Rheolau Fforymau

I sicrhau bod Fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru a sgyrsiau Annwyl Dîm Mabwysiadu yn gyfleuster diogel, cefnogol a hwylus i ddefnyddwyr Adran yr Aelodau, mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi creu’r Rheolau Defnydd canlynol ar gyfer Adran yr Aelodau. 

Os ydym, ar unrhyw adeg, yn poeni am ddefnyddiwr cymunedol, cynnwys ei bostiad neu unrhyw beth sy’n codi pryderon ynghylch diogelu neu lesiant plant neu oedolion sy’n agored i niwed, mae gennym gyfrifoldeb i rannu pryderon a gwybodaeth berthnasol ag asiantaethau y mae angen iddynt wybod, yn unol â’n polisi diogelu sefydliadol.

1. Er bod y fforwm mewn rhan ddiogel o’r wefan, er mwyn amddiffyn eich hunaniaeth a’ch diogelwch, gofynnwn felly ichi aros yn hollol ddienw ar y negesfyrddau a pheidio â datgelu unrhyw fanylion adnabyddadwy amdanoch chi’ch hun, eich teulu nac unrhyw drydydd partïon eraill (er enghraifft: peidiwch â chynnwys enwau, lleoliadau, manylion cyswllt, ysgolion a fynychwyd ac ati). Gofynnwn i chi ddefnyddio’ch enw defnyddiwr ar-lein anhysbys bob amser (wedi’i greu wrth gofrestru) a chreu llysenwau ar-lein ychwanegol ar gyfer aelodau’r teulu, yn ôl yr angen.

2. Mae’r fforymau yn bodoli er mwyn i fabwysiadwyr, darpar fabwysiadwyr a’r rhai sydd â diddordeb mewn mabwysiadu gael cyngor, cymorth a gwybodaeth amynegi eu barn yn barchus mewn trafodaethau – waeth beth yw lefel eu profiad mabwysiadu neu amser fel defnyddwyr fforwm. Mae’n rhaid i bawb sydd ar y fforwm barchu barn a phrofiadau defnyddwyr eraill. Nid yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goddef unrhyw fath o gam-drin geiriol, bwlio ar-lein, nac ymdrechion bwriadol i gychwyn tensiwn / dadleuon ar y fforymau neu ar y dudalen Annwyl Dîm Mabwysiadu. Bydd unrhyw ddefnyddiwr y canfyddir ei fod yn torri’r rheol hon yn derbyn rhybudd ffurfiol a/neu, mewn achosion eithafol neu barhaus o dorri’r rheol hon, gellir ei atal/gwahardd o Adran Aelodau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

3. Mae’n rhaid i chi beidio â chynnwys unrhyw regfeydd nac iaith sarhaus neu dabŵ wrth gyflwyno neges ar y fforwm. Fodd bynnag, o fewn rheswm, mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn caniatáu defnyddio geiriau rhan-seren (*) yn unig i ddisgrifio sefyllfaoedd eithafol. Serch hynny, ni chaniateir rhegi helaeth, na rhegi at ddefnyddwyr eraill y fforwm. 

4. Rhaid peidio â defnyddio’r Fforymau i gyflwyno neges neu gyfeirio at unrhyw ddeunydd sy’n: anghyfreithlon, yn ddifenwol, yn fygythiol, yn dramgwyddus, yn ymosodol, yn anweddus, yn gwahaniaethu’n hiliol, rhywiol, neu fel arall, yn fwriadol, neu a allai fod yn wallus, enllibus, unrhyw beth a allai annog neu fod yn drosedd, unrhyw beth sy’n arwain at atebolrwydd sifil neu’n achosi niwed, colled neu ddioddefaint, unrhyw beth sy’n annymunol o unrhyw natur neu unrhyw beth arall sy’n tarfu ar weithrediad hwylus y neges fyrddau.

5. Nid yw gwybodaeth neu farnau a bostiwyd gan ddefnyddwyr y bwrdd negeseuon ar y Fforymau neu’r dudalen Annwyl Dîm Mabwysiadu yn adlewyrchu barn neu argymhellion Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac nid yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau a allai ddeillio o gynnwys y fforwm defnyddwyr. Felly, gofynnwn i ddefnyddwyr y fforwm hefyd ystyried yn ofalus y cynnwys yr ydych chi’n ei rannu ar y fforwm gan fod defnyddwyr yn gwbl gyfrifol (ac o bosibl yn atebol yn gyfreithiol) am unrhyw oblygiadau sy’n deillio o ganlyniad i gynnwys eu postiad.

