19 Medi 2022
Zoom | 6:30yh – 9yh
Hyfforddwr
Philippa Williams – Adoption UK
Beth yw’r amcanion?
Mae rhieni mabwysiadol sydd wedi mynychu cyrsiau hyfforddi Adoption UK ar Waith Taith Bywyd a Chyswllt yn aml yn gofyn sut i gael sgyrsiau anodd gydâ’u plant, yn enwedig am y profiadau a’r ymddygiad trawmatig a arweiniodd at blant i fethu â byw gyda rhieni biolegol, aelodau o’r teulu genedigol neu gofalwyr maeth. Nod y sesiwn hon yw mynd i’r afael â’r materion hyn yn fwy manwl a chanolbwyntio ar sut y gallwn ddechrau siarad am y pynciau anodd iawn hyn o oedran cynnar iawn.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr siarad am y canlynol:
- Beth i’w rannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau
- Helpu plant i siarad â’u cyfoedion am gael eu mabwysiadu
- Helpu plant i ddeall sut mae ein hymennydd yn gweithio