Mabwysiadu plentyn o wlad dramor

O ran mabwysiadu plentyn o wlad arall, dylech ddewis gwlad y mae gennych gysylltiadau â hi neu wybodaeth am ei diwylliant, ei hanes a’i hiaith. Mae’n bwysig hefyd fod y plentyn yn sefydlu ac yn cynnal cysylltiadau â’i wlad/gwlad enedigol a bod y rhieni sy’n mabwysiadu yn ystyried materion yn ymwneud â hunaniaeth a gwahaniaethu posibl yn y dyfodol.

Mae’r broses asesu yn debyg i’r broses ar gyfer mabwysiadu plentyn o’r Deyrnas Unedig ond ar ddiwedd y broses, anfonir yr asesiad at Lywodraeth Cymru er mwyn cael tystysgrif cymeradwyaeth. Bydd y dystysgrif hon yn cael ei hanfon at yr Asiantaeth yn y wlad o’ch dewis a chlustnodir plentyn sy’n cyfateb i’r proffil yn eich asesiad. Fel rhan o’r cyflwyniadau, bydd yn rhaid ichi deithio i’r wlad lle mae’r plentyn yn byw.

Mae’n bosibl ambell waith eich bod wedi clustnodi plentyn cyn i’r broses asesu ddechrau ac mae’n bwysig deall na fydd cael eich cymeradwyo fel mabwysiadwr yn golygu o anghenraid y gellir dod â’r plentyn i mewn i’r Deyrnas Unedig a bydd angen i Asiantaeth Ffiniau’r DU gael ei bodloni fod mynediad yn briodol.

Mae yna gostau yn gysylltiedig â hyn ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru bydd yn rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cael asesiad cyn mabwysiadu plentyn o wlad arall dalu ffi i gwblhau’r asesiad. Mae’n bwysig ystyried y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio, ffioedd cyfreithiol ac ati.



› www.gov.uk/child-adoption/adopting-a-child-from-overseas