Mae sicrhau bod Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy ddefnyddio’r wybodaeth. Defnyddir y termau ‘gwybodaeth’ a ‘data personol’ drwy’r hysbysiad preifatrwydd hwn a’r un yw eu hystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio’n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â’ch data personol.