Ymunwch â’n rhestr aros
Zoom | 18:00 – 20:00

Ydych chi erioed wedi meddwl am fabwysiadu ond ddim yn siŵr ai dyma’r llwybr cywir i chi? Rydyn ni yma i’ch helpu chi i archwilio’r daith hon sy’n newid bywydau!

Ymunwch â ni ym mis Mawrth ar gyfer ein Noson Wybodaeth Mabwysiadu, lle gallwch ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am y broses fabwysiadu. Digwyddiad anffurfiol a chroesawgar yw hwn sy’n rhoi’r cyfle perffaith i chi ofyn cwestiynau a chael yr atebion sydd eu hangen arnoch.
Beth i’w ddisgwyl:
- Sgwrs Wybodus: Dewch i glywed gan weithwyr cymdeithasol profiadol a mabwysiadwyr cymeradwy a fydd yn rhannu eu profiadau personol ac yn rhoi cip-olwg ar y broses fabwysiadu.
- Holi ac Ateb: Dewch i gael atebion i’ch cwestiynau am y plant sy’n chwilio am deuluoedd cariadus ar hyn o bryd a’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd mabwysiadol.
- Amgylchedd Cefnogol: Dewch i gwrdd â’n tîm cyfeillgar a chysylltu ag eraill sydd hefyd yn ystyried mabwysiadu.
P’un a ydych chi newydd ddechrau meddwl am fabwysiadu neu’n barod i gymryd y cam nesaf, ein noson wybodaeth yw’r lle perffaith i ddechrau.
Cofiwch Gysylltu!
Rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno a’ch helpu i brofi’r llawenydd o fabwysiadu!
