Helpu Plant i Ddeall eu Hymddygiad gan ddefnyddio Naratifau

27 Tachwedd 2024
Zoom | 10yb – 1yp

Hyfforddwyr: NATP – Inspire Training

Mae hwn yn hyfforddiant rhianta therapiwtig uwch ac mae’n canolbwyntio ar helpu plant i gysylltu eu hymddygiad, ofnau, byd mewnol a’u hanes gan ddefnyddio sylwebaeth empathig ac elfen chwilfrydedd PACE. Rhoddir cipolwg i rieni ar fyd mewnol plant sydd wedi dioddef trawma. Cânt eu helpu i ddeall bod ymddygiad yn gyfleu anghenion datblygiadol plentyn heb eu diwallu, ei gyflwr emosiynol, a’i brofiadau trawmatig. Dangosir i rieni sut i ddehongli ymddygiad o’r fath a chwrdd â’r anghenion a fynegir. Defnyddir cyfuniad o enwi’r angen, sylwebaeth empathig a naratifau creadigol i wanhau trawma’r plentyn a’u helpu i ddefnyddio iaith i fynegi eu hunain.