Mabwysiadu brodyr a chwiorydd

Mae gennym le i fwy nag un plentyn yn ein cartref a’n calonnau!”

Cefndir

Roeddem ni’n dau wedi trafod a chytuno os na fyddai Ffrwythloni In Vitro (IVF) yn gweithio i ni ar ôl un neu ddau dro, y byddem yn cychwyn ar y broses mabwysiadu gan ein bod yn hyderus y gallen ni roi cartref cariadus a diogel i blentyn neu blant!

Y broses fabwysiadu

Profodd y broses mabwysiadu yn heriol iawn ar adegau, ond doedden ni ddim yn disgwyl iddo fod yn hawdd!  Roedd ambell i ran yn symud yn hwylus ac yn weddol slic, ond wrth gwrs oherwydd natur anodd a sensitif mabwysiadu – cafwyd cyfnodau o oedi yn disgwyl penderfyniadau gan eraill neu yn aros i’r llys fynd drwy’r camau angenrheidiol.  Roedd gennym weithiwr cymdeithasol arbennig, a oedd wedi ein cynghori a mentora drwy gydol y broses.  Roedd yn ein hannog i ystyried beth oedd orau i ni bob amser, ac roedd yna un cyfnod pan bu’n rhaid i ni ystyried os oedden ni’n gallu aros gyda’r “match”.  Fe benderfynom ni ar ôl llawer o drafod ac ystyried, bod y ddau fach gwerth aros amdanynt.

Penderfynu mabwysiadu brawd a chwaer

Roedd y penderfyniad i ystyried mabwysiadu brawd a chwaer yn un hawdd o safbwynt ein dymuniad i gadw brawd a chwaer gyda’i gilydd ac o safbwynt ymarferol, bod gennym le i fwy nag un plentyn yn ein cartref a’n calonnau!  Roedd y sgyrsiau a gawsom gydag ein gweithiwr cymdeithasol hefyd wedi ein cynorthwyo i fod yn ffyddiog yn ein penderfyniad.

Sut oedd pethau pan ddaethant i fyw atom?

Bron i ddwy flynedd yn union wedi i ni gyflwyno’r ffurflen gais mabwysiadu, cyrhaeddodd dau gorwynt bach ein tŷ ni, a’i droi’n gartref swnllyd, hapus a llawn cawdel bendigedig!  Yn amlwg, roedd newid byd llwyr i ni ac iddyn nhw, ac roedd yr wythnosau cyntaf o fod gyda’n gilydd yn flinedig, yn hwyl, yn flinedig, yn heriol ac yn flinedig!  Cafwyd digon o gefnogaeth yn ystod y cyfnod cyflwyniadau a setlo ac fe gadwon ni gysylltiad gyda’r teulu maeth er mwyn cefnogi’r plant a ninnau.  Roedd y plant yn ymdopi gyda theulu, ardal ac iaith newydd ac rydym yn sicr bod y ffaith eu bod gyda’i gilydd o fudd a chymorth enfawr iddyn nhw.  O fewn tri mis roedd y ddau wedi setlo’n dda gyda ni ac yn yr ardal a dod yn blant bach dwyieithog.

Rhwydwaith Cefnogol

Rydym wedi bod yn lwcus i adnabod teuluoedd mabwysiedig eraill yn yr ardal, felly mae hynny wedi rhoi cyfle i ni drafod, holi a chymharu nodiadau bob hyn a hyn, yn enwedig os oes rhywbeth heriol wedi dod ar ein traws.  Bydden ni’n cynghori unrhyw un i wneud defnydd o rwydweithiau cefnogol, anffurfiol neu ffurfiol ac mae ein gweithiwr cymdeithasol wastad wedi bod yno i ni os oedd angen a phe bai unrhyw fater anodd yn codi yn y dyfodol, gwn bod gennym gefnogaeth.

Stori bywyd

Pob hyn a hyn mae cwestiynau yn codi gan y plant am eu gorffennol, weithiau mae’r cwestiwn yn codi’n annisgwyl a rhaid ymateb yn ystwyth a chadarnhaol.  Rydym yn atgyfnerthu negeseuon positif ond gonest ac yn defnyddio lluniau ac enwau.  Rydym hefyd wedi creu llun o goeden sy’n dangos y gwreiddiau o dan y pridd, eu tyfiant nhw a’r canghennau teulu a ffrindiau sydd yn eu hamgylchynu ac yn tyfu nawr.

O’r diwrnod cyntaf hyd heddiw, fydden ni ddim yn newid dim am y ddau gorwynt, ein teulu ni!

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi roi cartref cariadus i grŵp brodyr a chwiorydd, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy o wybodaeth am y broses.

Ffoniwch 0300 30 32 505, neu e-bostiwch ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk

Facebook @Adoptmwwales Twitter @Adoptmw_wales