y Covid-19

Adopted child holding crayons

Mae gwaith hanfodol o baru plant â’u teuluoedd am byth newydd ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru’n parhau ar waethaf haint y COVID-19.

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru – y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol ar gyfer awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys – yn aros ar agor gyda staff yn gweithio o bell, yn cynnal ymweliadau trwy Microsoft Teams, Skype neu dros y ffôn.

Mae rhai ymweliadau hanfodol yn parhau, gan gadw at y rheolau pellter cymdeithasol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth yn dal i chwilio am fabwysiadwyr newydd i sicrhau nad oes oedi cyn gosod plant gyda theuluoedd.

Cafwyd y nifer uchaf o ymholiadau ynghylch mabwysiadu ers cryn amser a daeth llawer i’n noswaith hysbysrwydd ar-lein yn ddiweddar gyda 13 o barau, (dau ohonynt mewn perthynas o’r un rhyw), a phedwar o ymholwyr sengl.

Mae’r Panel wedi wynebu ac addasu i her dal i gyfarfod o bell ac yn rheolaidd.

Mae’r Panel wedi cymeradwyo nifer o fabwysiadwyr newydd ac fe argymhellwyd rhagor o deuluoedd newydd gyda phlant cyfatebol, ers cyflwyno’r neges aros gartref.

Mae asesiadau’n parhau, gyda gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu’n cyfarfod darpar fabwysiadwyr o bell i gael eu cymeradwyo cyn bo hir.

Meddai’r Cynghorydd Reg Owens, Aelod o’r Panel Mabwysiadu o Gyngor Sir Penfro: “Mae sefyllfa’r COVID-19 wedi golygu bod pawb sy’n ymwneud â’r broses fabwysiadu wedi gorfod addasu ac ymateb i heriau gweithio o bell a, lle nad oes modd gwneud hynny, dilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelu eraill.

“Rwyf wedi cael fy nharo’n fawr gan sut mae’r timau wedi torchi eu llewys a gweithio mor galed i weld bod y mesurau angenrheidiol yn bodoli i sicrhau na fu unrhyw oediadau gormodol mewn penderfyniadau sy’n newid bywydau pawb dan sylw.

“Drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau mae hyn wedi sicrhau bod nifer o blant wedi cael cartrefi newydd am oes a bod mabwysiadwyr wedi cael plant y buont yn hiraethu amdanynt.

“Yn ôl pob tebyg, dyma fy nyletswydd fwyaf boddhaol fel Cynghorydd Sir ac rwy’n diolch i bawb dan sylw am eu holl waith yn yr amserau mwyaf anarferol hyn.”

I gynorthwyo mwy ar deuluoedd sy’n mabwysiadu, mae gweithwyr cymorth mabwysiadu wedi bod yn brysur yn creu adnoddau.

Mae nifer o gyrsiau hyfforddiant yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd, yn ogystal â modiwlau e-ddysgu newydd, gyda’r holl fanylion i’w cael ar wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Os ydych yn fabwysiadwr sydd angen cymorth ar y funud cofiwch ffonio 0300 3032 505 neu e-bostio adoptionenquiries@carmarthenshire.gov.uk

Mae’r Gwasanaeth hefyd ar Drydar @adoptmw_wales a’r dudalen Weplyfr sydd newydd ei lansio @adoptmwwales

Gwneud rhywbeth positif yn y cyfnod heriol hwn

Mae ein Gweithwyr Cymorth Mabwysiadu wedi bod yn gweithio’n galed yn creu adnoddau newydd i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gan fod ysgolion ar gau a theuluoedd yn aros gartref, mae’n bwysig bod gennych adnoddau i’ch cefnogi.

Mae’r tîm wedi creu templed capsiwl amser, er mwyn ysgogi pobl i wneud rhywbeth positif yn y sefyllfa sydd ohoni. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol ac unigryw i deuluoedd ar hyn o bryd, ac felly, roeddem yn meddwl y byddai creu’r capsiwl amser hwn yn gyfle ichi edrych yn ôl ar rai o’r atgofion, y meddyliau a’r teimladau hapus sydd wedi digwydd yn ystod yr amseroedd hyn, a bydd hefyd yn gyfle i edrych yn ôl ar rai o’r eiliadau arbennig a hwyliog rydych chi wedi’u rhannu.

Mae creu capsiwl amser yn weithgaredd gwych ar gyfer y teulu gan fod modd i bawb gymryd rhan ynddo. Dyma weithgaredd a all dynnu eich meddwl oddi ar eich pryderon bob dydd a gall eich tywys i le ac amser arall. Bydd y capsiwl amser yn ein hannog i feddwl am y gorffennol a’n dyfodol pan fydd y cyfnod cythryblus hwn ar ben ????.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r gweithgaredd hwn! Mae croeso ichi ddefnyddio’r gweithgaredd fel y dymunwch.

