Helpu eich plentyn Mabwysiedig yn yr Ysgol

7 Hydref 2024
Zoom | 6.30 – 9yh

Hyfforddwyr: Adoption UK

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i edrych ar sut i gefnogi plant trwy’r trawsnewidiadau niferus sy’n digwydd yn yr ysgol. Bydd y sesiwn yn ystyried teimladau plant a sut maent yn eu dangos. Bydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw, siarad â phlant a llawer o awgrymiadau ymarferol i gefnogi pontio – y rhai mawr (e.e. o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd) a’r rhai bach (e.e. o’r cartref i’r ysgol bob bore neu o ystafell ddosbarth i ystafell ddosbarth ). Bydd adnoddau defnyddiol yn cael eu harddangos a bydd syniadau ar gyfer gweithgareddau a chychwyn sgwrs yn cael eu darparu. Bydd cyfle hefyd i ddarganfod am ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill ar gyfer ysgolion Cymru, ac amser i drafod pryderon a all fod gan rieni.