6. Er bod enwau defnyddwyr/llysenwau anhysbys yn cael eu defnyddio ar fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, gofynnwn hefyd i ddefnyddwyr y fforwm ystyried yn ofalus y wybodaeth a rennir am hanesion a chefndiroedd eu plant. Mae hyn er parch i’r plant oherwydd, mewn llawer o achosion, eu gwybodaeth nhw yw hon i’w rhannu os/pan fyddant yn dewis gwneud hynny a, hyd yn oed pan fydd yn ddienw, efallai na fydd yn briodol neu’n deg i blentyn fod rhiant yn rhannu manylion am ei orffennol ar fforwm ar-lein.

7. Yn unol â deddfau hawlfraint Delio Teg, gallwch gyflwyno ar Fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ddyfyniadau bach a dyfyniadau o gynnwys (cerddi, caneuon, erthyglau, darnau o lyfrau, cyfnodolion a chylchgronau, ryseitiau, darnau o wefannau allanol, , gwybodaeth yn benodol yn dod o ddigwyddiad hyfforddi) a gynhelir o dan hawliau eiddo deallusol gan drydydd parti. Fodd bynnag, mae’n rhaid bod gyda chi wybodaeth am yr awdur a ffynhonnell y cynnwys, a rhaid ystyried bod y cynnwys yn briodol ac yn gyfiawn. Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn â’r ffynhonnell / awdur y cynnwys, peidiwch â’i gyflwyno. Os mai chi sydd biau’r cynnwys, nodwch hyn yn glir.

8. Ni chewch ddefnyddio Fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i hyrwyddo, cysylltu â neu ennill cefnogaeth i sefydliad neu wefan allanol yr ydych chi naill ai’n cynnal eich hun neu’n gweithio / gwirfoddoli drosto/drosti, p’un a yw’r sefydliad neu’r wefan yn fasnachol neu’n ddielw, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Os hoffech roi cyhoeddusrwydd i sefydliad neu wefan yr ydych chi’n cynnal eich hun neu’n gweithio/gwirfoddoli drosto/drosti, ar y fforwm, cysylltwch â’r Tîm ar  gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk gyda’r cais hwn. Mewn achosion lle caniateir ceisiadau, bydd y Tîm Mabwysiadu yn cyflwyno manylion ar ran y defnyddiwr. 

9. Ni chewch ddefnyddio’r fforymau i apelio am nawdd neu gyllid. 

10. Ni chewch ddefnyddio fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i wneud ceisiadau cyfryngau neu ymchwil heb ganiatâd gan Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ymlaen llaw. Dylid gwneud ceisiadau am y cyfryngau ac ymchwil trwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru trwy gysylltu â’r Tîm Ar-lein ar gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pob cais yn ddilys ac yn briodol ar gyfer y fforwm. Mewn achosion lle caniateir ceisiadau, bydd y Tîm Mabwysiadu yn cyflwyno manylion ar ran y defnyddiwr. 

11. Yn sgil materion pwysig yn ymwneud â diogelwch ac atebolrwydd, nid oes modd ichi ddefnyddio fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i hyrwyddo digwyddiadau neu weithgareddau sydd wedi’u trefnu ac nad ydynt yn ymwneud â Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru heb ganiatâd gan Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ymlaen llaw. Dylid gwneud ceisiadau trwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru trwy gysylltu â’r Tîm ar gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk. Caniateir ceisiadau i hyrwyddo digwyddiadau y mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn eu hystyried yn ddilys, sy’n cwrdd â gofynion diogelwch penodol ac sy’n ategu gwasanaethau gwaith presennol Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, a bydd y Tîm yn rhannu’r manylion ar ran y defnyddiwr. Fodd bynnag, os oes pryder ynghylch gonestrwydd neu ddiogelwch digwyddiad, neu lle bernir nad yw digwyddiad yn ategu gwasanaethau gwaith presennol Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, ni chaniateir ceisiadau i hyrwyddo’r digwyddiad ar y fforymau. Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau diogel, strwythuredig i’w aelodau gan gynnwys digwyddiadau hyfforddi, diwrnodau teulu a grwpiau cymorth. I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, cysylltwch â’r tîm ar cgwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk. Nid yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed, difrod, colled neu anaf a achosir gan ddefnyddwyr fforwm sy’n mynychu digwyddiadau heblaw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n cael eu hyrwyddo ar fyrddau negeseuon Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

