Rydym yn cynnig 50% oddi ar Aelodaeth Deuluol Adoption UK ar gyfer pob aelod newydd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymunwch â Adoption UK fel aelod o’r teulu a dod yn rhan o gymuned sy’n poeni’n angerddol am fabwysiadu. Mae’r Aelodaeth Deuluol ar gyfer rhieni mabwysiadol a darpar fabwysiadwyr.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Deuluol?
Cyngor a chymorth
- Gweminarau rhyngweithiol a gynhelir gan weithwyr proffesiynol, arbenigwyr a’r rhai sy’n gysylltiedig â mabwysiadu.
- Grwpiau cymunedol lleol sy’n dod â theuluoedd mabwysiadol at ei gilydd yn yr un ardal ar gyfer cymorth a digwyddiadau gan gymheiriaid.
- Cyfarfodydd rhithwir lle gall mabwysiadwyr gysylltu â’i gilydd a staff Adoption UK.
- Fforwm ar-lein lle gall darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr sefydledig sgwrsio, trafod a rhannu eu straeon.
- Llinell gymorth sy’n cael ei rhedeg gan dîm arbenigol yn Adoption UK.
Gwybodaeth ac adnoddau
- Cylchrawn Adoption Today bob deufis sy’n llawn newyddion, adnoddau a mewnwelediad mabwysiadu.
- Adnoddau ar gyfer aelodau yn unig. Mae hyn yn cynnwys llyfrgell fideo o weminarau a llu o daflenni ffeithiau defnyddiol ar bynciau fel absenoldeb mabwysiadu, ymlyniad a rhianta plant yn eu harddegau.
- Llyfrgell fenthyca Adoption UK sy’n cynnwys cannoedd o lyfrau, fideos a gemau therapiwtig.
- Blogiau a vlogiau sy’n ymchwilio i amrywiaeth o faterion perthnasol ac amserol.
Cynigion a gostyngiadau
- Mynediad gostyngol i ddigwyddiadau Adoption UK, gan gynnwys y gynhadledd flynyddol.
- Cyrsiau hyfforddi ar-lein gostyngol sy’n ymdrin â phynciau fel gwaith hanes bywyd, anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws a chefnogi anghenion iechyd meddwl.
- Cynllun Mantais Adoption UK sy’n cynnig gostyngiadau brandiau mawr ar draws manwerthu, gwyliau, adloniant, yswiriant a chyfleustodau.
- Gostyngiadau eraill o Jessica Kingsley Publishing a Gwyliau Butlins.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno, anfonwch e-bost at hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk