Mae ein Tîm Cymorth Mabwysiadu yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i bawb y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt, gan gynnwys plant a fabwysiadwyd, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol a’u teuluoedd sy’n byw yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cymorth i rieni mabwysiadol
Byddwch yn cael cymorth a chyngor Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu penodol, a bydd hynny’n digwydd o ddechrau’r broses asesu hyd at y lleoliad ac wedi hynny. Os oes anghenion ychwanegol gan eich plentyn mabwysiadol, mae mwy o gymorth ar gael drwy asesu eu hanghenion ychwanegol. Gall hyn gynnwys hyfforddiant, cwnsela a chyngor.
Cymorth os cawsoch chi eich mabwysiadu
Mae gan lawer o bobl sydd wedi cael eu mabwysiadu gwestiynau am eu hanes ac eisiau cymorth i ddeall neu i ddod o hyd i’w teulu geni. Os cawsoch chi eich mabwysiadu efallai eich bod yn chwilio am gyngor a chymorth. Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wasanaeth Cymorth ar ôl Mabwysiadu a allai fod o gymorth ichi.
Cymorth i rieni/teuluoedd geni
Mae’r Tîm Mabwysiadu yn gweithio hefyd gyda theuluoedd geni, gan eu paratoi nhw ar gyfer mabwysiadu eu plentyn. Yn ogystal, mae’r tîm yn rhoi cyngor i weithwyr proffesiynol a theuluoedd ynghylch paratoi gwybodaeth ‘diweddarach mewn bywyd’ i’r plentyn..