03 Chwefror 2021
Microsoft Teams | 10.30yb – 11.30yb
Hyfforddwr: DC Gareth Jordan – Heddlu Dyfed Powys
I bwy?
Rhieni Mabwysiadol, Gofalwyr Maeth a Gweithwyr Proffesiynol Gwaith Cymdeithasol.
Beth yw’r amcanion?
Bydd y cwrs hwn yn galluogi cyfranogwyr i:
- Ennyn gwybodaeth am yr ystod o risg sy’n gysylltiedig â defnyddio’r rhyngrwyd a ffonau symudol.
- Ddeall y defnydd o Dechnolegau Rhwydwaith Cymdeithasol gan blant a phobl ifanc.
- Wybod sut i ddechrau amddiffyn plant a phobl ifanc rhag risgiau Rhwydweithio Cymdeithasol.
Sut y bydd y cwrs yn gwneud gwahaniaeth?
Erbyn diwedd y cwrs bydd gan gyfranogwyr fwy o ymwybyddiaeth o heriau’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol a sut i ymdopi gyda’r rhain.