Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr ‘Diddordeb mewn Mabwysiadu’
Os ydych yn ystyried mabwysiadu ac os hoffech dderbyn y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, yn uniongyrchol i’ch e-bost, yna cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr ‘Diddordeb mewn Mabwysiadu’.
Caredig, doniol, cariadus, cymwynasgar, gofalgar, hapus, hwyliog. Dyma rai o’r geiriau a ddefnyddir gan blant mabwysiedig i ddisgrifio eu rhieni.
Fel y gallwch weld, mae angen yr un nodweddion ag unrhyw riant arall i fod yn rhiant mabwysiadol. Fodd bynnag, bydd gan blant mabwysiedig lawer o anghenion heb eu diwallu o’u profiadau cynnar a bydd angen ychydig yn ychwanegol gan eu teulu mabwysiadol.
Byddwch yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi a’ch teulu wrth i chi fynd drwy’r broses i ddod yn fabwysiadwyr cymeradwy, hyd at leoliad a thu hwnt.
Bydd cael agwedd gadarnhaol, amynedd, gwytnwch, ac ymdeimlad o hiwmor yn rhoi llinell sylfaen dda ar gyfer dod yn rhiant mabwysiadol ac yn eich gweld chi trwy heriau a gwobrau mabwysiadu.
Dyma’r hyn y dywedodd ein tîm eu bod yn chwilio amdano mewn darpar fabwysiadwyr.
Amynedd, chwareus, empathetig, derbyngar, synnwyr digrifwch, gwytnwch, dyfeisgar ac ymroddedig.
Os ydych yn ystyried mabwysiadu a bod rhai o’r nodweddion uchod yn eich disgrifio; beth am gysylltu â ni i ddysgu mwy.
Anogir rhieni mabwysiadol i siarad am daith bywyd eu plant gyda nhw. Gall fod yn ffordd bwerus o’u helpu i ymchwilio i’w hanes a deall eu hanes, gan roi gwell ymdeimlad iddynt o’u hunaniaeth a pham y cawsant eu mabwysiadu.
Fe fuon ni’n siarad â Nicola, sy’n fabwysiadwraig sengl o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, am sut y cyflwynodd hanes ei mab gydag ef, pa awgrymiadau y byddai’n eu rhoi i fabwysiadwyr eraill ac unrhyw un sy’n dechrau ar eu taith fabwysiadu. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud.
A allwch chi ddweud rhywfaint yn fwy wrthym am eich taith hanes bywyd?
Mae gwaith hanes bywyd yn bwysig iawn i’r plentyn mabwysiedig, ond hefyd i mi fel rhiant mabwysiadol. Mabwysiadais fy mab pan oedd yn 7 mis oed, ac nid oes ganddo gof o fywyd hebddo i. I rai pobl, dyma’r sefyllfa ddelfrydol neu efallai y bydd pobl nad ydyn nhw’n deall mabwysiadu’n meddwl ei fod yn wych ac nid oes angen i’r plentyn wybod dim byd, ond i mi roedd yn atgyfnerthu bod angen i mi ganolbwyntio ar daith bywyd gwaith, fel bod fy mab yn gwybod am ei gefndir o oedran ifanc.
Bron yn syth, cyn i fy mab symud adref hyd yn oed, roeddwn i’n meddwl (neu’n poeni) pryd yw’r amser cywir i ddechrau siarad am stori bywyd? Sut a phryd ydych chi’n dweud wrth blentyn ei fod wedi’i fabwysiadu? Sut ydych chi hyd yn oed yn esbonio i blentyn nad oes ganddo unrhyw gof o fywyd heboch chi fel rhiant beth yw mabwysiadu? Fel mabwysiadwyr sengl, roeddwn hefyd yn poeni am sut i egluro i fy mhlentyn mai dim ond mam sydd ganddo.
Ar ôl meddwl am y peth, penderfynais un diwrnod, pan oedd y bachgen yn saith mis oed, mai dyma’r amser gorau i mi ddechrau siarad am daith bywyd a mabwysiadu. Efallai fod siarad am fabwysiadu gyda phlentyn 7 mis oed yn swnio’n rhyfedd, ond doeddwn i ddim yn gallu dychmygu dweud wrth fy mab un diwrnod, gyda llaw rwyt ti wedi cael dy fabwysiadu.
Ydych chi wedi cadw mewn cysylltiad â Gofalwyr Maeth eich mab?
Fe wnaethom gadw mewn cysylltiad agos â Gofalwyr Maeth fy mab a phryd bynnag y bydden ni yn ymweld, byddwn yn dweud pethau fel “wyt ti’n cofio cael bath fan hyn” wrth fynd ag ef i’r ystafell ymolchi. I ddechrau, ni atebodd gan nad oedd yn gallu siarad, wrth iddo fynd yn hŷn, roedd yn arfer dweud ‘ydw’ a byddai’n dweud wrtha i beth roedd yn ei chwarae yn y bath, yn amlwg wedi’i ddychmygu, ac yna un diwrnod wrth ymweld pan oedd yn ddwy oed, cyn i mi ddweud unrhyw beth, dywedodd wrtha i “Mami roeddwn i’n arfer cael bath fan hyn” a “mami roeddwn i’n arfer cysgu yn yr ystafell ‘na”. Wn i ddim a oedd wedi prosesu’r wybodaeth hon ai peidio, ond roedd yn cofio ei fod yn byw yn y tŷ hwn ar un adeg, a oedd yn ddechrau da o’m rhan i.
