Hyfforddiant Byw Ar-lein
Mae ein rhaglen hyfforddiant mabwysiadu yn dal i fod ar gael i fabwysiadwyr. Er ein bod wedi gorfod gohirio ein digwyddiadau hyfforddi wyneb i wyneb, byddwn yn parhau i ddarparu ein hyfforddiant yn fyw ac ar-lein i’n mabwysiadwyr. Mae dyddiadau newydd wedi’u hychwanegu at ein rhaglen hyfforddi a byddwn yn parhau i ychwanegu mwy dros yr wythnosau nesaf.
- Grŵp Cymorth Ymwrthedd Di-drais i fabwysiadwyr – 29 Medi Archebwch Nawr
- Trosglwyddo plant o ofal maeth i leoliad mabwysiadu (Rhan 1 o 2) – 29 Medi, 12.00 – 2.30yp YN LLAWN
- Seminar Gwaith Taith Bywyd – 30 Medi, 10.30 – 11.30yb
- Mabwysiadwyr blaenorol – 1 Hydref, 7.00 – 9.00yh
- Mabwysiadwyr gyda phlant genedigol – 14 Hydref, 7.00 – 9.00yh
- Rhianta gyda PACE – 23 Hydref , Amser i’w gadarnhau Archebwch Nawr
- Seminar Gwaith Taith Bywyd – 27 Hydref, 1.30 – 2.30yp
Cofiwch gadw golwg yn ôl yma am ragor o fanylion am ein hyfforddiant byw. Cysylltwch â’r gwasanaeth mabwysiadau am fwy o wybodaeth: hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk 0300 30 32 505.
Cyrsiau Hyfforddi Ar-lein
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi ar-lein i’n mabwysiadwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Cyflwynwyd y cyrsiau gan Kate Cairns Association ac ACEducation, ac maen nhw ar gael i chi gwblhau yn eich amser eich hun ac yng nghysur eich cartref eich hun. Bydd y cyrsiau hyn yn galluogi darpar fabwysiadwyr a rhieni mabwysiadol i ehangu ar eu gwybodaeth, eu hyder a datblygu sgiliau newydd. Mae ein holl gyrsiau ar-lein am ddim i holl fabwysiadwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Cliciwch ar y ddolen am restr o’r cyrsiau sydd ar gael:
Gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd gartref – Mae Adoption UK wedi llunio gwybodaeth ddefnyddiol iawn am weithgareddau: