Dweud Straeon Anodd

8 Mai 2024
Zoom | 10yb – 2yp

Hyfforddwraig: Joan Hunt

Rôl sylfaenol, ond anghyfforddus yn aml, i rieni sy’n mabwysiadu yw’r angen iddynt gyfleu gwybodaeth anodd i’w plentyn. 

Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar y broses o gyfathrebu ac effaith hanes y plentyn ar ei allu i gyfathrebu a phwysigrwydd chi fel eu canolfan ddiogel.

Nod y cwrs hwn yw galluogi rhieni sy’n mabwysiadu i deimlo’n hyderus wrth gyfathrebu â phlant a phobl ifanc trwy ddefnyddio amrywiol gyfryngau sy’n ennyn diddordeb y plentyn ac yn annog cyfathrebu dwy ffordd effeithiol.