Gawsoch chi lyfr hanes bywyd i’ch mab?
O oedran ifanc dywedais wrth fy mab nad oedd wedi tyfu ym mol mami. Unwaith eto, ar y dechrau, ni fyddai wedi deall, ond roedd y wybodaeth yn trwytho i’w isymwybod. Pan oedd yn dair oed, tynnodd ei dop i fyny a dweud wrth ei fam-gu, gan bwyntio at ei fotwm bol, “Mam-gu, roeddwn ni mewn bol pan oeddwn i’n fabi, ond wnes i ddim tyfu yn bol fy mam, fe wnes i dyfu ym mol rhywun arall ”. Pan gefais wybod am hyn, roeddwn yn teimlo mor falch o fy mab ei fod, yn dair oed, yn gwbl ddigymell, wrth gerdded adref o’r siop, yn deall rhywbeth. Roedd deall ‘rhywbeth’ yn golygu pan fyddaf yn mynd â’r sgwrs ymhellach, ni fydd fy mab yn cael sioc fawr.
Fues i wedyn yn gweithio gyda’r Tîm Mabwysiadu i lunio llyfr Hanes Bywyd. Roedd y Tîm Mabwysiadu yn wych a gofynnodd i mi am lawer o luniau ohona i a fy mab gyda’n gilydd, fy mab mewn mannau sy’n gyfarwydd iddo nawr, gyda’i deulu estynedig, anifeiliaid anwes, teganau a hyd yn oed beth oedd yn ei hoffi. Rhoddais lawer (gormod o lawer fyddai rhai’n dweud!!) o wybodaeth i’r tîm amdanon ni ac roedd ganddyn nhw hefyd luniau a gwybodaeth am saith mis cyntaf fy mab. Yn bwysig, roedd gan y Tîm Mabwysiadu lun hefyd o fy mab gyda’i fam eni. Mae’r llyfr mewn iaith y byddwn i’n ei defnyddio bob dydd gyda fy mhlentyn, a gofynnwyd i mi brawf-ddarllen y llyfr a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Mae’r llyfr ar ei wedd derfynol yn wych, mae’n sôn am fy mab yn unig ar y dechrau, fel ei fod yn ddiogel ac yn gyfarwydd iddo. Yna mae’n mynd yn ôl i’r dechrau ac yn cynnwys llawer o luniau ohono fel babi, y Gofalwyr Maeth a’r fam enedigol. Yn olaf, mae’r llyfr yn rhoi sylw i’r ychydig flynyddoedd yr ydym eisoes wedi’u treulio gyda’n gilydd. Mae’r llyfr yn cynnwys llawer o luniau, ond hefyd geiriau sy’n rhoi mwy o esboniad.
Mae fy mab wrth ei fodd â “Llyfr am (enw’r mab)” fel y mae’n ei alw. Rydym yn aml yn eistedd ac yn bwrw golwg ar y llyfr gyda’n gilydd. Weithiau, bydd fy mab jest yn edrych ar y tudalennau am ei fywyd presennol yn unig, ac yn anwybyddu’r tudalennau amdano fel babi a’r fam enedigol yn llwyr, ac mae hynny’n iawn i mi. Mae’n edrych ar yr hyn sy’n bwysig iddo ar y diwrnod hwnnw a’r hyn y mae’n gallu/eisiau uniaethu ag ef, a gan ei fod yn dair oed yn unig, rydw i eisiau cynnal sgyrsiau yn ôl ei delerau ef. Ar adegau eraill bydd yn edrych ar luniau o’r fam enedigol, a bydd yn dweud, fe dyfais yn ei bol. Roedd clywed fy mab yn dweud hyn yn dangos i mi ei fod eisoes yn deall rhywbeth. Rwyf ar sawl achlysur wedi gofyn i fy mab a oes ganddo unrhyw gwestiynau pan fyddwn yn gweld lluniau ohono fel babi neu’r fam enedigol, ond dim ond ymholiadau yw ei gwestiynau erioed fel “oeddwn i’n hoffi tryciau anferth fel babi hefyd?”, a does dim o’i le â hynny, oherwydd mae’n gwybod y gall ofyn cwestiynau i mi, ac wrth iddo dyfu, rwy’n siŵr y bydd yn gofyn cwestiynau dwysach. Rwyf hefyd yn ceisio ychwanegu pytiau bach o wybodaeth wrth i ni bori trwy’r llyfr, dim ond darnau bach ychwanegol o wybodaeth am y fam enedigol er mwyn peidio â’i lethu, weithiau mae’n derbyn y wybodaeth yn dda, dro arall mae’n troi’r dudalen.
