Buom yn siarad â Sarah am ei phrofiad, ei chyngor a pham y byddai’n argymell Theraplay i bawb.
A allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich hun a beth wnaeth eich ysbrydoli i fabwysiadu?
Roeddwn i wastad yn gwybod fy mod am fod yn fam ond nid o reidrwydd yn wraig. Fe wnes i roi cynnig ar hynny, ond nid oedd wedi gweithio. Roedd fy mhen-blwydd yn 35 oed yn agosáu ac roeddwn i wedi bod ar fy mhen fy hun am bron i 10 mlynedd, felly roedd angen i mi benderfynu a oeddwn am barhau i aros tan fy mod yn cwrdd â rhywun neu i fynd amdani ar fy mhen fy hun. Yn y pen draw, fe wnes i benderfynu nad oeddwn i am aros mwyach, felly dechreuais ar fy nhaith fabwysiadu.
A allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am eich taith fabwysiadu?
Cymerodd y broses gyfan tua dwy flynedd nes i mi gael fy mharu gyda’r plentyn cywir, ond roedd hynny oherwydd bod gennyf syniad penodol iawn o bwy yr oeddwn am ei fabwysiadu. Fe wnes i fynd i sioe deithiol mabwysiadu yng Nghaerdydd, lle’r oedd gan yr holl wahanol gynghorau stondinau. Y person cyntaf i fi siarad ag ef oedd Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant, a oedd wedi fy mharu gyda fy merch, felly roedd fel jig-so a’r darnau’n dod at ei gilydd!
Roedd y cam cyflwyno tua un wythnos. I ddechrau roedd hyn yn teimlo fel oes i mi gan fy mod yn barod iawn i ddechrau fy mywyd gyda fy merch ond mewn gwirionedd sylweddolais nad oedd yn gyfnod hir iawn o gwbl!
A oeddech chi’n ei chael hi’n anodd mabwysiadu fel person sengl?
Na, doeddwn i ddim yn ei chael hi’n anodd ond weithiau roedd gwneud y broses ar fy mhen fy hun yn gallu bod braidd yn unig. Fe wnes i siarad â ffrindiau a theulu amdano ond nid yw’r un peth â rhannu’r profiad â rhywun. Byddwn i’n gwneud y cyfan eto heb feddwl ddwywaith, ond y tro nesaf byddwn i’n gobeithio rhannu’r daith gyda phartner.
A oedd angen neu a gawsoch unrhyw gymorth ar ôl mabwysiadu?
Roedd y flwyddyn gyntaf yn gymharol hawdd. Wrth edrych yn ôl, rwy’n credu y gallai hynny fod oherwydd nad oedd wedi ymgartrefu eto. Ar ôl iddi ymgartrefu, dechreuodd rhai materion godi, felly cysylltais â’i gweithiwr cymdeithasol i ofyn am help. Awgrymodd fy ngweithiwr cymdeithasol Theraplay.
Roedd ein gweithiwr Theraplay yn anhygoel. Daeth i mewn i wneud asesiad ac yna cawsom sesiynau wythnosol gyda hi am bron i flwyddyn i’n helpu. Aeth hefyd i ysgol fy merch i wneud yn siŵr bod yr athrawon yn deall y ffyrdd gorau o weithio gyda fy merch. Mae’r gefnogaeth hon wedi bod mor bwysig i ni.
Beth oedd Theraplay yn ei olygu ichi?
Gwnaeth Theraplay helpu fy merch i reoleiddio ei hymddygiad. Gwnaeth y gweithiwr cymdeithasol sylwi ar bethau bach nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdanynt, er enghraifft nid oedd hi’n cadw cyswllt llygad â mi. Dangosodd y ffilm i mi o’n fideo asesu ac roedd yn glir ar y tâp, ond nid oedd yn rhywbeth yr oeddwn i erioed wedi meddwl amdano.
Dechreuon ni wneud gêm syml o chwythu pêl gotwm rhyngom ac roedd yn rhaid i ni gadw cyswllt llygad. Dim ond chwarae gêm oeddem ni ond roedd wedi ein helpu ni i gysylltu.
Byddwn yn ei argymell i bawb gan ei fod wedi ein helpu yn fawr.
Sut brofiad oedd bod dan gyfyngiadau symud?
Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn eithaf cadarnhaol i ni oherwydd mae wedi rhoi cyfle i ni dreulio amser gwerthfawr gyda’n gilydd. Mae hyn wedi newid pethau. Mae fy merch wedi ffynnu ar ôl cael fy sylw llawn ac mae wedi dod â ni’n agosach ac wedi cryfhau ein perthynas.
Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd newydd ddechrau’r broses fabwysiadu?
Fy nghyngor gorau fyddai peidio â gadael i’r straeon rydych chi’n eu clywyd am fabwysiadu gan bobl eraill i’ch rhwystro rhag mabwysiadu. Mae taith pawb yn wahanol ac ni allwch gymharu eich profiad chi â phrofiad pobl eraill, felly ewch amdani.
Ac yn olaf, beth mae mabwysiadu wedi’i olygu ichi?
Mae’n rhan fawr ohonof i. Weithiau, rwy’n anghofio nad ydw i wedi rhoi genedigaeth iddi gan ei bod hi’n debyg iawn i mi, mae ganddi’r un nodweddion a hyder â mi. Yn sicr, mae hi’n rhan fawr o bwy ydw i. Peidiwch â’m camddeall, bu adegau anodd ac nid wyf am esgus bod popeth wedi bod yn hawdd o hyd, ond byddwn yn gwneud y cyfan eto er mwyn ei chael hi yn fy mywyd. Roeddwn i wastad eisiau bod yn fam ac mae hi wedi gwneud hynny’n bosib. Fyddwn i ddim yn ei newid am y byd.
Os ydych chi wedi ystyried mabwysiadu ond eich bod am ddysgu rhagor, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i greu adegau euraidd wrth ddod yn deulu.
Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 30 32 505 neu drwy anfon neges e-bost at ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk.