Cymorth os cawsoch chi eich mabwysiadu

Mae gan lawer o bobl sydd wedi cael eu mabwysiadu gwestiynau am eu hanes ac eisiau cymorth i ddeall neu i ddod o hyd i’w teulu geni. Os cawsoch chi eich mabwysiadu efallai eich bod yn chwilio am gyngor a chymorth. Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wasanaeth Cymorth ar ôl Mabwysiadu a allai fod o gymorth ichi.

Os cawsoch chi eich mabwysiadu ac os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, gall Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru eich helpu i chwilio am wybodaeth ynghylch eich cofnodion geni a gall roi cyngor a chwnsela ichi.

Ond os nad ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro neu Bowys ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn siarad â’r awdurdod lleol lle rydych yn byw.

Cofnodion geni
Mae gan lawer o oedolion mabwysiedig gwestiynau am eu gorffennol. Mae darllen cofnodion yn gallu rhoi rhai atebion ichi. Efallai bydd yn anodd dod i delerau â pheth o’r wybodaeth a dyna pam y byddwch yn cael cynnig cymorth a chwnsela. Gall hyn eich helpu i ddeall sut rydych yn teimlo ynghylch y ffaith ichi gael eich mabwysiadu ac mae’n rhoi cyfle ichi drafod pam y cawsoch eich mabwysiadu, hanes eich geni a’ch teulu mabwysiadol.

I weld eich cofnodion geni, mae angen ichi gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Byddant yn ysgrifennu atoch ac yn anfon eich cofnodion at wasanaeth mabwysiadu eich Awdurdod Lleol. Ar ôl ichi gael y llythyr, bydd angen ichi drefnu apwyntiad gyda’r gwasanaeth mabwysiadu.

Os cawsoch eich mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975, mae’n rhaid ichi gael cyfweliad cwnsela ynghylch eich cofnodion geni gyda gweithiwr cymdeithasol cyn y gallwch wneud cais i’r awdurdod lleol lle rydych yn byw am gael gweld eich cofnodion mabwysiadu. Yna gallwch gael crynodeb o’r wybodaeth sydd yn eich ffeil a chopïau o ddogfennau allweddol.

Os cawsoch eich mabwysiadu ar ôl 12 Tachwedd 1975 gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r awdurdod lleol lle rydych yn byw am gael gweld eich cofnodion mabwysiadu. Yna gallwch gael crynodeb o’r wybodaeth sydd yn eich ffeil a chopïau o ddogfennau allweddol.

Helpu chi i ddod o hyd i rhieni geni (gwasanaethau cyfryngol)
Os ydych yn dymuno dod o hyd i’ch teulu geni (rhieni neu aelodau eraill o’r teulu) gallwch drafod eich disgwyliadau a’ch ofnau gyda ni, yn ogystal â chael cymorth i gael gwybodaeth o’ch cofnodion, a chyn mynd ymhellach a mynd ati i chwilio am aelodau o’ch teulu geni. Gall hyn ddigwydd naill ai drwy ein cofnodion neu drwy’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.

Lluniwyd y gofrestr cyswllt mabwysiadu er mwyn rhoi pobl fabwysiedig â’u perthnasau geni mewn cysylltiad â’i gilydd os yw’r naill a’r llall yn dymuno hynny. Nid yw’r Gofrestr yn cynnwys manylion pawb sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sy’n chwilio am aelod o’r teulu a fabwysiadwyd gan mai cofrestr wirfoddol yw hon, ac mae rhai pobl yn dewis peidio â bod ar y gofrestr.

Os ydych yn dymuno ychwanegu eich manylion at y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu, bydd angen ichi wneud cais i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Helpu i atal perthnasau geni rhag dod o hyd ichi
Fel person mabwysiedig, mae gennych hawl i osod feto absoliwt neu rannol sy’n gallu atal eich perthnasau geni rhag cysylltu â chi. Bydd y Tîm Cymorth wrth Fabwysiadu yn eich helpu a’ch cynghori os ydych yn dymuno gwneud hyn. Yna bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich cofnodion mabwysiadu.

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu

Os nad ydych yn 18 oed eto ac os oes diddordeb gennych mewn cysylltu â’ch teulu geni, mae’n bwysig eich bod yn siarad am hyn â’ch rhieni mabwysiadol yn gyntaf.

P’un a ydych wedi cael eich mabwysiadu’n ddiweddar, neu ychydig amser yn ôl, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gallu rhoi cymorth a chyngor ichi. Bydd gennych lawer o gwestiynau a gallwn ni eich helpu i ddeall sut rydych yn teimlo am gael eich mabwysiadu a rhoi cyfle ichi drafod pam y cawsoch eich mabwysiadu, hanes eich geni a’ch teulu mabwysiadol.

Cyn ichi gael eich mabwysiadu bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol wedi siarad â’ch rhieni mabwysiadol ynghylch y ffordd orau i chi gael gwybodaeth am eich teulu geni. Gall fod llythyrau’n cael eu cyfnewid unwaith neu ddwy y flwyddyn rhwng eich rhieni, brodyr neu chwiorydd neu aelodau eraill o’ch teulu geni a’ch rhieni mabwysiadol (gelwir hyn yn gyswllt Blwch Post) neu mae’n bosibl y byddwch yn cwrdd yn achlysurol. Mae’r cynllun Blwch Post yn cael ei reoli gan aelod o’n Tîm Mabwysiadu.