Pa heriau ydych chi’n eu hwynebu fel rhiant o safbwynt taith bywyd eich mab?
Mae siarad am waith taith bywyd wastad yn heriol, hyd yn oed gyda phlentyn tair oed. Rydym yn cadw cysylltiad rheolaidd â’r Gofalwyr Maeth, yn ôl ein dewis ni, ac mae fy mab yn gwybod ei fod wedi byw yn eu tŷ pan oedd yn fabi. Fodd bynnag, un diwrnod wrth edrych ar ei lyfr esboniais i fy mab beth oedd gofal maeth ac esboniais iddo fod Gofalwr Maeth 1 a Gofalwr Maeth 2 yn wirioneddol garedig i ofalu amdano nes y gallai symud i fyw gyda mami. Roedd fy mab wedi dychryn a dywedodd nad oedden nhw wedi gwneud rhywbeth neis o gwbl. Sylweddolais yn gyflym iawn nad oedd yn deall ac roedd yn poeni y gallai fod yn rhaid iddo fynd yn ôl i fyw yno, neu eu bod wedi ei gymryd oddi ar ei fam. Dywedais wrtho yn gyntaf ei fod yn mynd i fyw gyda mami am byth bythoedd, ac yna fe fuon ni’n siarad am ofal maeth. O’r diwedd, roedd fy mab yn cytuno bod y Gofalwyr Maeth yn garedig iawn i ofalu amdano nes y gallai symud i fyw gyda mami.
A fyddech chi’n argymell unrhyw adnoddau i helpu mabwysiadwyr eraill?
Rwyf hefyd wedi bod yn prynu rhai llyfrau mabwysiadu a theulu ar gyfer fy mab. Prynais sawl llyfr am deuluoedd a mabwysiadu, sy’n dangos iddo y gall teuluoedd fod yn wahanol ac egluro mabwysiadu, megis dweud “roedd angen teulu arnot ti i dy garu, roedd gen i lawer o gariad i’w roi i ti” ac ati. Pan rydyn ni’n darllen y llyfrau, mae’n protestio, ac felly dim ond yn achlysurol yr ydym yn eu darllen. Fodd bynnag, gan fy mod yn gweithio drwy’r broses asesu ar gyfer mabwysiadu am yr eilwaith, prynais lyfrau am fabwysiadu brawd neu chwaer, ac mae’r rhain yn fwy poblogaidd gyda’m mab, ac rydym wedi gallu trafod pam mae rhai plant yn cael eu mabwysiadu a thrafod dod o hyd i’r teulu iawn.
Mae’r llyfr taith bywyd wedi bod yn amhrisiadwy i helpu fy mab i ddeall ei stori hyd yn hyn. Rwy’n teimlo y bydd cael llun o’r fam enedigol a rhywfaint o wybodaeth amdani yn ei helpu pan fydd yn hŷn. Mae gennyn ni lythyrau bywyd diweddarach hefyd, ond maen nhw’n cael eu cadw’n ddiogel nes bydd fy mab yn hŷn o lawer.
Mae gwaith Hanes Bywyd wedi bod yn dipyn o daith yn barod. Mae’r mab wedi derbyn y rhan fwyaf o’r pethau yr oeddwn i’n ofni amdanyn nhw fel siarad am y fam enedigol, a rhai o’r pethau roeddwn i’n meddwl y bydden nhw’n symlach, fel siarad am y Gofalwyr Maeth, wnaeth ennyn yr ymateb mwyaf.
Mae fy mab bron yn bedair oed a symudodd gartref dros dair blynedd yn ôl. Nid yw’n gwybod ei gefndir eto, ond mae’n gwybod na thyfodd yn fy bol ac mae’n adnabod llun ei fam enedigol ac yn gwybod rhai pethau sylfaenol iawn amdani. Mae fy mab yn gwybod beth yw mabwysiadu, mae’n dwlu ar ei ofalwyr maeth, mae’n gwybod ei fod yn byw gyda mami am byth, ei fod yn gallu gofyn neu ddweud unrhyw beth wrtha i, a bod mami yn ei garu yn fwy na dim byd arall. Ar hyn o bryd, mae hyn yn ddigon i mi, fe ychwanegaf at hanes ei fywyd wrth iddo fynd yn hŷn, mewn modd sy’n briodol i’w oedran, heb ei lethu, a phan fyddaf yn credu ei fod yn ddigon hen i ddeall a phrosesu’r wybodaeth.
O ran gwaith stori bywyd, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd newydd ddechrau’r broses fabwysiadu?
O’m profiad i, y peth mwyaf hanfodol am waith taith bywyd yw nad yw byth yn rhy gynnar i siarad am daith bywyd gyda phlentyn. Mae hanes y plentyn yn rhan ohonyn nhw, ac ni allwch chi byth ddileu hynny neu ni ddylech byth fod eisiau gwneud hynny. Gall y sgwrs gyntaf ymddangos yn frawychus ond mae cael sgwrs gyda phlentyn saith mis oed nad yw’n gallu siarad yn ôl gymaint yn haws na chael sgwrs am y peth gyda phlentyn chwe blwydd oed am y tro cyntaf! Fy mhrofiad gyda fy mhlentyn i yw bod plant yn llawn syrpreisys!
