Beth sy’ mlaen

Isod gallwch weld y digwyddiadau a’r cyrsiau hyfforddiant a fydd yn cael eu cynnal yn fuan.

Os ydych yn meddwl am fabwysiadu, mae ein digwyddiadau gwybodaeth yn ffordd wych o ddysgu am fabwysiadu ac maent yn rhoi cyfle ichi siarad ag aelodau o’n tîm.

Hefyd, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant a gweithdai i’n rhieni mabwysiadol i’w cefnogi i roi’r gorau i’w plant.

Rydym yn trefnu sawl grŵp cymorth i blant a fabwysiadwyd, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol a theuluoedd. I gael gwybodaeth am y grwpiau cymorth hyn, cysylltwch â ni. E-bostiwch ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0300 30 32 505.

* Cliciwch ar enw pob cwrs i gael mwy o wybodaeth.

Cyrsiau e-ddysgu i Fabwysiadwyr

Mae ein cyrsiau e-ddysgu yn ôl! Rydym bellach yn cynnig cyrsiau e-ddysgu i fabwysiadwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i’w cwblhau am ddim. Gyda 80 o gyrsiau i ddewis ohonynt ar draws dau blatfform dysgu gan gynnwys KCA a Click Learning, mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i’w cwblhau o gysur eich cartref eich hun. I weld a lawrlwytho’r rhaglenni cyrsiau e-ddysgu ar gyfer KCA a Click Learning cliciwch ar y dolenni isod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cwblhau unrhyw un o’n cyrsiau e-ddysgu, cysylltwch â ni drwy e-bost at hyfforddiantmabwysiadu@sirgar.gov.uk

Hyfforddiant ar-lein Adoption UK

Mae Adoption UK ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant ar lein i rieni mabwysiadol yng Nghymru. Mae’r cyrsiau yn addas i rieni mabwysiadol, gofalwyr carennydd, gofalwyr maeth a gweithwyr Cymdeithasol eu mynychu ochr wrth ochr a’i gilydd ac maent AM DDIM.

Am restr o gyrsiau sydd ar gael cliciwch ar y ddolen isod.