
Galw o’r newydd ar y gymuned i ystyried mabwysiadu a maethu Mae angen mwy o bobl LHDTC+ i ddod ymlaen i fabwysiadu neu faethu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Penfro, Ceredigion a Phowys. Mae Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ a lansiwyd ar 3 Mawrth 2025, yn galw ar fwy o bobl o’r gymuned i ystyried mabwysiadu, yn wyneb angen brys am fwy o rieni mabwysiadol a gofalwyr maeth.
Dan arweiniad yr elusen New Family Social mae’r ymgyrch yn dwyn ynghyd asiantaethau mabwysiadu a maethu o bob cwr o’r wlad gydag ymgeiswyr posibl LHDTC+. Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chyflwyno ar y cyfryngau cymdeithasol gyda fideos a phodlediadau, yn galw ar y gymuned i feddwl sut y gallai newid bywydau yn 2025.

Yng Nghymru mae tua 7,200 o blant sy’n derbyn gofal. Y llynedd yn unig, roedd 1 o bob 6 phlentyn a fabwysiadwyd yng Nghymru i gyplau o’r un rhyw. Fodd bynnag, bu gostyngiad o 15 yn nifer gwirioneddol y plant a fabwysiadwyd gan y cyplau hyn o 2023.
Dywedodd Tor Docherty, Prif Weithredwr New Family Social, Gall pobl LHDTC+ yn y DU fabwysiadu a maethu, ac maent yn gwneud hynny, ond mae angen i fwy ohonom ddod ymlaen ar gyfer y plant sydd fwyaf agored i niwed yn ein gwlad. Byddwch yn helpu plentyn sydd wedi cael dechrau anhrefnus mewn bywyd i ddod o hyd i’w hunaniaeth, gan newid ei fywyd a’ch un chi er gwell.’

Mae mabwysiadu gyda Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn golygu y bydd gennych aelodaeth am ddim o New Family Social.
Os ydych chi’n teimlo y gallech ddarparu cartref cariadus i blentyn mewn angen, gallwn gynnig cymorth ac arweiniad i chi drwy gydol y broses. Trwy agor eich calon a’ch cartref, gallwch wneud gwahaniaeth parhaol i fywyd plentyn, gan ddarparu’r sefydlogrwydd a’r cariad y mae’n ei haeddu.
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn llawn cefnogaeth o’r gymuned LHDTC+, ac rydym yn falch o gael nifer o unigolion a chyplau LHDTC+ yn ein cymuned fabwysiadu. Gyda’n gilydd gallwn greu dyfodol gwell i blant mewn angen.
Os ydych yn byw yn ein rhanbarth Gorllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro) | Os ydych yn byw yn ein rhanbarth Canolbarth Cymru (Powys) |
Galwch: 0300 30 32 505 ebost: adoptionenquiries@carmarthenshire.gov.uk | Galwch: 01597 826052 ebost: adoption@powys.gov.uk |