Byddwn yn cynghori eich bod bob amser yn agored ac yn onest gyda’ch plentyn, ond mewn modd sy’n briodol i’w oedran i’w amddiffyn, ei helpu i ddeall a pheidio â’i lethu. Rwyf bob amser wedi cofio nad oes gan blentyn tair oed hidlydd. Felly, gan fod yn onest, mae angen imi gofio bod yr hyn yr ydw i yn ei ddweud yn debygol o gael ei ailadrodd, ac er mwyn cadw fy mab yn ddiogel, efallai y bydd angen cadw’r manylion nes ei fod yn hŷn. Stori ei fywyd ef yw hon, ac nid fy lle i yw ei hadrodd, ond ar yr un pryd yr hyn y mae’n ei ailadrodd yn ifanc iawn, efallai na fydd am ei rannu pan fydd yn hŷn. Yn aml, unwaith y bydd gwybodaeth wedi cael ei datgelu, dyna ni.
Fy nghyngor arall yw gweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gael y llyfr Taith Bywyd iawn i chi a’ch plentyn. Mae angen i’r llyfr fod yn eich iaith chi, a dylai fod yn briodol i oedran eich plentyn neu fe fydd yn anodd i’w ddarllen. Rwy’n credu bod fy mab yn hoffi ei lyfr oherwydd mae’r tudalennau cyntaf i gyd yn llawn negeseuon cadarnhaol nid rhywfaint ohonynt yn unig; Mae cael llyfr da y byddwch chi a’ch plentyn yn ei ddefnyddio, fel sydd gennym ni, yn bwysig iawn i mi.
Beth mae mabwysiadu wedi’i olygu i’ch bywyd
Mae mabwysiadu yn golygu popeth i mi. Mae gen i’r mab mwyaf anhygoel ac rydw i bellach yn y broses o fabwysiadu am yr eildro. Mae gennyn ni berthynas anhygoel gyda Gofalwyr Maeth fy mhlentyn, ac rydw i wedi cwrdd â ffrindiau newydd ac wedi dysgu cymaint ar hyd y daith.
Byddwn yn dweud mewn un ffordd nad wyf yn meddwl am y mabwysiadu o ddydd i ddydd, nid yw fy mab yn wahanol i fab biolegol i mi, ac yn sicr nid wyf byth yn edrych arno ac yn meddwl amdano fel plentyn mabwysiedig. Rydyn ni’n byw bywyd normal, beth bynnag yw ystyr normal. Fy mab yw fy mhlentyn, a fi yw ei fam. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae mabwysiadu bob amser ar eich meddwl, y daith bywyd, y pethau anhysbys wrth iddo dyfu i fyny a datblygu, trafodaethau gydag athrawon, rhagweld cwestiynau, yn enwedig ar adegau fel Sul y Tadau gan fy mod yn fabwysiadwraig sengl a llawer mwy.
Newidiodd mabwysiadu fy mywyd er gwell. Er bod heriau ar y daith, yn ogystal â’r heriau y mae llawer o rieni eraill yn eu hwynebu, ni fyddwn yn newid dim. Rwyf eisoes wedi cael cymaint o amseroedd da gyda fy mhlentyn. Rwy’n deffro yn bob bore a’i glywed yn dweud bore da mami (ar amser hurt) ac mae clywed y llais bach yna mor hapus i fy ngweld a fy ngalw’n mami, yn ddigon i roi gwên ar fy wyneb am weddill y dydd. Mae yna blant sydd angen cartref cariadus a diogel ac mae darparu hynny i blentyn nid yn unig yn cynnig gobaith o ddyfodol hapus iddynt, ond yn fy mhrofiad i yn cyfoethogi eich bywyd yn aruthrol.
Rydyn ni’n gobeithio bod stori Nicola wedi amlinellu pa mor bwysig yw gwneud gwaith taith bywyd gyda phlant mabwysiedig ac wedi dangos sut y gall helpu i gryfhau perthnasoedd ac ymddiriedaeth plant mewn oedolion. Os yw’r stori wedi eich ysbrydoli i ystyried mabwysiadu, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ar unrhyw un adeg mae tua 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o’r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy.
I fechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a’r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir.
Ar gyfartaledd, mae brodyr a chwiorydd yn aros 135 diwrnod yn fwy na phlant unigol i gael eu mabwysiadu. I lawer o ddarpar rieni gall meddwl am fabwysiadu dau blentyn neu fwy godi pryderon am fforddiadwyedd a gofod ffisegol.
Ond nod ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw annog mwy o bobl i fabwysiadu’r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf.
Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Gwyddom o waith ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru fod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod yn haws gofalu am ferched.
