Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn cael llawer o gwestiynau am fabwysiadu, felly efallai y bydd gennym eisoes yr ateb i unrhyw gwestiynau sydd gennych isod. Os na, yna cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.

Cwestiynnau Cyffredin
Ydw i’n rhy hen i fabwysiadu?
Rhaid i chi fod dros 21 mlwydd oed i fabwysiadu, ond does dim uchafswm oedran. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi’n ddigon ffit ac iach i gefnogi plentyn hyd at pan fydd yn oedolyn. Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig sefydlogrwydd, diogelwch, amgylchedd cynnes a diogel a digon o amser i fodloni anghenion corfforol ac emosiynol plentyn.
Pa help fydda i’n ei gael ar ôl mabwysiadu plentyn?
Mae ein profiad yn dangos y gall teuluoedd mabwysiadol fod angen cefnogaeth ar adegau gwahanol dros y blynyddoedd. Dyna pam, ynghyd â chefnogaeth yn ystod y broses fabwysiadu, rydym yn cynnig cefnogaeth i’n teuluoedd mabwysiadol ar ôl iddynt fabwysiadu am gyn hired ag sydd angen, a phryd bynnag y bydd ei angen. Mae ystod y gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys cyngor, cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, grwpiau, cefnogaeth therapiwtig, cefnogaeth ariannol a hyfforddiant.
Pwy yw’r plant sydd angen eu mabwysiadu?
Bydd angen cariad a chefnogaeth ar bob plentyn sy’n aros i gael eu mabwysiadu i’w helpu i ffynnu, a sicrwydd y bydd eu rhieni newydd yn eu rhoi nhw’n gyntaf bob tro. Bydd plant sydd angen teuluoedd mabwysiadol newydd yn debygol o fod wedi cael profiadau plentyndod anodd iawn, a bydd gan rai broblemau fydd angen eu goresgyn. Maent yn debygol o fod un ai’n:
• fabis sydd wedi cael dechrau anodd i’w bywydau
• plant hŷn,
• â brodyr a chwiorydd y mae angen iddynt aros gyda nhw, neu
• bydd ganddynt anghenion addysgol neu ddysgu arbennig neu anableddau.
A fydd rhaid i mi gwrdd â rhieni neu berthnasau biolegol eraill y plentyn?
Mae mabwysiadu wedi dod yn drefn mwy ‘agored’ i lawer o blant. Golyga hyn y dylai plant wastad wybod eu bod nhw wedi’u mabwysiadu a phwy yw eu teulu ‘genedigol’. Byddwn yn trafod ffyrdd y gallwch gynorthwyo plant gyda hyn o adeg eu lleoli a phan fyddant yn tyfu i fyny. Mae bellach yn arfer cyffredin i fabwysiadwyr gyfarfod â theulu geni’r plentyn y maen nhw am ofalu amdano, ond dim ond ar ôl iddo gael ei asesu i fod yn iawn o dan yr amgylchiadau y mae’r cyfarfod yn digwydd. I rai o blant, bydd angen cadw mewn cysylltiad â’u brodyr a’u chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu sy’n bwysig iddyn nhw. Byddwn yn trafod hyn gyda chi ac yn ateb unrhyw bryderon all fod gennych. Bydd unrhyw drefniadau yn ddiogel ac yn anfygythiol, a dim ond yn digwydd os yw’n teimlo’n iawn i’r plentyn.
Alla i fabwysiadu os oes gennyf anifeiliaid anwes?
Os nad yw cŵn/cathod neu unrhyw anifeiliaid anwes eraill sydd gennych yn bygwth iechyd neu ddiogelwch plentyn, rydym yn fodlon ystyried cais gennych. Mae rhai anifeiliaid anwes hefyd yn ddefnyddiol o ran helpu plentyn i setlo i mewn i gartref newydd.
Alla i fabwysiadu os nad ydw i neu fy mhartner yn ddinesydd y DU?
Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl sy’n breswylwyr yn y DU, neu sy’n byw ym Mhrydain. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu ond nid ydych yn siŵr am eich statws, a byddwn yn falch o roi cyngor i chi.
Alla i fabwysiadu os ydw i’n hoyw neu’n drawsryweddol?