Lawrlwythwch y Capsiwl Amser

Os hoffech gael mynediad i Gymorth Mabwysiadu, cysylltwch â ni.

email ebost ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk  Phone Ffon 0300 30 32 505

Yr angen am Strwythur a Threfn tra bo’r ysgolion ar gau

Wrth i’r Coronafeirws ddechrau effeithio ar ein bywydau ni i gyd, rydym yn sylweddoli y bydd hwn yn amser gofidus i fabwysiadwyr, gan fod y strwythur a’r drefn y mae ysgol yn eu cynnig wedi mynd hyd y gellir rhagweld.

Buom yn siarad â mabwysiadwr, sydd â chrwt bach 5 mlwydd oed a oedd wedi gorffen yn yr ysgol ddydd Gwener. Dyma eu stori am yr ychydig ddiwrnodau diwethaf:

Fe wnaethom gasglu *Jason o’r ysgol brynhawn dydd Gwener, a dywedodd wrthym ei fod yn drist iawn na fyddai’n yn gallu mynd i’r ysgol mwyach. Roedd hyn yn dorcalonnus, felly roeddem wedi ceisio ei gysuro a dweud wrtho y bydd yn cael hwyl gartref gyda ni. Mae’n blentyn cymdeithasol iawn sy’n cyd-dynnu’n dda â ffrindiau. Felly, roeddem yn gallu gweld bod yr wythnosau nesaf mynd i fod yn rhai heriol o bosibl.

Roedd dydd Sadwrn yn eithaf anodd iddo, a chafodd rai byliau o bwdu a llefain, a hynny am ran helaeth o’r diwrnod. Yn sgil hyn, dechreuom feddwl am gyflwyno strwythur i’n diwrnodau wrth symud ymlaen a defnyddio trefn lem yn y tŷ.

Fore Sul, buom yn siarad â *Jason am ein cynlluniau i wneud siart o drefn y dydd ac roedd yn wen o glust i glust. Fe wnaethom gyflwyno siartiau o drefn y dydd pan ddaeth i fyw atom ac maen nhw wedi bod yn hanfodol er mwyn goroesi yn ystod gwyliau’r ysgol ers cryn amser bellach. Dechreuodd pethau deimlo’n dawelach ar unwaith. Mae wrth ei fodd â siart o drefn y dydd!

Sample Routine Chart.

Siart enghreifftiol.

Dyma enghraifft o’r drefn rydym yn ei dilyn ond gallwch addasu hyn yn rhwydd:

8:00 Brecwast, brwsio dannedd, gwisgo
9:00 Sesiwn ysgol gartref – ceisio dilyn cyfarwyddiadau’r ysgol, ond addasu i ddefnyddio sialc ar y patio ac ati er mwyn ychwanegu elfen o hwyl
10:00 Byrbryd a theledu
11:00 Mynd â’r ci am dro
12:00 Cinio
13:00 Darllen, yna chwarae gêm ar y llechen, ap addysgol hwyl os yw’n dawel
14:00 YouTube – Ioga neu ymarfer corff (mynd ar y trampolîn weithiau yn lle hynny)
15:00 Byrbryd a theledu
16:00 Amser rhydd – os yw o dan reolaeth.
17:00 Swper a threfn amser gwely
18:00 Amser gyda’r teulu – Ffilm neu gêm fwrdd
19:00 Amser gwely

Ar ôl cwblhau awr o weithgaredd (neu os ydym yn sylwi ei fod yn colli diddordeb), mae dewis o 2 weithgaredd chwarae. Mae hyn yn gweithio’n dda hyd yn hyn, ond rydym yn barod i addasu’r drefn wrth i amser fynd heibio i ddiwallu ei anghenion i hunan reoleiddio. Mae gennym becyn adeiladu cuddfan yn barod pan fydd angen mwy o reoleiddio arno.

Caiff plant sydd wedi’u mabwysiadu eu hystyried yn blant agored i niwed yn y rhestr o blant sy’n gallu cael mynediad i leoliadau ysgol yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn.

Pethau i’w hystyried:

  • A fydd y plentyn yn mynd i’w leoliad ysgol arferol?
  • A fydd wyneb cyfarwydd yno o’r ysgol?
  • Pa brofiad sydd gan staff o drawma ac ymlyniad?
  • A allwch chi ddod i ben â chadw eich plentyn gartref?

Os hoffech gael cyngor, cymorth neu ragor o wybodaeth am gwblhau eich siart liwgar eich hun o drefn y dydd, anfonwch e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

*Newidiwyd enwau i ddiogelu hunaniaeth.