“Nid yw hyn bob amser yn wir gan fod gan bob plentyn anghenion a phrofiadau gwahanol ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio ag ef.
“Weithiau rydyn ni’n gwybod llai am brofiadau plentyn iau ond efallai y bydd gennym ni wybodaeth fanylach am blentyn hŷn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn sefyllfa well i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt.
“Rydym yn llwyddo i leoli plant o bob grŵp oedran, rhyw, cefndir ac amgylchiadau, ond yn anffodus mae’n bosibl y gall plant hŷn, bechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol aros ychydig yn hirach.
“Rydym yn annog pobl i ystyried pob plentyn wrth ddod i mewn i’r broses fabwysiadu.”
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’i dimau rhanbarthol yn cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan fabwysiadu, gan weithio gyda rhieni biolegol a pherthnasau, rhieni mabwysiadol a gweithwyr proffesiynol i wneud yn siŵr bod lles gorau plentyn yn cael ei roi wrth wraidd pob mabwysiadu.
Yn eu hysbyseb teledu newydd bwerus dilynwn hanes plentyn saith oed wrth iddo gael ei baru â’i deulu newydd.
Mae’r hysbyseb emosiynol yn agor gyda bachgen ifanc yn cyfarch ei dad mabwysiedig yn gwisgo pob eitem o’i ddillad, gan gynnwys het wlanog a menig, esgidiau glaw melyn a gogls glas llachar.
Mae’r hysbyseb – sy’n cynnwys actorion – yn datgelu sut mae’r plentyn wedi cael ei symud o gwmpas llawer ac y gallai gymryd amser i ddod allan o’i gragen.
Rydyn ni’n gwylio wrth i’r bachgen bach frwydro i fwyta ffa pob ar dost gyda menig ymlaen a pha mor anodd yw sgorio gôl mewn esgidiau glaw.
Yn y pen draw, mae’r bachgen yn teimlo’n ddigon diogel i dynnu ei ddillad amddiffynnol, yn gallu bwyta popcorn a gwylio ffilm gyda’i dad.
Daw’r hysbyseb i ben gyda’r tad a’r mab yn gwisgo pâr o gogls yn hapus, gyda’r geiriau ‘Dewis mabwysiadu. Dewis teulu.’
Mae’r hysbyseb yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu ledled Cymru – gan gynnwys Clare a Gareth a fabwysiadodd grŵp o frodyr a chwiorydd trwy Fabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn 2016.
Eglura Clare: “Roedd ein mab yn gwisgo ei gogls nofio bob dydd, ym mhobman yr aeth o’r diwrnod y symudodd i mewn nes i’r strapiau rwber ddiflannu a chwympo’n ddarnau.”
Wrth gyfeirio at yr hysbyseb dywed Suzanne Griffiths: “Rydym yn gobeithio y bydd yr hysbyseb teledu newydd yn helpu pobl sy’n meddwl am fabwysiadu i ddeall bod plant sydd wedi cael dechrau anodd neu heriol mewn bywyd yn aml wedi datblygu eu ffyrdd eu hunain o ymdopi ac felly mae angen amser, amynedd a chefnogaeth i’w helpu i ymgartrefu yn eu teuluoedd newydd.
“Mae rhai yn ymgartrefu’n haws nag eraill ond yr hyn sy’n bwysig yw eu bod yn cael eu galluogi i wneud hynny ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnig cymorth i bob teulu newydd a sefydledig i gynorthwyo gyda’r addasiadau cynnar hynny, a thrwy gydol eu taith gydol oes fel teulu.”
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu delweddau o’u hunain yn gwisgo gogls ar gyfryngau cymdeithasol #DewisTeulu ac i ddatgelu’r eiliadau a wnaeth eu teulu nhw. Tagiwch @nas_cymru i annog eraill i ddewis mabwysiadu.
Mae ein henillwyr ar gyfer ein cystadleuaeth ‘Pa fath o Archarwr ydych chi?’ wedi cael eu dewis. Cawsom amrywiaeth hyfryd o waith wedi’u gyflwyno ac fe wnaeth ein panel o feirniaid mwynhau edrych ar bob darn a gyflwynwyd. Diolch i bob un wnaeth gymryd rhan a llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr. I weld y darnau buddugol ac i ddarllen sylwadau’r beirniaid, cliciwch yma.
* Sylwch fod y wybodaeth bersonol ym mhob un o’n ceisiadau buddugol wedi’i newid at bwrpasau cyfrinachedd. Mae hyn yn cynnwys newid enwau pobl, anifeiliaid anwes a lleoedd.
Enillwr Oedran 4-7
“Rwy’n caru’r ffordd mae’r plentyn wedi cynnwys ei teulu cyfan fel archarwyr. Rwy’n hoff iawn o sut mae’r teulu’n hedfan yn uchel dros yr enfys liwgar a’r haul sgleiniog llachar. ”
“Mae hwn yn ddarlun hardd. Gwelaf dy fod wedi rhoi llawer o feddwl ac ymdrech yn y llun hwn. Mae’n lliwgar a llachar iawn. Gwnaeth y lluniad hwn wneud i mi deimlo’n hapus iawn. Rwyf wrth fy modd gyda’r lliwiau llachar a’r holl wenu mawr wnes di ychwanegu i’r llun.”
