Seminar Gwaith Taith Bywyd

9 Mai 2024
Microsoft Teams | 10yb – 12yp

Hyfforddwraig: Sian Gibbon –  Cydlynydd Gwaith Taith Bywyd, Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

**Mae’r cwrs hwn i ddarpar fabwysiadwyr yn unig**

Beth yw’r amcanion? 

Erbyn diwedd y seminar hwn bydd ddarpar fabwysiadwyr wedi: 

  • Derbyn gwybodaeth a dealltwriaeth bellach ar bwysigrwydd Gwaith Taith Bywyd a sut y gall helpu plant a phobl ifanc wedi’u mabwysiadu. 
  • Archwilio eu rôl o fewn Gwaith Taith Bywyd. 
  • Nodi ffyrdd y gallant gael trafodaethau gyda’u plentyn/plant am eu gorffennol, y presennol a’r dyfodol. 
  • Cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chlywed rhai awgrymiadau ymarferol i helpu plant i ddeall eu cefndir a hybu ymdeimlad cadarnhaol o hunaniaeth.