Mae mabwysiadu’n agored i bobl all fodloni anghenion plant sy’n aros am deuluoedd mabwysiadol, ac rydym yn croesawu ymholiadau gan bob math o fabwysiadwyr, o bob rhan o’r sbectrwm hunaniaeth rhywedd neu rywioldeb.
Alla i fabwysiadu os ydw i’n sengl?
Gall pobl sengl fabwysiadu, dynion a menywod. Does dim yn anarferol am rianta sengl – mae oddeutu chwarter o gartrefi’r DU sydd â phlant dibynnol yn gartrefi rhiant sengl. Rydym yn cefnogi mabwysiadwyr o ystod eang o fathau o deuluoedd gydol y broses, ac rydym wedi helpu llawer o bobl sengl i lwyddo i fabwysiadu.
Alla i fabwysiadu os oes gennyf broblem iechyd meddwl megis iselder neu orbryder?
Nid yw cyflyrau megis iselder neu orbryder yn rhwystr o ran mabwysiadu, yn dibynnu ar eich hanes personol eich hun. Fodd bynnag, bydd yn cael ei ystyried pan fyddwch yn ymgeisio, i sicrhau eich bod chi’n gallu bodloni anghenion y plentyn.
Faint mae’n costio i fabwysiadu plentyn o Gymru neu’r DU?
Nid ydym yn codi tâl i asesu neu gymeradwyo mabwysiadwyr.
Does dim costau uniongyrchol eraill ynghlwm wrth fabwysiadu, ond fel sy’n wir i bob rhiant bydd rhai pethau y bydd angen i chi eu prynu pan fydd eich plentyn yn cyrraedd. Mae’n bosibl y byddwch hefyd angen newid ychydig ar eich ffordd o fyw megis lleihau eich oriau gwaith, all gael effaith ar eich incwm.
Pan wneir cais mabwysiadu i’r llys, mae ffi llys untro. Os yw dau blentyn neu fwy mewn grŵp o frodyr a chwiorydd yn cael eu mabwysiadu ar yr un pryd, dim ond un ffi a godir.
Ble arall alla i gael cyngor neu wybodaeth?
Mae sawl sefydliad sy’n cynnig llawer o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am fabwysiadu, Dyma rai ohonynt:
Adoption UK
Adoption UK yw’r unig elusen hunan-gymorth genedlaethol a redir gan ac ar gyfer rhieni mabwysiadol a gofalwyr maeth. Mae’n cynnig cymorth cyn, yn ystod ac yn dilyn mabwysiadu.
Ffoniwch 0844 8487900 | Gwefan www.adoptionuk.org
AFA Cymru (Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu)
Ffôn: 029 20761155 neu 01745 336336
E-bost: info-afacymru@stdavidscs.org
Y wefan: www.afacymru.org
New Family Social
New Family Social yw’r unig elusen yn y DU i fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LGBT (lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol).
Ffoniwch 0843 289 9457 | Gwefan www.newfamilysocial.org.uk
Alla i newid enw fy mhlentyn?
Bydd eich plentyn yn cymryd eich cyfenw chi pan fydd y Gorchymyn Mabwysiadu terfynol yn cael ei gadarnhau. Mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn briodol i newid neu amrywio eu henw cyntaf ond gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am hyn. Bydd angen i chi feddwl yn ofalus am yr effaith y gallai hyn ei gael ar y plentyn, ar yr adeg ac yn y dyfodol, a sut all ei hunaniaeth gael ei heffeithio. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol ar gael i drafod hyn gyda chi ar yr adeg.
Ydy'r broses fabwysiadu yr un fath i lysrieni?
Na, mae’r broses fabwysiadu ar gyfer llysrieni’n wahanol iawn. Siaradwch â ni i gael cyngor a gwybodaeth.
Fel gofalwr maeth, alla i fabwysiadu plentyn dan fy ngofal?
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd yn briodol i chi fabwysiadu plentyn dan eich gofal. Bydd rhaid i chi hefyd fynd drwy’r broses asesu i sicrhau eich bod yn addas i fabwysiadu. Siaradwch â gweithiwr cymdeithasol y plentyn, a fydd yn rhoi cyngor i chi ar y broses.
Pa mor hir fydd y broses asesu yn para?