“Llawer o liwiau ac wynebau gwenog. Braf gweld mai teulu yw’r archarwyr ac nid un person yn unig.”
Enillwr – Oedran 8-10 – Llun
“WAW! Mae’r sylw i fanylion yn y llun hwn yn drawiadol iawn. Rwyf wrth fy modd â’r holl fanylion bach yn y robot a sut mae’n cario’r babi bot yn ei gwt. Mae Prif Beiriannydd Storm yn edrych fel y gallai drwsio unrhyw beth gyda’i offer ar ei wregys ac yna’r drôn uwch anhygoel gyda 4 llafnau gwthio i’w helpu i hedfan yn uchel. Gallaf weld o’r llun hwn eu bod yn gwneud tîm gwych.”
“Lluniad gwych, manylion anhygoel. Rydw i yn hoffi’r dronau arbennig a’r cwdyn babi. Rwy’n credu bod y llun yn rhoi ymdeimlad o bersonoliaeth y plentyn a meddwl am yr hyn sy’n gwneud archarwr. ”
“Llun gwych. Mae’n amlwg dy fod ti wedi rhoi llawer o waith i mewn i’r llun hwn ac mae wedi talu ar ei ganfed. Rwy’n hoffi dy fod wedi ychwanegu cymaint o fanylion, ac mae’r lliwio yn dwt iawn. Rwyt ti’n arlunydd gwych! ”
Enillwr – Oedran 8-10 – Cerdd
“Fe wnes i fwynhau gwrando ar y gerdd hon yn fawr. Fe sylweddolais fod gan bob un ohonom y gallu i fod yn archarwyr yn union fel yr “arwr cyfrinachol” hwn. Er ei fod yn archarwr, roeddwn i wrth fy modd fel gadawodd i ni i gyd wybod bod arwyr hyd yn oed yn gwneud camgymeriadau ac mae hynny’n iawn. Rwyf hefyd yn rhoi gormod o arlleg yn fy sbageti bolonaise, felly mae gennym ni hynny yn gyffredin!”
“Mae’r darn hwn am fod yn archarwr yn un hwylus. Roeddwn i’n meddwl bod y plentyn wedi gosod allan yr hyn sy’n gwneud archarwr yn dda iawn, gan gynnwys meddwl am ei effaith ar bobl eraill. ”
“Rhywbeth gwahanol yn weledol sy’n egluro mewn ffordd feddylgar o’r hyn y dylai Archarwr fod.”
Diolch i bawb a gofrestrodd, dyma ragor o gofnodion.
Mae ‘Chwarae seiliedig ar Berthynas’ yn therapi i blant a theuluoedd ar gyfer adeiladu a gwella ymlyniad, hunan-barch, ymddiriedaeth mewn eraill, ac ymgysylltiad llawen. Mae’n seiliedig ar batrymau naturiol rhyngweithio iach a chwareus rhwng y rhiant/gofalwr a’r plentyn, ac mae’n gorfforol, yn bersonol, ac yn hwyl!
Mae’r syniadau sydd yn yr ’12 diwrnod Chwarëusrwydd’ yma y cynnwys gweithgareddau y gallwch geisio eu gwneud adref a bydd yn gwella eich dull o ddefnyddio technegau ‘Chwarae yn Seiliedig ar Berthynas’. Dim ond chwarae yw hyn ac felly does dim gwahaniaeth os wnewch chi ambell i beth yn annghywir. Mae chwarae yn wych i blant. Bydd angen i chi dychymyg wrth ychwanegu’r manylion yn y gweithgareddau hyn. Nid ydynt i fod yn gystadleuol ond i fod yn chwareus ac yn hwyl.
Mwynhewch!
Diwrnod 1 (13 Rhagfyr)
Brwydr Eira gyda phapur toiled wedi’i sgrwbio neu wlân cotwm.
Cadwch afael ar y peli eira i’w defnyddio mewn gemau eraill rydym wedi’u cynllunio yn y dyddiau nesaf.
Diwrnod 2 (14 Rhagfyr)
Crëwch gorrach eich hun i’w roi i fyny ar y wal.
Gofynnwch i’ch plentyn i orwedd ar ddalen fawr o bapur (neu daflenni wedi’u gosod gyda’i gilydd). Lluniwch amlinelliad o’ch plentyn a lliwiwch i mewn gyda’ch gilydd.
Peidiwch ag anghofio gadael lle i het eich corrach bach a rhannwch eich creadigaethau gyda ni.
Diwrnod 3 (15 Rhagfyr)
Gêm cwpan Pelen Eira
Yn syml, rhowch gwpanau papur ar y llawr/bwrdd a chymerwch eich tro i daflu papur toiled neu wlân cotwm.
Diwrnod 4 (16 Rhagfyr)
Beth am wneud anrheg Nadolig allan o’ch plentyn, drwy lapio eu corff mewn papur lapio a’u cael i dorri allan? Peidiwch ag anghofio’r rhuban ar y pen!
Neu opsiwn arall yw troi eich plentyn mewn i ddyn eira drwy lapio papur toiled o’u cwmpas ac unwaith eto eu cael i dorri allan.
Diwrnod 5 (17 Rhagfyr)
Canu cân Nadolig fel teulu a chynnwys enw eich plentyn yn y gân.
“Mae (Enw’r plentyn), y dyn eira yn enaid hapus iawn,
Gyda phibell tywysen corn a thrwyn bach botwm,
A dau lygad wedi’u gwneud allan o lo.”
Diwrnod 6 (18 Rhagfyr)
Adeiladu gwâl/groto.
Creu lle y gall eich plentyn deimlo’n ddiogel ynddo yn ystod y cyfnod mawr hyd at wythnos cyn y Nadolig. Defnyddiwch y gwâl fel lle cuddio da ar gyfer cuddio a cheisio.
Diwrnod 7 (19 Rhagfyr)
Pêl-fasged Pelen eira
Gwnewch gylch allan o’ch breichiau a chymerwch eich tro i saethu rholyn o bapur toiled wedi’i sgrwbio neu wlân cotwm mewn i’r cylchoedd.
Diwrnod 8 (20 Rhagfyr)
Y Carw Bach Hwn
Yn union fel yr hwiangerdd ‘Y Mochyn Bach Hwn’, ychwanegwch ddeuawd Nadoligaidd drwy ymgorffori ceirw Siôn Corn.
Diwrnod 9 (21 Rhagfyr)
Ewch ar Helfa Drysor Nadoligaidd
Faint o’r addurniadau hyn allwch chi eu gweld ger eich cartref?
Addurnwch falŵn fel Siôn Corn a/neu Rwdolff, a churo’n ysgafn yn ôl ac ymlaen gan gadw’r balŵn rhag taro’r llawr.
Diwrnod 11 (23 Rhagfyr)
Chwythu Peli Eira
Cymerwch ei dro i chwythu gwlân cotwm, yn ôl ac ymlaen gyda’ch plentyn. Mae hwn yn ymarfer gwych i blant allu ddysgu sut i hunanreoli.
Diwrnod 12 (24 Rhagfyr)
Mesur a bwydo.
Beth am ddefnyddio melysion ffrwythau llinynnol i fesur gwên eich plentyn?
Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.
Dylai’r rhan fwyaf o blant a anwyd yn y DU rhwng y dyddiadau uchod gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) unigol yn eu henwau, yn barod ar gyfer yr adeg pan fyddant yn 18 oed.
Sefydlodd y Llywodraeth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (yn 2002) i annog plant i arbed arian a rhoi mantais iddynt drwy fuddsoddi swm o arian i’w rhoi ar ben ffordd, ac er mwyn iddynt ei ddefnyddio yn 18 oed.
Roedd hon yn fenter newydd o ran lles sy’n seiliedig ar asedau, a rhoddodd llywodraeth ddilynol y gorau i’w darparu yn 2011.
Ar gyfer y rhan fwyaf o blant a anwyd rhwng Medi 2002 ac Ionawr 2011 rhoddodd y Llywodraeth £250 i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ôl eu genedigaeth a rhoddwyd £250 arall pan oedd y plant yn 7 oed. Dyblwyd y symiau hyn ar gyfer y plant mewn teuluoedd oedd yn cael Credyd Treth Plant.
Dylai’r cyfrifon gwreiddiol fod wedi’u sefydlu gan eu Rhieni Biolegol (gan ddefnyddio Enw Geni’r plentyn). Os na wnaethant hyn (am ba reswm bynnag), sefydlodd y Llywodraeth (Cyllid y Wlad) gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer y plentyn fel cyfrif a ddyrannwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), gan ddefnyddio ystod o ddarparwyr cyfrifon.
Mae cymhlethdodau o ran plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu. Gallai rhieni mabwysiadol fod wedi trosglwyddo’r statws ‘cyswllt cofrestredig’ ar gyfer y cyfrif iddynt eu hunain ar ôl i orchymyn mabwysiadu gael ei roi, ond efallai y bu cymhlethdodau o ran newid enw ac ati. Roedd rhieni mabwysiadol yn gallu cyfrannu at y cyfrifon hyn dros y blynyddoedd. Os yw eich plentyn o dan 18 oed, gallai fod cyfleoedd o hyd i wneud hyn.
Buddsoddwyd y rhan fwyaf o’r cyfrifon hyn yn y farchnad stoc, felly mae llawer wedi gweld twf dros y blynyddoedd, ac efallai y byddant bellach yn werth £1,000 neu ragor.
Gall pobl ifanc cymwys rhwng 16 a 18 oed gymryd rheolaeth o’r cyfrifon hyn, ar unrhyw adeg ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed, a gallant, er enghraifft, ddewis pa gyfrif y maent yn dymuno i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gael ei fuddsoddi ynddo.