12. Oherwydd materion pwysig yn ymwneud â diogelwch ac atebolrwydd, ni chewch ddefnyddio Fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i drefnu (i chi’ch hun neu i eraill) unrhyw fath o ‘gyfarfod’ anffurfiol, nad yw’n gysylltiedig â Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng defnyddwyr y fforwm. Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal grwpiau cymorth diogel a strwythuredig i’w aelodau. I gael rhagor o wybodaeth am leoliad grwpiau cymorth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru a sut i fynd iddynt, cysylltwch â’r tîm ar adoptionenquireies@sirgar.gov.uk. Nid yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed, difrod, colled neu anaf a achosir o ganlyniad i ddefnyddwyr fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyfarfod yn breifat o dan eu menter eu hunain trwy drefniadau a wneir trwy sianeli y tu allan i fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Pan fydd defnyddwyr fforwm yn cyfarfod yn breifat o dan eu menter eu hunain, byddai Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn argymell dilyn canllawiau Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh ar leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau o’r fath.

13. Rhaid i chi beidio â dynwared defnyddwyr eraill ar-lein, unigolion nac unrhyw drydydd partïon eraill. 

14. Nid yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goddef trolio, yn ystyr pobl/ffugwyr heb unrhyw berthynas/diddordeb mewn mabwysiadu yn manteisio ar Fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i achosi trafferth / ceisio sylw yn unig. Pan sylwir ar unrhyw ddefnyddwyr amheus bydd Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymchwilio ac yn cadw’r hawl i wahardd, yn barhaol o fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Adran yr Aelodau, unrhyw un y canfyddir ei fod yn ‘trolio’.

15. Os yw defnyddwyr y fforwm yn amau bod defnyddiwr arall yn ‘trolio’, dylent roi gwybod am hyn i’r tîm trwy e-bostio gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk. Nid yw’n dderbyniol awgrymu (yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol) yn gyhoeddus fod defnyddiwr arall yn ‘trolio’. Pan fydd unrhyw ddefnyddwyr yn awgrymu hyn yn gyhoeddus, bydd eu postiad(au) yn cael eu dileu, a byddant yn derbyn rhybudd ffurfiol yn unol â rheol dau o’r Rheolau Defnydd hyn.

16. Rydym yn gofyn ichi gadw at feysydd pwnc penodol fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dylech gynnwys postiad nad yw’n ymwneud â’r pwnc (megis trafodaethau ar ddiwylliant poblogaidd, y tywydd, teganau plant, ryseitiau ac ati) ar y =fforwm ‘Cyffredinol’. Hefyd, er ein bod yn cydnabod taw lle i drafod materion yw  fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, sylwer y gall postiadau hir iawn amharu ar allu’r fforymau i redeg yn hwylus a gall yr amser a dreulir yn eu cymedroli effeithio ar ba mor gyflym yr ymdrinnir â materion eraill.

17. Trwy gyflwyno cynnwys i fforwm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae defnyddwyr yn rhoi’r hawl iddo ailgyhoeddi neu gyfeirio at y postiadau ar y fforwm, heb ofyn am ganiatâd ymlaen llaw gan y person a gyflwynodd y neges, mewn rhannau eraill o wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cylchlythyr Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac mewn deunyddiau eraill sydd wedi’u cyhoeddi gan Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru megis erthyglau cylchgrawn a nodweddion arbennig. Bydd yn cael ei farnu  bod unrhyw bostiad y gellir ei ddewis at y diben hwn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol neu brofiadau cadarnhaol y gallai’r gymuned fabwysiadu ehangach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru elwa ohonynt. Yn y mwyafrif llethol o achosion, dim ond teitl y postiad fydd yn cael ei ddefnyddio, gyda dolen benodol i’r fforwm y mae wedi’i leoli ynddo. Pan fydd postiadau’n cael eu hailgyhoeddi’n llawn mewn deunyddiau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru eraill, byddant bob amser yn aros yn eu fformat gwreiddiol fel bod y neges yn glir. Sylwer y bydd unrhyw benderfyniadau i ailgyhoeddi postiadau yn cael eu cymryd gan roi sylw penodol i sensitifrwydd a phriodoldeb y deunydd yn y postiad. Mae hyn yn unol â Pholisi Preifatrwydd ‘Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru’ ac ni fydd cynnwys byth yn cael ei drosglwyddo i unrhyw drydydd partïon eraill i’w atgynhyrchu. 

18. Rhaid i chi beidio â chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy’n cynnwys sbamio, hacio, newid, neu ychwanegu at godio’r fforwm, manteisio ar fygiau cod neu gymhwyso sgriptiau awtomatig.