Ar hyn o bryd, ni ddylai’r amser asesu gymryd mwy na 6 mis. Bydd Cam 1, yn canolbwyntio ar y gwiriadau a’r geirdaon sydd eu hangen ar gyfer y cais, a ni ddylai hwn gymryd mwy na 2 fis. Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar y rhannau manylach o’r asesiad, ac ni ddylai gymryd mwy na 4 mis. Rydym yn cydnabod bod pawb yn wahanol ac y bydd rhai amgylchiadau unigol yn gallu effeithio ar yr amser y mae’n cymryd. Ein nod yw sicrhau eich bod chi’n cael gwybodaeth gyfredol ar bob cam o’r ffordd ac yn gwybod yr hyn a ddisgwylir gennych a beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni o ran pa mor hir fydd pethau’n cymryd.
Ar gyfer y rheiny sydd wedi mabwysiadu o’r blaen a gofalwyr maeth, byddwn yn ceisio crynhoi’r broses yn amserlen fyrrach o 4 mis. Efallai na fydd hyn yn bosibl o hyd, ond byddwn yn cydnabod y profiad sydd gennych eisoes o ran gofalu am blant sydd dan ofal yr awdurdod lleol ac yn ystyried hyn.
Alla i fabwysiadu os oes gennyf gofnod troseddol?
Ni fydd bob trosedd yn eich atal chi rhag mabwysiadu – bydd rhai yn, ac mae’r rhain fel arfer yn droseddau yn erbyn plant a rhai troseddau yn erbyn oedolion eraill. Fodd bynnag, os oes gennych gofnod troseddol, siaradwch â ni am hyn a byddwn yn fodlon rhoi cyngor pellach i chi.
Alla i fabwysiadu os oes gennyf blant yn barod?
Ni fydd bod â phlant eich hun yn golygu nad ydych yn gymwys i fabwysiadu, os ydynt yn byw gartref neu os ydynt wedi tyfu i fyny ac wedi symud o adref. Yr unig beth yr ydym yn gofyn amdano yw bod eich plant yn hapus gyda’ch penderfyniad a’ch bod chi’n gallu rheoli eu hanghenion ochr yn ochr â gofalu am blentyn mabwysiedig. Rydym yn awgrymu bwlch o ddwy flynedd rhwng oed y plant sydd eisoes yn eich teulu ac unrhyw sy’n cael eu lleoli i’w mabwysiadu.
Alla i weithio a mabwysiadu?
Cewch, ond bydd rhaid i chi gael amser i ffwrdd o’r gwaith i helpu’r plentyn i setlo yn eich cartref. O ran plant ifanc iawn, mae’n bwysig eich bod adref am gyfnod mor hir â phosibl. Hyd yn oed pan fyddan nhw yn yr ysgol, efallai y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser iddyn nhw ddod i arfer â’r drefn newydd, felly efallai y bydd rhaid i chi fod wrth law pan fyddan nhw eich angen. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn hyblyg ac yn gallu trefnu eich gwaith o amgylch anghenion eich plentyn mabwysiadol, nid i’r gwrthwyneb.
Alla i fabwysiadu os ydw i’n ‘smygu?
Mae’n well i bob plentyn fyw mewn amgylchedd di-fwg ac felly mae’n bosibl na fydd ymgeiswyr sy’n ‘smygu (gan gynnwys defnyddio e-sigaréts) yn ei chael hi’n hawdd i gael eu paru gyda phlentyn o’i gymharu â rhai nad ydynt yn ysmygu. Ni fydd plant 5 oed neu iau, neu blentyn o unrhyw oedran gyda phroblemau anadlu neu broblemau cardiaidd neu anabledd yn cael eu lleoli gyda mabwysiadwyr arfaethedig sy’n ysmygu. Rydym yn fodlon trafod hyn gyda chi, yn enwedig os ydych wedi penderfynu rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn ymgeisio i fabwysiadu.
Alla i fabwysiadu os ydw i dros bwysau?
Gallwch. Dim ond os ydyw’n effeithio ar eich iechyd neu’ch gallu i ofalu am blentyn fydd eich pwysau’n broblem. Bydd eich Meddyg Teulu yn cofnodi eich pwysau yn rhan o’r prawf meddygol ynghyd ag unrhyw faterion ffordd o fyw.