Fodd bynnag, dim ond y person ifanc all dynnu arian o’i gyfrif (ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed), ac yn gyfreithiol mae ganddo’r hawl i wario’r arian fel y mynno. Gall rhieni gynghori’r person ifanc i’w ddefnyddio’n ddoeth, er enghraifft ei fuddsoddi erbyn iddo fod yn hŷn – ond mae’r gyfraith yn datgan bod ganddo’r hawl i’w dynnu’n ôl a’i wario mewn unrhyw ffordd y mynno.
Os yw mabwysiadwyr (neu bobl ifanc wedi’u mabwysiadu dros 16 oed) yn dymuno darganfod ble mae’r cyfrifon hyn (hynny yw, pa ddarparwr cyfrif sydd ganddynt), awgrymaf eu bod yn cysylltu â The Share Foundation (a elwir hefyd yn Sharefound), sy’n elusen gofrestredig ac sy’n gweithio i’r Adran Addysg fel y sefydliad sy’n rhedeg y cynlluniau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a chyfrif ISA i Bobl Iau ar gyfer pobl ifanc mewn gofal.
Mae’r Share Foundation hefyd yn cynnal digwyddiadau rhithwir rheolaidd sy’n darparu rhagor o fanylion ac yn trafod y manylion uchod, y gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn, rhieni, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eu mynychu.
I gael manylion am y rhain (ac i gael cyngor) ewch i https://findctf.sharefound.org neu ffoniwch 01269 310400. Wrth ddefnyddio’r cyfleuster chwilio cofiwch y dylai’r person ifanc gael ei rif Yswiriant Gwladol wrth law (a ddarperir gan CThEM ychydig ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed).
Ar gyfer plant sy’n cael eu geni ar ôl 02/01/2011, ar hyn o bryd gall rhieni agor cyfrifon ISA i Bobl Iau ar ran eu plant, ond bellach mae’r llywodraeth yn gwneud cyfraniadau’n unig ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.
(Contract dros dro hyd at 31/03/2022 oherwydd cyllid grant)
Swydd Ranbarthol – Lleoliad Negodadwy
24 awr yr wythnos
£22,183* – £25,991* (Gradd F) *pro rata
Dyddiad Cau: 16/11/2021
Mae hwn yn gyfle i ymuno â gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol bywiog a llewyrchus i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau cymorth ar gyfer teuluoedd mabwysiadol yn y rhanbarth.
Mae’r swydd yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn ogystal â theuluoedd y mae mabwysiadu’n effeithio arnynt gan ganolbwyntio ar adolygu cynlluniau cyswllt a chymorth mabwysiadu i sicrhau eu bod yn unol ag anghenion y plentyn. Mae’r gwasanaeth mabwysiadu yn defnyddio dull sy’n ymwybodol o drawma. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol er mwyn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol.
Caiff y swydd ei chyllido drwy grantiau, ond mae’r cyllid yn debygol o barhau ar ôl 31/03/2022.
Mae hon yn swydd ranbarthol ond bydd y lleoliad yn cael ei gytuno arno yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’r angen i ddarparu gwasanaethau ar draws y rhanbarth.
Mae angen Cymraeg llafar i gyflawni’r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.
Am drafodaeth anffurfiol cysyltwch a Frances Lewis 07733 102311.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Fel rhan o Bolisi a Gweithdrefn y Cyngor mae bellach yn ofynnol i weithwyr gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru gan y DBS. Codir tâl blynyddol o £13 i danysgrifio i’r gwasanaeth hwn a fydd yn cael ei dalu gan yr unigolyn. Bydd yr Awdurdod yn talu am y gwiriad DBS cychwynnol.
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i gynnig cyrsiau e-Ddysgu i’n mabwysiadwyr eu cwblhau yn gyffyrddus yn eu cartref eu hunain ac i’w gwneud yn eu hamser eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u creu a’u datblygu gan ddau blatfform dysgu, KCA ac ACEducation. Nod y cyrsiau ar-lein yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a myfyrio fel rhan o daith ddysgu barhaus y mabwysiadwyr.
Mae pob cwrs ar-lein am ddim i fabwysiadwyr Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cysylltwch â ni drwy e-bost os oes gennych ddiddordeb mewn cwblhau cwrs ar hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk
Mae’r Tîm Cymorth Mabwysiadu wedi creu pecyn o weithgareddau Calan Gaeaf hwyliog a hawdd y gallwch eu gwneud gartref! LAWRLWYTHWCH NAWR!
Ganddem wrth ein bodd hefyd yn gweld eich holl syniadau creadigol, felly anfonwch luniau yn adlewyrchu’r hwyl yr ydych yn ei gael, eich creadigaethau, a’ch gweithgareddau Calan Gaeaf fel ygallwn eu cynnwys ar ein Blog Calan Gaeaf! E-BOST
Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan. Os ydych chi'n parhau i ddefnyddio'r wefan hon, byddwn yn tybio eich bod yn hapus â hwn.Iawn