Helpu Plant sydd wedi’u Mabwysiadu i Ymdopi â Gorbryder ynghylch yr Ysgol ar ôl y Gwyliau

Gall dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig fod yn arbennig o heriol i blant sydd wedi’u mabwysiadu. Mae llawer o blant yn pryderu am adael eu rhieni ac yn cynhyrfu wrth feddwl am y posibilrwydd o wahanu, fel mynd i’r ysgol. Gall yr ymddygiad hwn ddechrau yn dilyn unrhyw newid, fel dechrau ysgol newydd, symud tŷ, neu brofi colled neu brofedigaeth.

8 awgrym i helpu eich plentyn i addasu:

  1. Sbardunau Gweledol: Mae cynllunwyr gweledol a thagiau cyfathrebu (fel TomTag) yn wych oherwydd eu bod yn gwneud gweithgareddau dyddiol yn fwy rhagweladwy, gan leihau gorbryder a helpu plant i ddeall beth sy’n dod nesaf.
  2. Trafodaethau am bryderon: Dewiswch adegau i siarad am bryderon ac osgoi eu trafod ar adegau eraill.
  3. Canmol Annibyniaeth: Rhowch ganmoliaeth am ymdopi heb sicrwydd, hyd yn oed os yw hynny am gyfnodau byr iawn. Er enghraifft, gallwch chi ddweud, “Rwyt ti’n gwneud mor dda yn delio â hyn ar dy ben dy hun!” Mae hyn yn annog y plentyn i barhau i reoli ei orbryder yn annibynnol.
  4. Trefn Gwahanu Gyson:Ar adegau gwahanu, dylech ymddwyn fel y byddech pe na bai’ch plentyn yn ofidus (e.e. ffarwelio, gwenu a gadael).
  5. Osgoi siarad gormod: Dylech osgoi siarad gormod neu ofyn am esboniadau am ymddygiad.
  6. Gweithgareddau Synhwyraidd: Ewch ati i gynnwys eich plentyn mewn gweithgareddau synhwyraidd sy’n eu helpu i dawelu a theimlo’n gadarn. Gall hyn gynnwys gweithgareddau fel neidio ar drampolîn, defnyddio blanced drymach, neu chwarae gyda theganau synhwyraidd. Mae yna hefyd lawer o enghreifftiau o sut y gall gweithgareddau synhwyraidd-weithredol helpu – edrychwch ar yr erthygl hon sy’n llawn gwybodaeth neu’r postiad blog hwn.
  7. Cyfathrebu â Staff yr Ysgol: Anogwch gyfathrebu’n agored ag athrawon a staff yr ysgol am anghenion y plentyn ac unrhyw strategaethau sy’n gweithio’n dda gartref. Gall hyn helpu i greu amgylchedd cefnogol yn yr ysgol.
  8. Ceisiwch Gymorth: Gall delio â phlentyn gorbryderus achosi llawer o straen. Ceisiwch gymorth gan weithwyr proffesiynol, rhieni eraill neu aelodau o’r teulu.

Cofiwch, mae’r mater hwn yn effeithio ar lawer o blant ac mae llawer o rieni yn teimlo’n rhwystredig mewn perthynas ag ef. Peidiwch â theimlo’n euog. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu. Mae yna hefyd nifer o sefydliadau defnyddiol sy’n gallu rhoi cymorth i chi:

  1. Adoption UK (Cymru): Mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i deuluoedd mabwysiadol, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol ledled Cymru. Maen nhw’n darparu cyngor, cyfeillgarwch ac amrywiol ddigwyddiadau i helpu teuluoedd i gysylltu a chefnogi ei gilydd.
  2. Connect Cymru: Gwasanaeth yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yng Nghymru, a ddatblygwyd gan bobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o raglenni a chymorth sydd wedi’u teilwra i anghenion plant wedi eu mabwysiadu.
  3. Niwrowahaniaeth Cymru: Mae’r sefydliad hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Arweinwyr Awtistiaeth awdurdodau lleol, byrddau iechyd, rhanddeiliaid allweddol, a grwpiau cynghori.

Gall yr adnoddau hyn roi cymorth a gwybodaeth werthfawr i chi. Os oes angen mwy o argymhellion neu gymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â ni.