Mae’r Tîm Mabwysiadu yn gweithio hefyd gyda theuluoedd geni, gan eu paratoi nhw ar gyfer mabwysiadu eu plentyn. Yn ogystal, mae’r tîm yn rhoi cyngor i weithwyr proffesiynol a theuluoedd ynghylch paratoi gwybodaeth ‘diweddarach mewn bywyd’ i’r plentyn.
Os cafodd rhywun yn eich teulu chi eu mabwysiadu, naill ai’n ddiweddar neu beth amser yn ôl, efallai y byddech yn dymuno gwybod rhagor am yr hyn a ddigwyddodd iddynt. Gall Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru roi cyngor, cymorth ac arweiniad i’ch helpu.
Os ydych yn rhiant geni
Os yw Gweithwyr Cymdeithasol yn gwneud cynlluniau i’ch plentyn gael ei fabwysiadu, efallai byddwch yn teimlo’n ddryslyd ac yn anhapus ac yn dymuno siarad â rhywun. Gall Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru roi cyngor ichi am yr hyn sy’n digwydd, beth fydd yn digwydd nesaf a beth fydd hynny’n ei olygu i chi ac i’ch plentyn. Os yw’n well gennych siarad â rhywun arall heblaw’r gwasanaethau cymdeithasol, gallwn roi manylion ichi am fudiadau eraill sy’n gallu helpu.
A gafodd eich phlentyn eu mabwysiadu? Efallai hoffech archwilio’r phosibilrwydd o wneud cysylltiad gyda’ch phlentyn, unwaith eu bod nhw’n oedolyn?
Rydym yn gallu darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael i chi.
Nid ydym yn darparu gwasanaethau chwilio neu chyfryngol, ond rydym yn gallu’ch gyfeirio tuag at elusennau a gwasanaethau eraill â fasau’n gallu’ch cymorthwyo. Rhaid nodi fodd bynnag fod rhaid talu er mwyn defnyddio’r gwasanaethau hon.
Os oes gennych frodyr a chwiorydd sydd wedi cael eu mabwysiadu
Ambell waith ni all brodyr a chwiorydd fyw gyda’i gilydd yn yr un teulu mabwysiadol. Ar adeg y mabwysiadu, byddai’r Gweithiwr Cymdeithasol wedi trafod yr hyn fyddai orau ar gyfer eich teulu a byddai hyn wedi cynnwys a ddylech chi fyw gyda’ch gilydd a sut a hefyd a ddylech chi gadw mewn cysylltiad.
Mae cynllun Blwch Llythyrau gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n rhoi dull o gadw mewn cysylltiad ichi sydd wedi’i gynllunio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.
Mabwysiadu yn y teulu estynedig
Os yw aelod o’ch teulu (e.e. nith, nai, ŵyr neu wyres) wedi cael eu mabwysiadu, mae’n bosibl yr hoffech siarad am yr hyn ddigwyddodd a’r effaith a gafodd hyn arnoch chi. Gall ein gwasanaeth cymorth gynnig cyngor ac arweiniad ichi.