Cyswllt: Beth mae’n olygu?

10 Mawrth 2025
Zoom | 18:30 – 21:00

Am yr athro

Philippa Williams yw’r Rheolwr Dysgu a Datblygu i Adoption UK yng Nghymru, ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad personol a phroffesiynol i’w rôl. Dechreuodd ei thaith bersonol ei hun gyda mabwysiadu ar ddiwedd y 1990au pan fabwysiadodd ei phlentyn cyntaf. Yn ddiweddarach, cyfrannodd fel gwirfoddolwr a daeth yn ffrind cefnogol ac yn ymgynghorydd rhiant cyn ymgymryd â’i swydd bresennol. Erbyn hyn, mae’n darparu amrywiaeth o hyfforddiant, gan gyfuno ei mewnwelediad personol helaeth â’i harbenigedd proffesiynol i gefnogi teuluoedd mabwysiadol ledled Cymru.

Cynnwys y Cwrs

Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i fabwysiadwyr fyfyrio ar y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyswllt.Rhoddir cyfle i gyfranogwyr feddwl pwy allai fod yn arwyddocaol i’w plentyn ddod i gysylltiad â nhw a sut y gallai hyn ddigwydd. Bydd y cyfranogwyr yn trafod sut i gefnogi plentyn drwy’r broses ac yn myfyrio ar eu teimladau eu hunain ynghylch cyswllt.