Beth sy’n bod arnaf i?

3 Mehefin 2024
Zoom | 10yb – 11yb

Hyfforddwyr: NATP – National Association of Therapeutic Parents

Mae rhieni yn aml yn gweld hi’n anodd cael y diagnosis cywir ar gyfer eu plentyn.

Sut mae rhieni’n gwybod mai dyma’r un iawn? Yn aml bydd rhiant yn teimlo bod rhywbeth mwy difrifol o’i le, ond mae hyn wedi’i leihau, yn ogystal gall gymryd amser hir iawn i weld yr ymgynghorydd cywir neu gael diagnosis ffurfiol/cywir.

Ymunwch â ni wrth i ni eich cefnogi i wneud synnwyr o’r holl gyflyrau gwahanol y mae plant yn cael eu labelu â nhw a sut y gall Rhianta Therapiwtig gefnogi’r ymddygiadau y maent yn eu harddangos. Byddwn hefyd yn trafod sut y gall cael diagnosis ddatgloi cefnogaeth a gwell dealltwriaeth gan eraill o pam mae eich plentyn yn gwneud y pethau gwnânt.

**Gall y rhai na allant ddod yn bersonol gael dolen mynediad 7 diwrnod â chyfyngiad amser i’r weminar wedi’i recordio. Rhowch wybod i’r trefnydd hyfforddiant ymlaen llaw os na allwch fynychu.**