Hyfforddiant: Cyflwyniad i Ddad-ddwysáu 

17 Mehefin 2025

Zoom | 10:00 – 13:00

Trosolwg o’r cwrs: Yn y cwrs hwn byddwn yn archwilio pam y gallai plant fod yn dreisgar, a thrwy hynny ddatblygu gwell dealltwriaeth o ymddygiadau eithafol. Byddwn yn cyflwyno ymyriadau cynnar a strategaethau dad-ddwysáu. Byddwn yn cyflwyno strategaethau ymarferol i gadw’r plentyn yn ddiogel ac i osgoi gwrthdaro. Yn olaf, byddwn yn ymchwilio i effaith ymddygiad treisgar gan y plentyn ar y rhieni, gan archwilio’r pwysigrwydd o hunanofal.