Alla i fabwysiadu os ydw i’n anabl?
Yn sicr. Nid yw bod ag anabledd neu gyflwr meddygol yn rhwystr o ran mabwysiadu. Bydd Ymgynghorwyr Meddygol yr Asiantaeth yn edrych ar y wybodaeth a ddarparwyd gan eich meddyg teulu, a bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn ystyried sut all hyn effeithio ar eich iechyd, ffordd o fyw, a gallu i rianta.
A fydd fy iechyd yn effeithio ar fy ngallu i fabwysiadu?
Nid yw llawer o gyflyrau iechyd yn rhwystr o ran mabwysiadu, ac rydym yn croesawu trafodaethau am gyflyrau iechyd. Yn ôl rheoliadau statudol, mae angen i bob mabwysiadwr arfaethedig fod wedi cael archwiliad meddygol llawn gyda’i feddyg teulu ei hun, a bydd Ymgynghorydd Meddygol yr asiantaeth yn rhoi gwybod i’r asiantaeth am unrhyw faterion all effeithio ar eich cais. Ein prif bryder yw bod gennych yr iechyd a’r egni sydd ei angen i fodloni anghenion y plentyn hyd at nes fydd yn oedolyn.
A oes ots am fy sefyllfa ariannol a’m statws cyflogaeth?
Byddwn yn ystyried eich sefyllfa ariannol a’ch statws cyflogaeth, ond ni fydd bod ar incwm is neu’n ddi-waith yn eich gwneud chi’n anghymwys, cyn belled ag y byddwch yn gallu rhoi cartref cariadus a diogel i blentyn.
Gallwch fod mewn gwaith neu gartref llawn-amser i fabwysiadu. Gofynnwn eich bod chi’n ystyried anghenion y plentyn wrth feddwl am a ddylech ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb mabwysiadu. Deallwn y byddwch angen dychwelyd oherwydd rhesymau ariannol o bosibl, a gallwn helpu chi i feddwl am sut fyddwch yn rheoli hyn i’r plentyn. Byddwn yn awgrymu ar gyfer y rhan fwyaf o blant y bydd angen gofal cyson o leiaf un o’r mabwysiadwyr am gyfnod ar ôl cael eu lleoli; ac mae gan y rhan fwyaf o fabwysiadwyr hawl gyfreithiol i gael absenoldeb mabwysiadu a gallwn drafod sut mae hyn yn gweithio gyda chi, a faint o amser i ffwrdd o’r gwaith allwch chi ei gael.
Alla i fabwysiadu os nad ydw i’n berchen ar fy nghartref fy hun?
Does dim angen i chi gael cartref eich hun, ond mae angen i chi fod yn sefydlog mewn llety diogel sy’n addas ar gyfer plentyn. Fel arfer, bydd hyn yn golygu bod ag ystafell sbâr, ynghyd â byw yn rhywle yr ydych yn bwriadu aros yno am gyfnod o amser er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i’r plentyn. Rydym yn edrych ar bob achos yn seiliedig ar amgylchiadau personol, felly beth am gysylltu â ni i drafod eich amgylchiadau.
Beth fydd yn digwydd os ydw i wedi cael triniaeth ar gyfer anffrwythlondeb?
Mae rhai, ond nid pawb sy’n mabwysiadu, wedi cael profiad o ryw fath o archwiliad neu driniaeth anffrwythlondeb. Rydym yn awgrymu eich bod chi’n cymryd ychydig o amser ar ôl i’r driniaeth ddod i ben cyn dechrau ar y broses fabwysiadu; fel arfer bydd hyn oddeutu 6 mis i sicrhau digon o amser rhwng y ddau i addasu’n emosiynol a/neu wella. Y rheswm dros hyn yw gall rhianta plant sydd wedi cael profiadau anodd ar ddechrau eu bywyd fod yn heriol yn emosiynol, a gall achosi straen ychwanegol i rai mabwysiadwyr nad ydynt o bosibl yn barod am hyn. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i glywed gennych felly siaradwch â ni am eich sefyllfa bresennol a byddwn yn eich helpu chi i benderfynu pryd fyddai’r amser cywir i ymgeisio.