Bwclwch i Fyny ac Arhoswch am y Reid: Rhianta plant yn eu harddegau

13 Mawrth 2025
Zoom | 10:00 – 14:00

Hyfforddwraig:

Joan Hunt,

Mae Joan Hunt yn hyfforddwraig a chynghorydd annibynnol hynod brofiadol ym meysydd mabwysiadu a maethu. Mae hi wedi gweithio’n helaeth gyda chynghorau lleol ac asiantaethau annibynnol, gan ddarparu hyfforddiant arbenigol i weithwyr proffesiynol, gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol ac aelodau estynedig o’r teulu.

Gyda dealltwriaeth arbenigol o les plant, mae sesiynau hyfforddi Joan yn ymgorffori’r ymchwil ddiweddaraf, arferion gorau a fframweithiau cyfreithiol i sicrhau bod cyfranogwyr yn ennill gwybodaeth werthfawr a phragmataidd. Mae hi wedi cyflwyno hyfforddiant ledled y DU ac ymhellach, gan helpu i gyfarparu’r rhai sy’n ymwneud â mabwysiadu â’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i gefnogi plant a theuluoedd yn effeithiol.

Cynnwys y Cwrs:

Mae blynyddoedd yr arddegau yn gyfnod o newid mawr i unrhyw berson ifance ond eto i’r rhai sydd wedi profi trawma, cam-drin a cholled mae heriau sylweddol i’w llywio. Mae’r hyfforddiant hwn yn ceisio dod â dealltwriaeth o oblygiadau hanes personol person ifanc,

datblygiad ymennydd pobl ifanc yn eu harddegau ac effaith cam-drin a

thrawma ar eu hymddygiad cyflwyno. Ei nod yw rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangenar

ofalwyr a rhieni i gefnogi a llywio’r teulu a’r person ifance yn ystod y cyfnod hollbwysig o ddatblygiad. Bydd y sesiwn hyfforddi yn ystyried: effaith cam-drin a thrawma ar weithrediad person ifanc. , deall ymennydd yr arddegau, strategaethau, helpu’r person ifanc i fyw gyda’i orffennol a darganfod pa cymorth sydd ar gael.

Photograph of a male adopter sitting next to his teenage son on a park bench. The view is from behind.