Cyswllt. Beth mae’n ei olygu?

16 Hydref 2024
Zoom | 10yb – 12.30yp

Hyfforddwyr: Adoption UK

Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i fabwysiadwyr fyfyrio ar y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyswllt. Rhoddir cyfle i gyfranogwyr feddwl pwy allai fod yn arwyddocaol i’w plentyn ddod i gysylltiad â nhw a sut y gallai hyn ddigwydd. Bydd y cyfranogwyr yn trafod sut i gefnogi plentyn drwy’r broses ac yn myfyrio ar eu teimladau eu hunain ynghylch cyswllt.