Gweminar: Rheoli Problemau gyda Golchi, Ymolchi, a Gofal Personol (Hylendid)

2 Gorffennaf 2025

Zoom | 10:00 – 11:00

Trosolwg o’r cwrs: Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar pam mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn cael trafferth gyda gofal personol fel golchi, ymolchi, cael cawod, golchi gwallt, brwsio dannedd a rheoli mislif. Gall y rhain fod yn frwydr sylweddol yn aml i blant o’r fath ac i’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Rhoddir strategaethau ac atebion i helpu gofalwyr i ddeall yn well a helpu i annog gofal personol plentyn/person ifanc.