Cymedroli Fforwm 

Mae pob neges sy’n cael ei chyflwyno ar y Fforymau yn cael ei darllen gan aelod o dîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, a’i chymedroli lle bo angen, cyn pen 24 awr ar ôl ei chyflwyno. Mae tîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cadw’r hawl, heb rybudd ymlaen llaw, i ddileu, golygu neu symud unrhyw negeseuom y bernir eu bod yn torri unrhyw un o’r Rheolau Defnydd a restrir uchod. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Tîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio negeseuon preifat i roi gwybod pam mae negeseuon wedi’u dileu/golygu.

Pan geir achosion difrifol / parhaus o dorri’r Rheolau Defnydd, bydd Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi rhybudd ffurfiol ac yn gweithredu polisi ‘tair streic’. Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cadw’r hawl i atal proffil defnyddiwr ar-lein dros dro neu wahardd defnyddwyr yn barhaol rhag cyflwyno neges ar y fforymau. Yn yr achos hwn, bydd ymdrechion dilynol i ailgofrestru fel defnyddiwr Adranyr Aelodau gan ddefnyddiwr gwaharddedig yn cael eu rhwystro.

Mae penderfyniadau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn derfynol. 

Nid yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goddef unrhyw lefel o gam-drin geiriol a gyfeirir at naill ai tîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn seiliedig arnynt fel unigolion  neu ar eu penderfyniadau cymedroli, neu tuag at Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru fel sefydliad. Bydd unrhyw ddefnyddwyr fforwm sy’n cam-drin y tîm ar lafar neu Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru fel sefydliad yn derbyn rhybudd ffurfiol a /neu, mewn achosion eithafol, gellir eu hatal/gwahardd o Adran yr Aelodau.

Os ydych chi am gwyno am naill ai ymatebion / penderfyniadau Tîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru neu ymatebion / penderfyniadau a wnaed ar y fforymau gan Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn uniongyrchol, yna gweler ein Polisi a Gweithdrefn Cwynion neu cysylltwch â’r Tîm yn uniongyrchol ar gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk. Gall cymedrolwyr gau unrhyw edefyn sy’n trafod penderfyniadau cymedroli blaenorol neu benderfyniadau/ymatebion Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Fforymau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gael at ddefnydd personol defnyddwyr ar-lein a, lle bo hynny’n bosibl (ac eithrio’r dyletswyddau cymedroli angenrheidiol), mae modd i ddefnyddwyr drafod pethau fel y dymunant. Fodd bynnag, pan fydd cymedrolwyr Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael gwybod am sefyllfa eithafol y mae angen cefnogaeth ychwanegol / allanol (megis rhiant/plentyn mewn trallod difrifol, mater yn ymwneud ag amddiffyn plentyn neu oedolyn bregus neu unrhyw weithgaredd anghyfreithlon arall), mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cadw’r hawl i gysylltu â defnyddiwr Adran yr Aelodau yn uniongyrchol (trwy’r manylion a roddir wrth gofrestru ar-lein). Yn ogystal, pan fydd manylion am sefyllfa yn awgrymu bod bygythiad sylweddol i berson neu bersonau, mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cadw’r hawl i gysylltu â’r awdurdodau/asiantaethau/trydydd partïon angenrheidiol (boed defnyddiwr y fforwm wedi cael gwybod pa gamau sy’n cael eu cymryd ai peidio). Mae hyn yn unol â Pholisi Preifatrwydd presennol ‘Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru’ a’i Bolisi Amddiffyn Plant ac Oedolion sy’n Agored i Niwed a bydd yn berthnasol mewn amgylchiadau eithafol iawn yn unig.

Rhoi gwybod am gynnwys fforwm Os ydych yn poeni am gynnwys postiad ar y fforwm, naill ai gan ddefnyddiwr arall neu gennych chi’ch hun, defnyddiwch y ddolen ‘riportiwch y postiad hwn’ sydd o dan y postiad dan sylw. Bydd Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymateb yn uniongyrchol i neges dim ond os yw’r person wedi cynnwys ei enw defnyddiwr ar-lein a/neu os yw’r tîm o’r farn bod angen ateb gan y tîm. Ni chaniateir camddefnyddio’r pwnc yr adroddwyd amdano yn fwriadol. Fel arall, gallwch ailgyflwyno postiadau i Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y lle cyntaf ar gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â’r Rheolau Defnydd hyn, cysylltwch â Thîm Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gwefanmabwysiadu@sirgar.gov.uk  

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cadw’r hawl i newid, golygu neu ddiweddaru’r Rheolau Defnydd hyn ar unrhyw ddyddiad penodol a heb rybudd ymlaen llaw.